Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

Ymgysylltu a chysylltu

  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i gydweithredu a chydweithio’n agos ar bob lefel ar draws y ddau sefydliad i sicrhau bod defnyddwyr yn yr Alban, yng ngweddill y DU ac yn ehangach yn parhau i gael eu diogelu.
  • Bydd yr uwch-swyddogion sy’n gyfrifol am bob rhan o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ynghyd â’r weithrediaeth, yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tri mis (neu’n amlach, os bydd angen).
  • Mae “uwch-swyddogion” yn cyfeirio at gyfarwyddwr neu bennaeth pob maes; mae’r ‘weithrediaeth’ yn cyfeirio at Brif Swyddog Gweithredol pob sefydliad.
  • Bydd cyfarfodydd uwch-swyddogion yn cael eu cynnal yn Lloegr ac yn yr Alban bob yn ail (neu, fel arall, fel y cytunir gan uwch-swyddogion yr ASB ac FSS. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn o gyfarfod rhithwir). 
  • Bydd Cadeirydd yr ASB a Chadeirydd FSS yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, a bydd pob cyfarfod yn cael ei gynnal yn Lloegr ac yn yr Alban bob yn ail (neu, fel arall, fel y cytunir gan y ddau Gadeirydd, gan gynnwys yr opsiwn o gyfarfod rhithwir).

Trin digwyddiadau a gwydnwch

  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i sicrhau eu bod yn meddu ar y gallu a’r capasiti i ymdrin â digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid ac y byddant yn gweithio mewn partneriaeth a rhannu adnoddau fel y bo angen i sicrhau camau cadarn i ganfod pob digwyddiad bwyd a bwyd anifeiliaid (i ddysgu mwy am ddigwyddiadau darllenwch yr adran ‘digwyddiadau ac achosion’).
  • Bydd digwyddiadau’n cael eu rheoli ar sail pedair gwlad i sicrhau egwyddorion cyffredin o ran y dulliau a ddefnyddir, a hynny wrth gydnabod yr angen am hyblygrwydd i ymateb yn lleol yn seiliedig ar ofynion llywodraeth ddatganoledig / y diwydiant.
  • Mae’r ddau gorff yn cytuno i sicrhau bod y llall yn cael ei hysbysu, ar y cyfle cyntaf, am fanylion digwyddiadau gwirioneddol neu bosib mewn perthynas â bwyd neu fwyd anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys signalau derbyn a rheoli.
  • Mae’r ddau gorff yn cytuno i wneud trefniadau rhannu data angenrheidiol i reoli digwyddiadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i’r naill a’r llall gael mynediad at gronfeydd data mewnol ei gilydd, lle y bo’n angenrheidiol ac yn bosib, ac o fewn gallu technegol y ddau sefydliad. Lle nad yw hyn yn bosib, caiff adroddiadau ynghylch digwyddiadau eu rhannu.
  • Mae manylion rheoli digwyddiadau a rhybuddion bwyd, a chyfathrebiadau sy’n gysylltiedig â nhw, wedi’u cynnwys yn y ‘Protocol Ymdrin â Digwyddiadau’ (Atodiad A) a’r ‘Protocol Cyfathrebu’ (Atodiad E). Mae’r ddau gorff yn cytuno i ddilyn y canllawiau a amlinellir yn y protocolau.
  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i gydweithredu a chydweithio â’i gilydd i sicrhau ymateb cadarn i bob digwyddiad diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a, lle bo angen, i adolygu digwyddiadau o’r fath a chwblhau ymarferion ‘gwersi a ddysgwyd’.
  • Mewn digwyddiadau ledled y DU, dan arweiniad naill ai FSS neu’r ASB, mae’r ddau yn cytuno i sicrhau bod cynrychiolwyr o’r sefydliadau priodol yn cymryd rhan mewn unrhyw dimau ymateb i ddigwyddiadau sefydledig ac yn y gwaith o ddatblygu cyfathrebiadau/nodiadau briffio/canllawiau o’r cychwyn cyntaf.
  • Pan fo cynhyrchion bwyd neu fwyd anifeiliaid yn achosi (neu pan allent achosi) perygl i ddefnyddwyr, mae’r ASB ac FSS yn cytuno i hwyluso mesurau rheoli bwyd neu fwyd anifeiliaid priodol a, lle bo angen, i wneud hynny yn unol â’r canllawiau a geir yn y ‘Protocol Ymdrin â Digwyddiadau’ (yn Atodiad A).
  • I sicrhau bod cynlluniau rheoli digwyddiadau’n gadarn, bydd yr ASB ac FSS yn cysylltu â’i gilydd ynglŷn ag ymarferion argyfwng i brofi cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cynlluniau ymateb i ddigwyddiadau. 
  • Bydd yr ymarferion gwydnwch yn canolbwyntio ar brofi’r trefniadau a amlinellir yn y ‘Protocol Ymdrin â Digwyddiadau’ i roi sicrwydd bod cydlynu effeithiol rhwng yr ASB ac FSS, ac i roi sicrwydd nad yw diogelwch defnyddwyr yn y DU wedi cael ei beryglu.

