Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Atodiad C – Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

11. Diben a chwmpas

Mae’r ASB ac FSS yn ymrwymo i gydweithio ar eu gweithgareddau unigol sy’n ymwneud â chomisiynu, dadansoddi a chyhoeddi ymchwil wyddonol, gwyliadwriaeth a mathau eraill o dystiolaeth sy’n angenrheidiol i gefnogi eu gwaith. Bydd y ddau’n hyrwyddo cydweithredu i ddatblygu gofynion newydd ar gyfer ymchwil a gwyliadwriaeth, ac yn sicrhau eu bod yn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio a chydariannu ac yn manteisio arnynt lle bynnag y bo’n bosib. Bydd yr ASB ac FSS hefyd yn ceisio rhannu tystiolaeth ac allbynnau ymchwil ar draws pob maes sy’n berthnasol i gylch gorchwyl y ddau barti. 

Bydd y cydweithio hwn yn ymdrin â phob math o wyddoniaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â disgyblaethau naturiol, ffisegol a dadansoddol (gwyddorau cymdeithasol, economeg, ystadegau a gwyddor data), a bydd yn sicrhau cydweithredu ym mhob un o’r meysydd gwaith a amlinellir isod. Mae Adran 9 yn rhoi mwy o fanylion am y trefniadau gweithio sy’n angenrheidiol i gefnogi’r meysydd gwaith hyn. 

  • Rhannu’r broses o ddatblygu, gweithredu ac adolygu strategaethau llywodraethu a sicrwydd gwyddoniaeth y ddau sefydliad
  • Datblygu gofynion ar gyfer ymchwil a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill
  • Rhannu allbynnau gweithgareddau ymchwil, gwyliadwriaeth a sganio’r gorwel sy’n berthnasol i gylch gorchwyl y ddau sefydliad
  • Cydweithredu ac ymgysylltu ag arianwyr ymchwil eraill a’r gymuned wyddonol ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol
  • Cyfeirio materion at Bwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth a’u his-grwpiau a grwpiau arbenigol ar y cyd
  • Ymgymryd â swyddogaethau asesu risg yn unol â’r dulliau a ddisgrifir yn y ‘Protocol Dadansoddi Risgiau’ (Atodiad G).

Egwyddorion cyffredinol

Yn yr holl feysydd hyn, bydd yr ASB ac FSS yn sicrhau:

  • Bod prosesau a diwylliannau ar waith yn y ddau sefydliad sy’n hyrwyddo rhannu gwybodaeth a chydweithio wrth gynllunio a datblygu gweithgareddau gwyddonol newydd 
  • Bod eu cynlluniau ar gyfer comisiynu gweithgareddau gwyddonol, ac unrhyw ddata, tystiolaeth a gwybodaeth a gynhyrchir gan y gweithgareddau hyn, yn cael eu rhannu â’r sefydliad arall mewn modd agored ac amserol
  • Bod y dulliau o amlygu a chomisiynu gweithgareddau gwyddonol newydd, a dadansoddi tystiolaeth sy’n ofynnol i gefnogi swyddogaethau’r ddau sefydliad, yn cefnogi ei gilydd ac yn rhoi ystyriaeth lawn i fuddiannau’r ddau barti.

Wrth ymgymryd â’r gweithgareddau hyn, bydd y ddau barti’n rhoi ystyriaeth briodol i’r darpariaethau perthnasol ar foeseg a llywodraethu data, diogelu data, cyfrinachedd, eiddo deallusol a diogelwch gwybodaeth. Amlinellir y darpariaethau hyn yn fanwl yn y ‘Protocol Rhannu Data’ yn Atodiad B.

