Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Atodiad G – Protocol Dadansoddi Risgiau

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) a’r egwyddorion y bydd yr ASB ac FSS yn eu dilyn yn ystod eu perthynas waith o ddydd i ddydd.

37. Egwyddorion cyffredinol

Dadansoddi risgiau yw’r broses a ddefnyddir gan yr ASB ac FSS i asesu, rheoli a chyfleu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Dyma egwyddorion lefel uchel allweddol y broses:

  • bod dadansoddi risgiau’n cynnwys asesu risgiau, rheoli risgiau a chyfleu risgiau;
  • y dylai swyddogaethau asesu risgiau a rheoli risgiau fod ar wahân;
  • bod y broses dadansoddi risgiau’n agored a thryloyw. Byddwn yn cyhoeddi ein cyngor ar reoli risgiau a’r dystiolaeth a’r dadansoddiadau sy’n sail i’r cyngor hwnnw;
  • bydd y cyngor a’r argymhellion a gyflwynir i weinidogion wedi’u seilio ar risgiau, gwyddoniaeth a thystiolaeth, a byddant yn annibynnol;
  • bod gan y broses dadansoddi risgiau’r capasiti i weithio ar draws pedair gwlad a darparu, lle y bo’n briodol, argymhellion rheoli risg diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid unedig ar gyfer y DU; 
  • ar gyfer newidiadau mewn meysydd o gyfraith yr UE a ddargedwir, sydd o fewn cwmpas y Fframwaith FFSH, bydd gweinidogion ym mhob un o’r pedair gwlad yn cael gwybod am unrhyw wahaniaethau yn y cyngor ac yn cael cyfle i herio hyn;
  • ar gyfer newidiadau mewn meysydd o gyfraith yr UE a ddargedwir, ni fydd unrhyw weithredu ar argymhellion rheoli risg drwy ddeddfwriaeth nes y bydd cyfathrebu wedi bod ar lefel swyddogol ar sail pedair gwlad. 

Mae’r ddau gorff yn cytuno i berthynas waith agos a chydlynu a chydweithio cryf rhwng staff yr ASB ac FSS sy’n ymwneud â dadansoddi risgiau. Ymgysylltir ar draws adrannau a chyda gweinyddiaethau datganoledig drwy gydol y broses dadansoddi risgiau i sicrhau bod yr holl faterion perthnasol a buddiannau adrannau eraill y llywodraeth sy’n gyfrifol am fwyd ac amaethyddiaeth, iechyd a masnach yn cael eu hystyried.  

Mae’r ddau gorff yn cytuno i ddilyn y Canllawiau Dadansoddi Risgiau Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Cedwir y canllawiau hyn yn fewnol ar SharePoint a dylid eu gwirio’n chwarterol er mwyn cadarnhau a oes angen unrhyw ddiwygiadau. Os bydd newidiadau i ganllawiau, mae timau Dadansoddi Risg yn yr ASB ac FSS yn gyfrifol am gyfathrebu a chytuno ar y rhain. 

Gwneir ceisiadau i awdurdodi cynnyrch neu broses bwyd neu fwyd anifeiliaid rheoleiddiedig ym Mhrydain Fawr gan ddefnyddio’r gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig, a reolir gan yr ASB ar ran yr ASB ac FSS. Bydd swyddogion yr ASB yn rhannu gwybodaeth berthnasol â thîm Cynhyrchion Rheoleiddiedig FSS yn unol â’r protocol rhannu data [yn adran 10.16] lle bo angen yn rhesymol.  Bydd gweithdrefnau awdurdodi yn dilyn gofynion statudol manwl ac unrhyw ganllawiau y cytunir arnynt ar y cyd. Dylai penderfyniadau ddilyn yr egwyddorion a nodir ar gyfer dadansoddi risg a’r Fframwaith FFSH.