Rhannu data a gwybodaeth

  • Mae’r ‘Protocol Rhannu Data’ (Atodiad B) yn amlinellu’r dulliau ar gyfer sicrhau bod cudd-wybodaeth (intelligence), data a gwybodaeth am ddiogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu rhannu’n brydlon, yn effeithlon ac mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i ddilyn y canllawiau a amlinellir yn y protocol i sicrhau bod data, gwybodaeth a chudd-wybodaeth am fwyd a bwyd anifeiliaid yn llifo’n rhydd rhwng y ddau sefydliad.
  • Mae mwy o wybodaeth am sut y bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio i rannu data a chudd-wybodaeth a gynhyrchir trwy weithgareddau ymchwil a gwyliadwriaeth, asesu risg a sganio’r gorwel yn cael ei darparu yn y ‘Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth’ (Atodiad C), y ‘Protocol Troseddau Bwyd’ (Atodiad F) a’r ‘Protocol Dadansoddi Risgiau’ (Atodiad G). 

Cydweithio ar wyddoniaeth, tystiolaeth a chyngor

  • Bydd yr ASB ac FSS yn cydweithredu a chydweithio ar gasglu, datblygu a rhannu ymchwil wyddonol, gwyliadwriaeth a dadansoddi tystiolaeth yn unol â’r canllawiau a geir yn y ‘Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth’ (Atodiad C). At hynny, mae’r ddau gorff yn cytuno i annog perthynas waith agos a chydlynu a chydweithio cryf rhwng staff yr ASB ac FSS.
  • Mae mwy o wybodaeth am y trefniadau cydweithio ar gyfer cynnal asesiadau risg a dadansoddi mathau eraill o dystiolaeth sy’n angenrheidiol i lywio cyfrifoldebau rheoli risg y naill barti neu’r llall, neu’r ddau, yn cael ei darparu yn y ‘Protocol Dadansoddi Risgiau’ (Atodiad G).

Fframweithiau cyffredin

Mae Fframwaith Cyffredin y DU ar Ddiogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig i gydweithio ar ddatblygu dulliau gweithredu o ran polisi diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