13. Darpariaethau penodol

Manylion ystyriaethau penodol sy’n ymwneud â threfniadau cydweithio a dulliau ar gyfer comisiynu ymchwil a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill

Bydd yr ASB ac FSS yn rhannu gwybodaeth am eu holl weithgareddau sy’n ymwneud ag amlygu, blaenoriaethu, cynllunio a chomisiynu ymchwil wyddonol newydd a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill. Lle y bo’n briodol, bydd y ddau barti hefyd yn cydweithredu wrth gynnal unrhyw weithdrefnau gweinyddol sy’n ofynnol i gefnogi’r gweithgareddau hyn, fel tendro a gwerthuso/adolygu gan gymheiriaid.

Mae hyn yn cynnwys yr holl swyddogaethau casglu tystiolaeth a dadansoddi a gynhelir o fewn yr ASB ac FSS yn ogystal â gweithgareddau a gomisiynir yn allanol, gan gynnwys: ymchwil, gwyliadwriaeth, monitro, dadansoddi eilaidd, a chasglu data. Mae hefyd yn cynnwys darparu cymorth ar gyfer arbenigedd a galluoedd gwyddonol (trwy labordai cyfeirio cenedlaethol a rheoli swyddogol, canolfannau rhagoriaeth, cymrodoriaethau, ysgoloriaethau ymchwil, secondiadau ac ati), a chymryd rhan mewn gwaith sydd i’w wneud gan y naill sefydliad neu’r llall ar y cyd ag arianwyr eraill neu drwyddynt.

Bydd yr ASB ac FSS yn ymgysylltu ynglŷn â datblygu eu cylchoedd blaenoriaethu tystiolaeth unigol ac ynglŷn â chynigion ad hoc ar gyfer gwaith newydd. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unol ag amserlenni a fformat sy’n caniatáu i’r naill gorff wneud sylwadau ar syniadau a blaenoriaethau ar gyfer gwaith newydd a gynlluniwyd gan y llall, er mwyn nodi:

  • data presennol sy’n gallu mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth
  • cyfleoedd ar gyfer cydweithio, cydlynu neu ariannu ar y cyd
  • cwmpas i fireinio manylebau ac ymagweddau at waith newydd yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd y ddau sefydliad
  • gweithdrefnau priodol ar gyfer comisiynu anghenion tystiolaeth newydd.

Yn yr un modd, bydd yr ASB ac FSS yn ymgynghori ac yn cydweithio i amlygu cyfleoedd ar gyfer cydlynu eu rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro bwyd a bwyd anifeiliaid, eu strategaethau samplu a’u gweithgareddau sganio’r gorwel i sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau a sylw digonol i fuddiannau’r DU gyfan. 

Rhannu allbynnau ymchwil a gweithgareddau casglu tystiolaeth eraill

Lle bynnag y bo’n bosib, bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws y DU gyfan o ran creu, gwerthuso ac adolygu tystiolaeth a gynhyrchir gan weithgareddau ymchwil, gwyliadwriaeth a sganio’r gorwel a gynhelir gan y naill sefydliad neu’r llall.  

Bydd yr ASB ac FSS yn sicrhau darpariaethau ar gyfer fforwm cydweithredol diogel i rannu gwybodaeth benodol drwy gydol unrhyw ddigwyddiad (er enghraifft, adroddiadau ar sefyllfa digwyddiad, rhestrau dosbarthu, datganiadau i’r wasg ac ati), fel y bo’r angen. Bydd rheolwyr digwyddiadau’n pennu graddau, natur a fformat y cyfryw rannu gwybodaeth ar sail achosion unigol, yn unol â natur y digwyddiad.

Bydd yr ASB ac FSS bob amser yn ystyried dulliau ar gyfer rhannu’r data a’r dystiolaeth wrth gynllunio gweithgareddau casglu data a thystiolaeth newydd.

