Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwneud cais am gyllid ymchwil

Rydym ni'n comisiynu gwaith ymchwil ac arolwg ar sail contract i ddatblygu a chefnogi polisïau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Gorffennaf 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Gorffennaf 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cyflwynir galwadau am dendr trwy system dendro electronig ac maent yn cael eu llwytho'n awtomatig ar byrth hysbysebu tendr fel Find A Tender, sef gwasanaeth e-hysbysu’r Deyrnas Unedig (DU) lle caiff hysbysiadau caffael eu cyhoeddi. 

I gael hysbysiadau e-bost am gyfleoedd caffael gallwch chi gofrestru fel cyflenwr.

Mae’r holl wybodaeth am gyfleoedd caffael, contractau a thendrau sy’n bodoli eisoes ar gael i’r cyhoedd. Nid ydym yn cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif na gwybodaeth y gellir ei defnyddio i gael mantais gystadleuol annheg.

Sicrhau ansawdd yn ein hymchwil

Ynghyd â Chyngor Ymchwil Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol rydym ni wedi datblygu Cod Ymarfer i sicrhau bod gwyddoniaeth a thystiolaeth a gomisiynir gennym yn gyson o safon uchel a dibynadwy.

Gyda Defra, fe wnaethom ni gomisiynu Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig yn 2006 i archwilio sampl o'n prosiectau gwyddoniaeth a thystiolaeth yn erbyn darpariaethau'r Cod.

Dosbarthwyd y canfyddiadau o'r rhaglen archwilio ddwy flynedd a chafodd y Cod ei ddiwygio wedyn o ganlyniad i ganfyddiadau'r archwiliad.