Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Atodiad H – Cytundebau Lefel Gweithio

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cytundeb Lefel Gwaith: Cymorth Radiolegol gan yr ASB ar gyfer FSS

Maes Gwaith

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn darparu cyngor arbenigol ar faterion radiolegol i Safonau Bwyd yr Alban (FSS) i ategu penderfyniadau polisi i’w gwneud a wneir yn yr Alban ar faterion radiolegol.

Bydd Aseswyr Polisi Radiolegol a Risg Radiolegol yr ASB yn darparu cymorth a chyngor i FSS ar faterion radiolegol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • Digwyddiadau radiolegol
  • Materion etifeddiaeth radiolegol
  • Ymarferion argyfwng
  • Asesiadau risg ar gyfer ceisiadau o dan Reoliadau Awdurdodiadau Amgylcheddol (yr Alban) 2018 (EASR18).
  • Trwyddedu ac arolygiadau arbelydru bwyd
  • Polisi’r DU sy’n berthnasol i ddiogelwch bwyd radiolegol

Mae’r ASB yn darparu gwasanaeth i FSS, ac mae’n talu am gynnal a chadw a diweddaru'r modelau cyfrifiadurol sy'n cynnal asesiadau. Gellir darparu'r gwasanaeth hwn naill ai'n uniongyrchol neu gan gontractwyr a benodir gan yr ASB.

Bydd FSS yn sicrhau bod yr ASB yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion radiolegol perthnasol yn yr Alban, a bod yr ASB yn cael gwybod cyn gynted â phosib pan fydd angen cymorth a chyngor.  Bydd yr ASB yn rhoi cyngor clir i FSS ar faterion diogelwch bwyd sy’n ymwneud â materion radiolegol yn ôl yr angen a fel sy’n briodol.

Y rhaglen monitro radiolegol

Bydd FSS yn gyfrifol am gytuno ag Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Alban (SEPA) faint y bydd yn ei gyfrannu at gynhyrchu adroddiadau blynyddol y DU ar Ymbelydredd mewn Bwyd a’r Amgylchedd.

Bydd yr ASB wedi’i chynrychioli ar y Tîm Tasg Monitro Ymbelydredd Amgylcheddol (ERMTT), er mwyn cynnal ei chyfranogiad mewn gweithio tuag at ddull cyson o fonitro a gwyliadwriaeth ledled y DU, a sicrhau bod arferion gwaith yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd FSS yn gyfrifol am ymgysylltu â SEPA ynghylch mynediad at ERMTT a sicrhau bod y gwaith o fonitro bwyd a bwyd anifeiliaid am ymbelydredd yn yr Alban yn cael ei wneud yn briodol.

Cymorth gyda digwyddiadau radiolegol, materion radiolegol etifeddol ac ymarferion ar gyfer argyfyngau

FSS yw'r arweinydd polisi ar gyfer gweithredu mesurau diogelwch bwyd amddiffynnol pan fydd digwyddiadau radiolegol yn yr Alban, ac ar gyfer gorfodi gorchmynion y Ddeddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd (FEPA). Mae'r ASB yn cefnogi FSS yn y rôl hon drwy gynnal asesiadau risg ar gyfer yr Alban, a thrwy ddarparu canllawiau ar yr angen am ardaloedd dan gyfyngiadau FEPA a chanllawiau ar y fath ardaloedd arfaethedig.

Yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r Protocol ar Ymdrin â Digwyddiadau y cytunwyd arnynt rhwng yr ASB ac FSS, mae digwyddiadau radiolegol yn cael eu dosbarthu fel digwyddiadau’r DU gyfan, a bydd Timau Radiolegol yr ASB yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu'r polisi a'r arbenigedd technegol sydd eu hangen i ategu'r ymateb.

Bydd digwyddiadau radiolegol yn cael eu harwain gan yr ASB; fodd bynnag, gall digwyddiadau yn yr Alban gael eu harwain gan FSS trwy gytundeb o’r ddeutu mewn achosion unigol.

Bydd FSS yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu cyfranogiad mewn ymarferion ar gyfer argyfyngau niwclear a fyddai'n effeithio ar yr Alban yn unig. Bydd Timau Radiolegol yr ASB yn cynorthwyo gyda'r ymarferion hyn ac yn darparu arbenigedd polisi a thechnegol ar gais FSS. Bydd FSS yn rhoi o leiaf fis o rybudd i'r ASB cyn unrhyw ymarfer lle bydd angen mewnbwn yr ASB o ran bod yn bresennol mewn ymarferion neu wneud cyfraniadau. Bydd FSS yn hysbysu’r ASB os bydd angen gwaith modelu data a/neu asesu risg cyn unrhyw ymarfer i lywio chwistrelliadau, a bydd y ddwy ochr yn cytuno ar amserlenni priodol ar gyfer y gwaith hwn fesul achos, gan ddibynnu ar derfynau amser a bennir yn allanol.

Ceisiadau am drwyddedau ac amrywiadau pwrpasol o dan Reoliadau Awdurdodiadau Amgylcheddol (Yr Alban) 2018 (EASR 18).

Bydd FSS yn ceisio cyngor yr ASB yn ôl yr angen ar geisiadau am drwyddedau ac amrywiadau pwrpasol a gyflwynir i SEPA o dan Reoliadau Awdurdodiadau Amgylcheddol (Yr Alban) 2018.