14. Cael mynediad at Bwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth a Grwpiau Arbenigol ar y Cyd

Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i’r Pwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth y mae’r ASB yn unig noddwr neu’n noddwr arweiniol ac yn arwain yr Ysgrifenyddiaeth ar eu cyfer (fel yr amlinellir isod), ac unrhyw Grwpiau Arbenigol ar y Cyd a gynullir o’r Pwyllgorau hyn i gefnogi meysydd gwaith penodol fel y’u disgrifir yn y canllawiau Dadansoddi Risgiau. Byddant hefyd yn berthnasol i unrhyw Bwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth newydd a sefydlir i roi cyngor i awdurdodau bwyd y DU y mae’r ASB yn dod yn unig noddwr neu’n noddwr arweiniol ac yn arwain yr Ysgrifenyddiaeth ar eu cyfer:

  • Y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF)
  • Y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)
  • Y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF)
  • Y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynnyrch Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT).

Ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig, mae dau Grŵp Arbenigol ar y Cyd (JEGs) ar waith i ymgymryd â’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn: 

  • Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
  • Ychwanegion, cyflasynnau, ensymau a chynhyrchion rheoleiddiedig eraill. 

Grwpiau arbenigol ar y cyd COT ac ACMSF yw’r rhain, sy’n gyson â chylchoedd gwaith presennol y rhiant-bwyllgorau hynny. Bydd ACNFP yn rhoi cyngor ar gymeradwyo bwydydd newydd a bwyd a bwyd anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (GM).

Nid yw’r darpariaethau hyn yn berthnasol i Bwyllgor Cynghori ar Wyddorau Gymdeithasol (ACSS) yr ASB na’r Cyngor Gwyddoniaeth. Mae’r ACSS yn rhoi cyngor strategol arbenigol i’r ASB ar ei defnydd o’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i holi data, er mwyn cyflawni amcanion yr ASB. Swyddogaeth y Cyngor Gwyddoniaeth yw cynghori’r ASB ar ddefnydd yr ASB o wyddoniaeth i gyflawni amcanion yr ASB, ac felly nid yw’n uniongyrchol berthnasol i unrhyw gorff arall. Er hynny, bydd Ysgrifenyddiaethau’r ACSS a’r Cyngor Gwyddoniaeth yn sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n rheolaidd ag FSS ynglŷn â’i raglen waith a’i allbynnau, fel y bo’n briodol.

Bydd Ysgrifenyddiaethau Pwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth yn rhannu gwybodaeth ag FSS am:  

  • agendâu pwyllgorau, blaengynlluniau gwaith ac eitemau agenda newydd
  • recriwtio ac ailbenodi
  • adolygiadau wedi’u teilwra o Bwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth. 

Caiff FSS enwebu arsylwr i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth ac fe’i gwahoddir gan yr Ysgrifenyddiaeth i gynrychioli buddiannau’r Alban, lle y bo’n briodol.

Pan fydd FSS yn dymuno cyfeirio mater at y Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth perthnasol i’w gynnwys yn ei gynllun gwaith:

  • Bydd yr Ysgrifenyddiaeth ac FSS yn trafod y dull gweithredu, yr amserlen a’r flaenoriaeth, gyda’r nod o sicrhau bod amser ac adnoddau’r Pwyllgor yn cael eu dyrannu’n deg i faterion o’r fath, o fewn cynllun gwaith cyffredinol y Pwyllgor.
  • Bydd FSS yn gyfrifol am lunio a chyflwyno papurau perthnasol, a bydd yn gwneud hynny mewn ymgynghoriad â’r Ysgrifenyddiaeth i sicrhau bod y rhain yn gyson â chylch gorchwyl y Pwyllgor, ei ymagwedd at ddiffinio tasgau Pwyllgor newydd a chyflwyno a sicrhau gwaith, a’r raddfa amser y cytunwyd arni.
  • Bydd FSS yn gyfrifol am gostau Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth sy’n ymwneud ag unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd yn benodol i ystyried materion sy’n effeithio ar yr Alban yn unig. 

Cytunir ar drefniadau cilyddol os bydd FSS yn sefydlu unrhyw Bwyllgorau Cynghori ar Wyddoniaeth neu ddulliau cynghori arbenigol eraill mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r ASB.