  • Mae’r Fframwaith dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, y cytunwyd arno gan Weinidogion ym mhedair gwlad y DU, yn cynnwys dau gytundeb – Concordat a Chytundeb Amlinellol o’r Fframwaith. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn hwyluso’r gwaith o gyflawni’r Fframwaith.
  • Mae cwmpas y Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn disgrifio’r meysydd polisi sy’n ddarostyngedig i’w delerau ac mae’n gulach ei gwmpas o gymharu â’r materion a gwmpesir gan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn. Ar gyfer y meysydd o fewn cwmpas y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn a’r Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, mae’r Fframwaith yn sail i’r trefniadau cydweithio rhwng yr ASB ac FSS.
  • Mae rhai adrannau o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y tu allan i gwmpas y Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, ond maent yn dal i fod yn feysydd lle mae’r ASB ac FSS yn dymuno dilyn dulliau cydweithio ffurfiol. Ymdrinnir â meysydd o’r fath yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer adolygu a diwygio’n aml.
  • Nid yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cwmpasu’r Fframweithiau Cyffredin ar gyfer y Safonau ynghylch Cyfansoddiad a Labelu Bwyd (FCSL) na’r Safonau ynghylch Cyfansoddiad a Labelu Bwyd mewn perthynas â Maeth (NLCS). Mae’r meysydd polisi hyn wedi’u cwmpasu gan drefniadau rhwng y pedair gwlad sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundebau Amlinellol Cyffredin priodol o’r Fframwaith.

Datblygu polisïau

  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i rannu a thrafod mentrau polisi ar gam cynnar i helpu i amlygu’r cwmpas ar gyfer cydweithio a meysydd lle efallai y bydd angen teilwra dulliau y cytunwyd arnynt, a hynny i fodloni a pharchu ystyriaethau datganoledig. Ni ddylai’r cydweithio hwn fod yn gyfyngedig i ddeddfwriaeth genedlaethol a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir, ac fe allai gynnwys, er enghraifft, rannu cudd-wybodaeth a fwriadwyd i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.
  • Os bydd y naill sefydliad neu’r llall yn bwriadu gwneud newid neu adolygiad mewn perthynas â dull gweithredu polisi (gan greu gwahaniaeth posib), bydd yn hysbysu’r llall o’i fwriadau cyn gynted â phosib. O ran materion sydd o fewn cwmpas y Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â’r prosesau llywodraethu pedair gwlad y cytunwyd arnynt, gan reoli’r gwahaniaeth sydd wedi’u cynnwys ynddynt. 
  • Wrth gydweithio, bydd y ddau gorff yn ystyried cylch gorchwyl gwahanol y pedair gwlad, megis y ffaith bod cyfrifoldeb adrannol am labelu bwyd, safonau cyfansoddiad a chyngor ar faeth yn amrywio ledled y DU. 
  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i gydweithio er mwyn cyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu rhyngwladol ar safonau diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid gyda’r UE, ac mewn fforymau rhyngwladol ehangach fel Codex a Sefydliad Masnach y Byd (WTO), yn ogystal â thrafodaethau dwyochrog (gweler Atodiad D am fwy o wybodaeth). Bydd angen i’r ASB ac FSS gydweithio’n agos hefyd i gefnogi meysydd lle mae’r DU yn arwain ar lefel ryngwladol (gweler Atodiad D). 

Cyflawni gweithredol

Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i rannu arferion gorau ac arbenigedd i sicrhau bod rheolaethau swyddogol yn ddigon cadarn ac i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr o ran diogelwch a safonau bwyd yn yr Alban, ledled y DU, ac yn ehangach, yn parhau i gael eu diogelu, o fewn cylch gorchwyl deddfwriaeth yr UE a’r DU. Mae hyn yn cynnwys ystyried gallu a chapasiti lle mae’r ASB ac FSS yn darparu adnoddau’n uniongyrchol ar gyfer cynnal rheolaethau. 