Pan fydd SEPA yn gofyn amdano, bydd FSS yn ymgynghori â’r ASB am gymorth/arbenigedd i benderfynu:

  1. Ceisiadau o dan EASR18 am safleoedd niwclear newydd waeth beth fo'r dosau amcangyfrifedig (ar hyn o bryd, mae polisi Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu adeiladu safleoedd niwclear newydd.)
  2. Ceisiadau am amrywiadau i awdurdodiadau EASR18 ar gyfer safle(oedd) niwclear sydd eisoes yn bodoli lle mae terfynau gollwng yn cynyddu, ac sy'n cynyddu'r dos trwy lwybrau bwyd sy’n fwy na 10 µSv/y.
  3. Ceisiadau am safleoedd anniwclear os yw'r dos trwy lwybrau bwyd yn fwy nag 20 µSv/y.

Bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio i sicrhau bod terfynau amser statudol yn cael eu bodloni trwy’r canlynol:

  • Rhannu gwybodaeth yn ôl yr angen.
  • Cytuno pa geisiadau am drwyddedau ac amrywiadau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu, yn seiliedig ar y tebygolrwydd o effeithiau ar ddiogelwch bwyd, amserlenni ar gyfer ymateb, a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer cynnal asesiadau.

Trwyddedu ac arolygiadau arbelydru bwyd

Bydd Timau Polisi'r ASB yn rhoi'r arbenigedd technegol i FSS ar gyfer trwyddedu ac arolygu cyfleusterau arbelydru bwyd. Ar hyn o bryd. nid oes unrhyw gyfleusterau arbelydru bwyd yn yr Alban, ond mae angen bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai cais ddod i law.

Yr hyn yr ydym am ei gyflawni trwy Gytundeb Lefel Gwaith

Sicrhau diogelwch bwyd y cyhoedd mewn perthynas â gweithgareddau a ragnodir o dan ddeddfwriaeth a pholisi diogelwch bwyd radiolegol:

  • Arbedion effeithlonrwydd i'r ddau sefydliad.
  • Cyd-gefnogaeth trwy rannu gwybodaeth am weithgareddau a ganiateir ac unrhyw effaith bosib ar ddiogelwch bwyd.

Gwydnwch mewn parodrwydd a gweithdrefnau cadarn mewn ymateb i argyfyngau ar lefel genedlaethol, gan gynnwys cynllunio a hyfforddiant ar gyfer argyfyngau. Dull cydweithredol a chyson o ddatblygu cyngor a pholisi radiolegol mewn perthynas â bwyd ledled y DU.

Sut y byddwn yn ei gyflawni?

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr ASB ac FSS yn annog cydweithio, a hynny drwy gyfarfodydd chwarterol rhwng yr uwch-swyddogion (sef cyfarwyddwyr a phenaethiaid gwasanaeth) o fewn yr ASB ac FSS.

Bydd timau radiolegol yr ASB ac FSS, ac arweinwyr gwyddoniaeth perthnasol yn FSS, yn cydweithio trwy gyfarfodydd y Tîm Gorchwyl Monitro Ymbelydredd Amgylcheddol (ERMTT) a’r Tîm Adrodd ar Ymbelydredd mewn Bwyd a'r Amgylchedd (RIFE). Trefnir cyfarfodydd cyswllt ychwanegol yn ôl yr angen.

Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu codi pryder am faterion radiolegol sy’n ymwneud â chadwyn fwyd y DU yn y cyfarfodydd hyn, yna byddant yn ymgynghori â’r parti arall.

Bydd yr ASB ac FSS hefyd yn cydlynu ac yn rhannu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i staff ar ddiogelwch radiolegol yn ôl yr angen.

Blaenoriaethu ceisiadau am drwyddedau ac amrywiadau sy’n dod i law gan FSS. Bydd hyn yn golygu bod modd cyfeirio'r adnoddau sydd ar gael er mwyn asesu ceisiadau dethol yn effeithiol ac effeithlon ar gyfer gosodiadau a allai, yn nhyb yr ASB, gael effaith ar ddiogelwch bwyd, gan ddarparu ymateb o ddim lle nad yw ceisiadau'n cael blaenoriaeth.

Amseru

Mae'n rhaid i FSS a'r ASB ymateb i geisiadau yn unol â'r terfynau amser statudol o dan EASR18 neu o fewn yr 20 diwrnod gwaith statudol, yn ôl yr angen.

Ar ôl i gais ddod i law, bydd y corff sy’n ei dderbyn yn hysbysu'r ASB neu FSS cyn gynted â phosib.

Codi tâl

Pan fo'r ASB yn ymgymryd â gwaith radiolegol i FSS ac nad oes modd codi ffi amdano ar y diwydiant, bydd trefniadau yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr ASB ac FSS mewn perthynas â chostau yn berthnasol.

Adolygu a Datrys Anghydfodau

Yn y lle cyntaf, dylai'r partïon sy'n ymwneud â'r Cytundeb Lefel Gwaith hwn gymryd pob cam i ddatrys problemau.

Os na ellir datrys y mater, dylid ei uwchgyfeirio yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr ASB ac FSS.

Fformat ar gyfer trosglwyddo data neu amlder cyfarfodydd

Dylid trosglwyddo data mewn fformat sy'n gydnaws â systemau cyfrifiadurol safonol, fel Microsoft Excel.

Bydd timau radiolegol yr ASB ac FSS yn cynnal cyfarfodydd chwarterol i adolygu unrhyw faterion sydd ar ddod a blaenoriaethau gwaith.

Cysylltiadau

Asiantaeth Safonau Bwyd

Hannah Lau, Uwch-gynghorydd Polisi Radiolegol

Safonau Bwyd yr Alban

Marianne James, Pennaeth Asesu Risg

Cytunwyd gan:

Paul Tossell, Pennaeth Tîm Polisi Radiolegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd

a

Jacqui McElhiney, Pennaeth Gwyddoniaeth, Safonau Bwyd yr Alban