Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Atodiad F – Protocol Troseddau Bwyd

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

29. Cyflwyniad 

Mae gan yr ASB ac FSS gyfrifoldebau tebyg i atal a chanfod troseddau bwyd. Mae’r ddau yn gweithio yn unol â diffiniad tebyg o droseddau bwyd, sef “twyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig yn cadwyni cyflenwi bwyd sy’n effeithio ar ei dilysrwydd a’i chyfanrwydd”. 

Mae troseddau twyll wedi’u pennu o fewn cyfraith statud a chyffredin sydd mewn grym ym mhob awdurdodaeth.

30. Trefniadau presennol ar gyfer ymchwilio i droseddau bwyd

Mae’r ASB ac FSS yn cymhwyso egwyddorion sefydledig y Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol i amlygu bygythiadau, asesu risgiau o safbwynt gorfodi’r gyfraith, a threfnu adnoddau i fodloni’r galw. 

31. Cudd-wybodaeth (intelligence)

Bydd yr ASB ac FSS yn rheoli gwybodaeth a chudd-wybodaeth ar wahân ac yn rhannu cudd-wybodaeth yn gyfreithlon at ddibenion gorfodi’r gyfraith.

Mae’r ddau gorff yn ymrwymo i barhau i rannu cudd-wybodaeth yn rheolaidd er mwyn hyrwyddo cydweithio i ddiogelu’r cyhoedd, ac maent wedi cydweithio i gynhyrchu asesiad strategol o droseddau bwyd ledled y DU.

Bydd y ddau gorff yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill yn annibynnol pan fydd ymchwiliadau penodol yn gofyn am hynny.

32. Model gweithredu

Mae’r ddau gorff yn paratoi eu strategaeth reoli eu hunain, gan amlygu blaenoriaethau tactegol a gofynion casglu cudd-wybodaeth.  Mae strategaethau o’r fath yn datblygu o’r asesiadau strategol. Maent yn cael eu paratoi’n annibynnol ac yn debygol o ategu ei gilydd, a byddant yn cael eu rhannu i hyrwyddo’r gallu i ryngweithredu.

Bydd yr ASB ac FSS yn gweithio i gyd-arwain Ymgyrch OPSON (gweithrediad ar y cyd rhwng Europol ac Interpol sy’n targedu bwyd a diodydd ffug ac islaw’r safon) ac mae hyn yn cynnig model ar gyfer cydweithio trawsffiniol rhwng y ddwy uned yn y DU.

33. Pennu tasgau

Mae gan unedau troseddau bwyd ASB ac FSS strwythur Grŵp Tasg a Chydlynu Tactegol (TTCG) sefydledig yn unol â’r Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol sy’n bodloni eu hanghenion unigol. Mae’r TTCG yn sbarduno gweithgarwch tactegol ac mae’r asesiadau tactegol a baratoir cyn pob cyfarfod yn mesur cynnydd yn erbyn blaenoriaethau tactegol a nodwyd, fel y’u hamlinellir yn y strategaethau rheoli unigol. Mae’r strategaethau hynny’n deillio o asesiadau strategol. Bydd y gyfres o ddogfennau tasgau tactegol yn cael eu rhannu rhwng y ddwy uned ar adeg eu cyhoeddi.

Rhennir dogfennau strategol yn briodol wrth iddynt gael eu paratoi i sicrhau bod y ddwy uned yn manteisio i’r eithaf ar y gudd-wybodaeth a gasglwyd cyn cwblhau’r cyfryw ddogfennau’n derfynol. 

Gwahoddir cydweithwyr yn briodol i gyfarfodydd TTCG unigol. Bydd hyn yn hyrwyddo’r gallu i ryngweithredu ac yn galluogi cyfleoedd i bennu tasgau penodol ar y cyd, yn enwedig mewn ardaloedd y Gororau. 

Mae rhannu dogfennau tactegol o’r fath yn galluogi pob uned i amlygu meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn argymell bod swyddogion yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag adrannau unigol mewn amgylchiadau o’r fath i rannu arfer da a chudd-wybodaeth a gweithio gyda’i gilydd (a chydag asiantaethau eraill lle y bo’n briodol) i ddatblygu a chyflawni strategaethau cyson ar y cyd i ddiogelu’r cyhoedd a tharfu ar droseddoldeb o’r fath. 