15. Dynodi a rheoli gwasanaethau labordy i gefnogi rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cynnal Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid 

A hwythau’n Awdurdodau Cymwys ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU, mae’r ASB ac FSS yn gyfrifol am ddynodi a goruchwylio gwasanaethau labordy sy’n angenrheidiol i gynnal dadansoddiadau, profion a diagnosis ar samplau a gymerwyd at y diben hwn, ac am sefydlu Labordai Cyfeirio Cenedlaethol yn y DU, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi awdurdodi’r cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid. 

Bydd yr ASB ac FSS yn dynodi labordai rheolaethau swyddogol ar y cyd ar draws y DU i hwyluso’r broses o gydlynu a darparu mynediad at wasanaethau gwyddonol ar gyfer yr holl swyddogaethau gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd y ddau barti hefyd yn cydlynu trefniadau ar gyfer archwilio labordai rheolaethau swyddogol i sicrhau dibynadwyedd a chysondeb profion a chanlyniadau dadansoddol a diagnostig. 

16. Trefniadau gweithio

Bydd trefniadau gweithio ar dair lefel yn cefnogi’r broses o weithredu ac adolygu’r ‘Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth’ hwn:

  • Bydd timau gwyddoniaeth ac asesu risg yr ASB ac FSS yn cynnal cysylltiad rheolaidd ar lefel weithio ym mhob un o’r chwe maes a amlinellir yn 11.2 uchod, ac yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn y ‘Protocol Dadansoddi Risgiau’ (Atodiad G). 
  • Bydd uwch-arweinwyr gwyddoniaeth yr ASB ac FSS yn cyfarfod bob tri mis i adolygu materion strategol a llywodraethu trawsbynciol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn:
  1. rhannu blaengynllunio gweithgareddau ymchwil, gwyliadwriaeth a sganio’r gorwel sydd i’w datblygu gan y ddau sefydliad;
  2. adolygu gweithrediad ‘Protocol Gwyddoniaeth a Thystiolaeth’ y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar draws y chwe maes a amlinellir yn 11.2 uchod;
  3. amlygu unrhyw ddiwygiadau y mae angen eu gwneud i’r protocol a diweddaru Cytundebau Lefel Gweithio a restrir yn Atodiad H a sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ystod y broses flynyddol o adolygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (gweler yr adran ‘Adolygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ ym mhrif ran y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth)
  4. cytuno ar gamau gweithredu a datrys materion a godwyd ar lefel weithio.
  • Bydd Prif Gynghorwyr Gwyddonol yr ASB ac FSS yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod materion strategol yn ymwneud â chydweithio a llywodraethu gwyddonol. 

Os bydd FSS neu’r ASB yn dymuno comisiynu gwasanaethau gwyddonol gan y corff arall i gefnogi gwaith sy’n dod o fewn ei feysydd cyfrifoldeb ei hun, bydd y ddau gorff yn trafod hyn ac yn cytuno ar y trefniadau ar ei gyfer o flaen llaw mewn cytundeb ar wahân (er enghraifft, Cytundeb Lefel Gwasanaeth neu Gytundeb Lefel Gweithio). Bydd trefniadau o’r fath hefyd yn cynnwys gwasanaethau a gaffaelir gan y naill sefydliad neu’r llall i gefnogi swyddogaethau asesu risg (bydd unrhyw Gytundebau Lefel Gweithio o’r fath yn cael eu rhestru yn Atodiad H).

Bydd yr ASB ac FSS yn rhoi gwybod i’w gilydd am ymchwil defnyddwyr a gwyddor gymdeithasol sydd ar y gorwel ac yn cynnig gweithio ar y cyd ar feysydd sydd o ddiddordeb i’r ddau. Pan allai prosiect ymchwil gynnwys ymatebwyr o fewn ardal ddaearyddol y ddau sefydliad, dylid trafod y sail resymegol ar gyfer hyn ar gam cynllunio cynnar a chytuno p’un a yw’n briodol ai peidio rhwng Pennaeth Gwyddor Gymdeithasol yr ASB a Phennaeth Gwyddor Gymdeithasol FSS.