Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Atodiad D – Protocol Rhyngwladol

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

17. Diben a chwmpas

Mae cynrychiolaeth y DU ar lefel ryngwladol a masnach ryngwladol yn faterion a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r materion hyn a gedwir yn ôl, sy’n cynnwys gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol, yn ogystal â rheolaethau iechyd y cyhoedd mewn perthynas â mewnforio ac allforio bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid, lle bo angen, yn ddarostyngedig i brosesau dadansoddi risg cytunedig (Atodiad G) yn unol â Fframweithiau Cyffredin y DU, ochr yn ochr â’r egwyddorion a amlinellir yn yr adran hon. 

Felly, mae’r ASB ac FSS yn cydnabod buddiant a rennir mewn materion polisi rhyngwladol, lle mae datblygu polisïau, safbwyntiau neu amcanion rhyngwladol yn rhan o’n cylchoedd gorchwyl unigol.

Bydd y protocol hwn yn galluogi perthynas waith dda a chydweithio cryf rhwng yr ASB ac FSS ar faterion rhyngwladol.

18. Egwyddorion cyffredinol

Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i:

  • rannu gwybodaeth am weithgareddau rhyngwladol perthnasol fel y bo’n briodol mewn modd agored ac amserol
  • datblygu dulliau cydweithredol neu gydgefnogol o ddatblygu polisïau, amcanion a safbwyntiau rhyngwladol
  • sicrhau bod buddiannau rhanddeiliaid a gweinyddiaethau ar draws y DU yn cael eu hystyried wrth ddod i safbwynt cytunedig y DU.

19. Darpariaethau penodol

Cyswllt a datblygu polisi rhyngwladol

Bydd yr ASB yn cynnwys FSS yn uniongyrchol ac i’r graddau mwyaf posib mewn trafodaethau ynglŷn â ffurfio safbwyntiau polisi Llywodraeth y DU fel y bônt yn berthnasol i ddiogelwch bwyd mewn materion rhyngwladol a gedwir yn ôl, fel safonau rhyngwladol ac ymgysylltu â Codex a Sefydliad Masnach y Byd (WTO), gan gynnwys y rhai hynny sy’n gysylltiedig â materion datganoledig (a materion sydd heb eu datganoli, yn enwedig lle y gallai fod effaith benodol yn yr Alban). Pan fo’r mater yn ddatganoledig (er enghraifft datblygu safonau diogelwch bwyd ar gyfer bwyd wedi’i fewnforio a allai effeithio ar drafodaethau masnach yn y dyfodol), bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio yn unol â phrosesau dadansoddi risg cytunedig lle y bo’n briodol (gweler Atodiad G).

Bydd yr ASB yn cydlynu’r broses o gytuno ar safbwyntiau a llinellau bwyd a bwyd anifeiliaid y DU gydag FSS, gan ganiatáu ar gyfer ymgynghori yn y gwledydd unigol.

Pan fo’r arbenigedd ar fater sy’n berthnasol i’r Alban yn bennaf, yn amodol ar gytundeb adran arweiniol llywodraeth y DU, mae’r ASB yn cytuno y bydd FSS yn cynrychioli’r DU. Rôl FSS fydd cefnogi a datblygu safbwynt negodi’r DU. 

Bydd yr ASB yn cydweithio ag FSS i ddatblygu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth trydedd wlad pan fydd yr ASB yn adran arweiniol Llywodraeth y DU. Pan fydd yr ASB neu FSS yn ceisio meithrin unrhyw berthynas ffurfiol â sefydliadau o fewn trydydd gwledydd, byddant yn cymryd camau pendant i hysbysu a cheisio mewnbwn gan ei gilydd, lle y bo’n briodol, ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod y partïon yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa.

Cynhelir cyswllt rhyngwladol ar feysydd polisi unigol ar draws FSS a’r ASB yn rhan o’u gwaith craidd. Mae mwy o fanylion am sut mae FSS a’r ASB wedi cytuno i gydweithio yn y meysydd hyn ar gael yn yr atodiadau canlynol:

  • Atodiad A: Protocol Ymdrin â Digwyddiadau
  • Atodiad C: Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth
  • Atodiad F: Protocol Troseddau Bwyd
  • Atodiad G: Protocol Dadansoddi Risgiau

Bydd arweinwyr cydlynu rhyngwladol canolog yn yr ASB ac FSS yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tri mis i rannu gwybodaeth ryngwladol, ystyried materion rhyngwladol sy’n dod i’r amlwg ac sy’n datblygu, a thrafod meysydd a allai ofyn am gydweithio pellach.

Cytundebau Masnach Rydd

Yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros drafodaethau cytundeb masnach rydd (FTA) y DU. Fodd bynnag, mae Defra yn arwain ar drafodaethau penodau FTA Iechydol a Ffytoiechydol (SPS).