Yn benodol, mae’r ASB ac FSS yn cytuno i gydweithio yn y ffyrdd canlynol:

  1. Cynnwys a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â gwaith a digwyddiadau’r Portffolio Technegol a darparu cymorth technegol pan fydd angen ar faterion parhaus neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n effeithio ar y ddau sefydliad.
  2. Ymgynghori â’i gilydd wrth ddatblygu Llawlyfrau ar gyfer Rheolaethau Swyddogol.
  3. Cwrdd yn rheolaidd (o leiaf yn flynyddol) i drafod a rhannu gwybodaeth a gynhyrchir ym meysydd cynllunio busnes, rheoli risgiau a rheoli perfformiad. 
  4. Cwrdd yn rheolaidd i rannu cymeradwyaethau a ‘gwersi a ddysgwyd’ yn sgil archwiliadau.
  5. Cydweithio mewn perthynas â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer Cydnabyddiaeth ar Sail Perfformiad mewn perthynas â Hylendid Bwyd Anifeiliaid a Bwyd Anifeiliaid Meddyginiaethol rhwng yr ASB, y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD), FSS a Chydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC).
  6. Cydweithio mewn perthynas â’r gwaith parhaus o gyflwyno cyrsiau e-ddysgu gan yr ASB ac FSS ynghylch bwyd wedi’i fewnforio.

Materion rhyngwladol

  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i gydweithio ar faterion rhyngwladol i alluogi gwybodaeth i lifo’n rhydd a sicrhau bod safbwyntiau a llinellau’r DU yn ystyried buddiannau’r Alban. 
  • Wrth wneud hynny, byddant yn dilyn y prosesau sefydledig ar gyfer cyswllt rhyngadrannol ynglŷn â materion cysylltiadau rhyngwladol a osodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chytundebau Atodol ar Ddatganoli, yn ogystal â’r canllawiau cyffredinol sy’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau’r ASB ac FSS yn Atodiad D.

Cyfathrebu

  • Mae’r ddau gorff yn cytuno i weithio gyda’i gilydd ar ystod eang o bynciau cyfathrebu, nid yn unig i sicrhau ‘dull dim syndod’ at gyfathrebu allanol ond hefyd i rannu, cydweithredu a chydweithio ar ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, mentrau polisi a materion sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall. Mae manylion ynghylch sut y bydd y ddau gorff yn cydweithio wedi’u nodi yn y ‘Protocol Cyfathrebu’ (Atodiad E). 

Troseddau bwyd

  • Mae’r ASB ac FSS wedi ymrwymo i gynorthwyo ei gilydd i ymladd yn erbyn troseddau bwyd ac, wrth wneud hynny, dangos eu dealltwriaeth o bwysigrwydd cydweithio i ddiogelu’r cyhoedd. Bydd y ddau sefydliad yn cydnabod y llinellau awdurdodaeth clir sy’n bresennol yn y DU ac sy’n pennu sut y bydd ymchwiliadau i droseddau bwyd yn cael eu harwain. Mae rhagor o wybodaeth am sut y bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio yn y maes hwn ar gael yn y ‘Protocol Troseddau Bwyd’ (Atodiad F).

Dadansoddi risg a rheoli risg

  • Mae’r broses dadansoddi risgiau’n darparu model pedair gwlad i gefnogi’r broses o gyflawni argymhellion rheoli risg diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban, sy’n effeithiol ar gyfer y DU gyfan, neu ar gyfer gwledydd unigol fel y bo angen.
  • Mae’r broses dadansoddi risg yn sail i’r Fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Gellir ei gymhwyso hefyd fel y bo’n briodol i feysydd sydd y tu allan i gwmpas y Fframwaith, er enghraifft wrth ddarparu cyngor i’r cyhoedd ar ddiogelwch bwyd.
  • Bydd y ddau gorff yn ymgymryd â swyddogaethau dadansoddi risgiau yn unol â’r egwyddorion, y canllawiau a’r trefniadau gweithio a amlinellir yn y ‘Protocol Dadansoddi Risgiau’ (Atodiad G).