34. Ymchwiliadau

Mae gan y ddau gorff gapasiti a gallu i ymchwilio. Byddant yn parhau i arwain eu hymchwiliadau eu hunain.

Ar ddechrau unrhyw ymchwiliad newydd, argymhellir bod y swyddog arweiniol sydd â gofal dros yr ymchwiliad hwnnw’n ystyried y potensial i gasglu tystiolaeth yn y naill awdurdodaeth neu’r llall. Bydd hefyd yn ystyried, yn seiliedig ar ffeithiau a chudd-wybodaeth sy’n hysbys ar y pryd, y potensial i’r ymchwiliad hwnnw ganfod tystiolaeth o droseddoldeb mewn awdurdodaeth arall, er enghraifft yr Alban neu un o’r tair gwlad arall.

Bydd y swyddog arweiniol hwnnw’n cofnodi ystyriaethau a phenderfyniadau ynglŷn â sut i fwrw ymlaen ac argymhellir y dylid ymgynghori’n gynnar â chydweithwyr yn unedau troseddau bwyd yr ASB ac FSS i drafod a chytuno ar sut i gynnal ymchwiliadau o’r fath. Bydd hyn yn hyrwyddo cydweithio, yn cynyddu i’r eithaf y dystiolaeth a ganfyddir yn gyflym ac yn dangos llwybr archwilio o’r penderfyniadau a wnaed rhag ofn y bydd ymchwiliadau’n mynd yn gymhleth.

Pan gynhelir ymchwiliadau ar y cyd, bydd strwythur ‘GOLD’ ar waith lle y bydd swyddog â rheolaeth gyffredinol dros yr ymchwiliad. Bydd hynny’n sicrhau eglurder ynglŷn â materion awdurdodaethol ac yn sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei gwarchod a’i diogelu’n gyfreithlon ac yn gyflym, ac yn mynd i’r afael â gofynion datgelu o’r cychwyn.

35. Memoranda Cyd-ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli gyda phartneriaid cenedlaethol

Mae unedau troseddau bwyd yr ASB ac FSS eisoes wedi sefydlu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth gyda phartneriaid awdurdod lleol perthnasol er enghraifft, Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn yr Alban, a’r Gymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y ddwy uned yn parhau i gyfnerthu’r perthnasoedd hynny sydd eisoes yn bodoli ac yn ceisio datblygu rhai newydd gyda phartneriaid cenedlaethol perthnasol. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ategu cytundebau o’r fath, ac yn llywio rhai newydd, yn hytrach na’u disodli. 

36. Perthnasoedd

Adlewyrchir annibyniaeth y ddwy Asiantaeth yn eu cyfraniad at fforymau a grwpiau cenedlaethol a rhyngwladol sefydledig. Mae hyn yn cynnwys partneriaid sector cyhoeddus, asiantaethau eraill sy’n gorfodi’r gyfraith a busnesau. Bydd unedau troseddau bwyd yr ASB ac FSS yn parhau i ymgysylltu fel y gwelant orau, a byddant yn ceisio rhannu’r datblygiadau sy’n deillio o’r ymgysylltiadau hynny â’i gilydd yn briodol.

Bydd y ddwy uned yn parhau i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol trwy’r trefniadau newydd a fydd yn datblygu. Bydd sicrhau bod y ddau sefydliad yn cael eu cynrychioli gan bwynt cyswllt unigol yn cynnal annibyniaeth eu huned/asiantaeth mewn fforymau o’r fath. Ar hyn o bryd mae Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU) wedi mabwysiadu Cadeirydd y Gynghrair Fyd-eang ar Droseddau Bwyd a bydd yn parhau i wneud hynny, tra bod yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yn parhau i fod yn aelod allweddol ohoni.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cytuno y bydd y ddwy uned yn ceisio cadarnhau arfer da, cydweithio ledled y DU mewn modd rhagweithiol a arweinir gan gudd-wybodaeth, ac amlygu a rhannu hyn drwy gydol y flwyddyn yn unol â chyfarfodydd TTCG pan wahoddir swyddogion partner iddynt.