DIT a Defra sy’n arwain ar y gwaith o ymgysylltu â’r ASB ar drafodaethau masnach. Mae DIT a Defra yn ymgysylltu ar wahân â Llywodraeth yr Alban ac FSS ar drafodaethau masnach drwy grwpiau ymgysylltu masnach penodol y gweinyddiaethau datganoledig. Gall FSS a’r ASB gysylltu ar faterion technegol sy’n ymwneud â thrafodaethau lle gofynnir iddynt wneud hynny gan DIT/Defra ac yn unol â threfniadau llywodraeth y DU ar gyfer ceisio safbwyntiau’r gweinyddiaethau datganoledig ac yn unol â phrotocolau diogelwch perthnasol. 

Pan fydd DIT yn gofyn, bydd timau cyngor polisi masnach yr ASB ac FSS yn cydweithio i ddarparu cyngor ar y cyd i lywio adroddiadau Adran 42 llywodraeth y DU ar FTAs newydd, yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt.

Ymweliadau arolygu rhyngwladol

Defra yw pwynt cyswllt cyntaf yr awdurdodau mewn gwledydd cyrchfan ar gyfer ymweliadau arolygu mewnol naill ai systemau rheoli bwyd cenedlaethol neu archwiliadau yn erbyn gofynion cymeradwyo allforio penodol gwlad/nwydd sefydledig. Ar ôl cael ceisiadau o’r fath, bydd Defra yn arwain y gwaith o gydlynu’r ymweliadau hyn, gan gysylltu â’r Awdurdodau Cymwys Canolog (CCA) perthnasol i ofyn am eu cefnogaeth yn ôl yr angen. Yn yr ASB, mae arweinydd y Strategaeth Mewnforion ac Allforion yn gyfrifol am gydgysylltu cyfranogiad yr ASB ac awdurdodau lleol mewn arolygiadau mewnol o’r fath, gan gysylltu ag arweinwyr polisi a gwledydd datganoledig fel y bo’n briodol. Yn FSS, bydd yr arweinydd sicrwydd rhyngwladol yn cydlynu mewnbwn FSS a’r awdurdod lleol i’r broses hon. Bydd y timau’n cysylltu fel y bo’n ofynnol i gydlynu ceisiadau ar sail achosion unigol.

Mae arolygiadau allanol sy’n ofynnol i asesu cyfundrefnau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) trydydd gwledydd eraill a rhoi sicrwydd ar fewnforion trydydd gwledydd eraill sy’n dod i mewn i’r DU yn cael eu cydgysylltu (ar draws llywodraeth y DU) gan Swyddfa Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol y DU (Swyddfa SPSTA y DU) Defra. Mae Swyddfa SPSTA y DU yn gyfrifol yn y DU am fynediad i’r farchnad a chydgysylltu archwiliadau dilysu o fewn y wlad, comisiynu asesiadau risg a chudd-wybodaeth, rhestru sefydliadau, a deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod o anifeiliaid. Mae Defra yn dibynnu ar FSS a’r ASB, sy’n cydweithio'n agos, i gefnogi a herio'r gwaith hwn pan fydd yn berthnasol i fwyd a bwyd anifeiliaid. Yn gyffredinol, mae arweinwyr yr ASB yn darparu arbenigedd a chyngor ar archwiliadau trydydd gwledydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid, ond darperir cyfleoedd i’r FSS gymryd rhan pan fo hynny’n briodol. 

Rhestru sefydliadau’r DU sy’n gymwys i allforio Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO)

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gysylltu ynglŷn ag unrhyw weithgarwch sy’n ofynnol ar lefel y DU, lle mae hynny’n ofynnol gan drydydd gwledydd ac wedi’i gadarnhau gan Defra, o ran rhestru sefydliadau ac ardaloedd pysgod cregyn dosbarthedig at ddibenion allforio. 

Defra sy’n gyfrifol am restru sefydliadau’r DU sy’n gymwys i allforio POAO. Ar gyfer allforio cig i rai gwledydd y tu allan i’r UE, mae angen arolygiadau cymeradwyo allforio ac archwiliadau cydymffurfiaeth allforio parhaus rheolaidd gan yr ASB ac FSS. Mae Defra yn gyfrifol am wneud argymhellion ynghylch cymeradwyo allforion a rhestru/dadrestru i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, yn seiliedig ar argymhellion gan yr ASB ac FSS. Yn yr ASB, mae arweinydd tîm Strategaeth Mewnforion ac Allforion yn gyfrifol am gydgysylltu mewnbwn yr ASB o bob rhan o’r Asiantaeth i’r broses hon. Mae gan FSS yr un cyfrifoldeb am gydlynu mewnbwn i Defra ar gyfer y safleoedd y maent yn gyfrifol amdanynt. 