Costau

  • Bydd costau’n perthyn i un o ddau gategori: sylweddol (>£1000) neu fân (<£250).
  • Pan fydd un corff yn mynd i gost(au) sylweddol i ddarparu nwyddau neu wasanaethau sydd o fudd i’r llall, bydd y corff sy’n elwa yn cyfrannu at y costau sy’n gysylltiedig â’r nwyddau neu’r gwasanaethau hyn, ar yr amod y cytunwyd arnynt o flaen llaw gan y ddau barti. Bydd cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn cytuno a yw cost yn sylweddol ai peidio.
  • Disgwylir i bob corff dalu am fân-gostau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau cydweithredol rhwng y ddau sefydliad.

Datrys anghydfodau

  •  Pan fydd anghydfodau’n codi, dylid eu rheoli gan ddilyn yr egwyddorion canlynol:
  1. Ymrwymiad i ddulliau datrys sy’n seiliedig ar dystiolaeth 
  2. Tryloywder 
  3. Datrysiad amserol 
  4. Cydymffurfiaeth â’r broses 
  • Pan na fydd swyddogion yn gallu cytuno ar fater, dilynir y broses ganlynol ar gyfer datrys anghydfodau:
  1. Yn dibynnu ar y mater dan sylw, bydd swyddogion yn cyflwyno’r mater naill ai i grŵp uwch-swyddogion sy’n goruchwylio gwaith rhwng y pedair gwlad, neu i’r Cyfarwyddwr neu’r Pennaeth Adran perthnasol i’w ddatrys. 
  2. Os na fydd modd datrys mater ar lefel uwch-swyddogion neu Gyfarwyddwr/Pennaeth Adran, bydd yr anghydfod yn cael ei gyflwyno i’w drafod neu ei gytuno rhwng Prif Swyddogion Gweithredol a/neu Gadeiryddion unigol pob Bwrdd. 
  3. Os bydd anghydfod yn codi, dylid hysbysu timau datganoli yn yr ASB ac FSS.

Cytundebau Lefel Gweithio 

  • Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i ategu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gyda Chytundebau Lefel Gweithio pan fydd y ddau gorff yn cytuno y byddai eu perthynas yn cael ei gwella trwy fwy o gydweithio mewn meysydd nad ydynt yn dod o dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a phrotocolau cysylltiedig.
  • Rhoddir rhestr o Gytundebau Lefel Gweithio cyfredol yn Atodiad H i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, a dylai adolygiadau o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn a phrotocolau cysylltiedig gynnwys adolygiad o Gytundebau Lefel Gweithio.

Adolygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 

  • Er bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cynnwys materion sydd y tu allan i gwmpas y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, bydd yr ASB ac FSS yn cynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn adolygiadau ar y cyd rheolaidd o’r Fframwaith. 

Bydd y broses adolygu’n cynnwys y camau canlynol:

  1. Bydd Grŵp Rheoli Fframweithiau ar y cyd yr ASB ac FSS yn comisiynu arweinwyr is-adrannau i adolygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn flynyddol. 
  2. Bydd arweinwyr is-adrannau’n ystyried cynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r bwriad o benderfynu a oes angen diwygio agweddau presennol ar gynnwys y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth neu a ddylid ychwanegu cynnwys newydd. 
  3. Bydd y Grŵp Rheoli Fframweithiau’n casglu newidiadau a awgrymir at ei gilydd ac yn anfon y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig at Brif Swyddogion Gweithredol yr ASB ac FSS i’w gymeradwyo’n derfynol...

Telerau’r cytundeb

Mae’n rhaid i’r trefniadau hyn weithio o fewn: 

  • y fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli 
  • rhwymedigaethau Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban o dan gyfraith a chytuniadau rhyngwladol 
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 2013 ar Ddatganoli, y Memorandwm ar Ewrop a phrotocolau cysylltiedig ac unrhyw gytundebau sy’n ei ddiwygio neu’n ei ddisodli

Dyddiad: 10 Mai 2023
Emily Miles, Prif Swyddog Gweithredol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd 

Dyddiad: 10 Mai 2023
Geoffrey M Ogle, Prif Swyddog Gweithredol, Safonau Bwyd yr Alban