Mae Defra yn gyfrifol am gynnal rhestr y DU o allforwyr POAO cymeradwy i’r UE a diweddaru rhestrau ‘EU TRACES’ y DU. Ar hyn o bryd mae Timau Cymeradwyo’r ASB ag FSS yn hysbysu Tîm Rhestru Trydydd Gwledydd Defra am unrhyw ddiweddariadau i’r rhestrau cyhoeddedig o sefydliadau bwyd cymeradwy’r DU er mwyn i Defra allu gwneud diweddariadau priodol i’w rhestr yr UE.

Comisiwn Codex Alimentarius (CODEX)

Defra yw Pwynt Cyswllt y DU ar gyfer CODEX a rhai Pwyllgorau CODEX. Mae’r ASB yn cynrychioli’r DU ar y Pwyllgorau CODEX canlynol ynglŷn â materion bwyd a bwyd anifeiliaid:

  • Hylendid bwyd
  • Ychwanegion bwyd
  • Halogyddion mewn bwydydd
  • Dulliau dadansoddi a samplu
  • Systemau arolygu ac ardystio mewnforio ac allforio bwyd

Mae gwybodaeth am flaenraglen waith CODEX, gan gynnwys manylion cyfarfodydd a phapurau sydd ar ddod, ar gael ar wefan CODEX. 
Mae’r cyfarfodydd chwarterol rhwng FSS a’r ASB i drafod materion rhyngwladol gyfle i edrych at y dyfodol a rhannu unrhyw faterion sy’n codi. 
Bydd yr ASB yn ceisio darparu cyfleoedd i FSS gyfrannu at gyfarfodydd pwyllgor Codex a gweithgorau electronig (EWGs) perthnasol fel rhan o ddirprwyaeth y DU, lle bo’n briodol gwneud hynny.

Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)

Fel Pwyntiau Cyswllt Argyfwng INFOSAN y DU, Pwyntiau Ffocws ac aelodau INFOSAN, mae’r ASB ac FSS yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chyd-Ysgrifenyddiaeth FAO/WHO INFOSAN. Y tu hwnt i ymgysylltiad INFOSAN, mae’r ASB yn ymgysylltu â’r WHO trwy’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC). Bydd FSS yn ymgysylltu â’r DHSC trwy Gyfarwyddiaethau Iechyd Llywodraeth yr Alban ynglŷn â materion sy’n ymwneud â’r Alban y gallai fod arnynt angen cynrychiolaeth WHO

Sefydliad Masnach y Byd (WTO)

Defra yw’r Awdurdod Hysbysu Cenedlaethol (NNA) ar gyfer Pwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd, a’r Adran Masnach Ryngwladol yw’r Awdurdod Hysbysu Cenedlaethol ar gyfer y Pwyllgor Rhwystrau Technegol rhag Masnach (TBT). Mae timau cyngor polisi masnach yr ASB ac FSS yn cydlynu unrhyw fesurau y mae angen i’r NNA hysbysu’r Pwyllgor perthnasol o’r WTO ar eu rhan, gan gysylltu â thimau SPS/TBT datganoledig WTO fel y bo’n briodol. Bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio i sicrhau bod Defra a’r Adran Masnach Ryngwladol yn cael gwybodaeth a chymorth fel y bo’r angen i amddiffyn buddiannau’r ASB ac FSS yn Sefydliad Masnach y Byd. 

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Bydd yr ASB ac FSS yn ceisio cydweithio ar faterion sy’n ymwneud â’r DU a’r UE a chyfnewid gwybodaeth berthnasol mewn modd amserol, yn unol â phrotocolau trin a rhannu gwybodaeth trawslywodraethol a threfniadau llywodraeth y DU ar gyfer ceisio safbwyntiau’r gweinyddiaethau datganoledig.

Mae’r ASB ac FSS yn rhan o drefniadau cydgysylltu trawslywodraethol sy’n hwyluso ein gallu i ymgysylltu â’r UE drwy strwythurau llywodraethu Cytundeb Masnach a Chydweithrediad (TCA). Mae buddiannau’r ASB ac FSS yn ymwneud yn bennaf â materion SPS a TBT. Defra yw adran arweiniol y DU ar gyfer Pwyllgor Masnach Arbenigol SPS, a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yw’r adran arweiniol yn y DU ar gyfer Pwyllgor Masnach Arbenigol TBT.

Bydd arweinwyr yr ASB ac FSS ar yr UE yn cyfarfod yn rheolaidd ac ar gais i drafod a rhannu gwybodaeth am faterion perthnasol y DU-UE a godir drwy strwythurau llywodraethu TCA a thrafodaethau technegol cysylltiedig, a’n cyfranogiad a’n buddiannau priodol.  

Datrys anghydfodau yn yr UE ac yn rhyngwladol

Pan fydd anghydfod ynglŷn â chyswllt rhyngwladol yn codi nad yw o fewn cylch gorchwyl proses datrys anghydfodau’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, mae’r ASB ac FSS yn cytuno i ddilyn y broses datrys anghydfodau a amlinellir yn y Concordat ar Gysylltiadau Rhyngwladol rhwng Llywodraeth y DU a Gweinidogion yr Alban.