38. Asesu risgiau

Mae asesu risgiau’n golygu defnyddio dull gwyddonol i amlygu peryglon ac amcangyfrif y risg bosib i iechyd pobl a/neu anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso’r amlygiad tebygol i risgiau o fwyd a ffynonellau eraill perthnasol.

Bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio ar asesiadau risg mewn meysydd y cytunir bod gan yr ASB arbenigedd ynddynt lle y gellir rhagweld effaith ar draws y DU. Wrth wneud hyn, bydd FSS yn hysbysu’r ASB am unrhyw faterion, tystiolaeth neu ddadansoddiad sy’n benodol i’r Alban, gyda’r nod o sicrhau bod asesiadau’n adlewyrchu’r sefyllfa yn yr Alban yn iawn, i’r graddau y mae’r dystiolaeth a’r gallu o ran adnoddau yn caniatáu hynny.

Bydd yr ASB yn gyfrifol am unrhyw asesiadau risg o fewn ei chylch gorchwyl sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn unig. 

Yn gyffredinol, bydd FSS yn gyfrifol am unrhyw asesiadau risg o fewn ei gylch gwaith sy’n berthnasol i’r Alban yn unig, ac eithrio mewn perthynas â threialon bwyd anifeiliaid. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r arbenigedd sy’n ofynnol, bydd FSS naill ai’n:

  • cynnal asesiad risg yn fewnol
  • cydweithio ag aseswyr risg yr ASB
  • gofyn am asesiadau risg gan wyddonwyr arbenigol o fewn yr ASB mewn meysydd lle nad yw’r arbenigedd hwn yn bodoli o fewn FSS.

Bydd FSS yn sicrhau bod yr ASB yn cael gwybod ar y cyfle cynharaf pan fydd arno angen cymorth gan yr ASB ar asesiadau risg sy’n berthnasol i’r Alban. Bydd yr ASB yn cynghori ar unrhyw oblygiadau adnoddau sy’n gysylltiedig â’r math o gymorth y gofynnir amdano a ph’un a yw’n bosib iddo gael ei ddarparu gan wyddonwyr yr ASB neu a fydd angen i FSS geisio ffynonellau arbenigedd amgen. 

Lle bo angen ffynonellau arbenigedd eraill, bydd yr ASB yn gweithio gydag FSS i nodi adnoddau allanol priodol. 

Bydd yr ASB ac FSS yn cynnal asesiadau risg yn unol â phrotocolau cytunedig, gan gynnwys y gweithdrefnau a amlinellir yn y Canllawiau ar Ddadansoddi Risgiau Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Bydd yr ASB ac FSS yn cydweithio ar unrhyw ddiweddariadau i’r protocolau hyn i sicrhau bod y fethodoleg a ddefnyddir i gynnal asesiad risg yn gyson ac yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol.

Bydd yr ASB ac FSS hefyd yn cydweithio i amlygu ffactorau dilys eraill sy’n gysylltiedig â buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, fel sy’n ofynnol gan yr amgylchiadau, yn unol â’r trefniadau a amlinellir uchod.

39. Rheoli risgiau

Mae rheoli risgiau’n golygu ystyried mesurau posib i atal neu reoli’r risg. Mae’n ystyried canfyddiadau asesiad risg a ffactorau dilys eraill sy’n gysylltiedig â buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd i amlygu ymateb priodol.

Bydd cydlynu a chydweithio rhwng staff yr ASB ac FSS sy’n ymwneud â rheoli risgiau yn digwydd trwy fforymau/grwpiau cytunedig a fydd yn hwyluso:

  • blaenoriaethu a brysbennu materion yn y broses 
  • trafodaeth lefel weithio ar faterion penodol a/neu arferol, gan ychwanegu at arferion polisi da presennol ar draws y pedair gwlad
  • trafodaeth ar lefel yr Uwch Wasanaeth Sifil rhwng yr ASB, FSS ac adrannau eraill y llywodraeth ledled y DU ar ddatblygu argymhellion rheoli risgiau ar gyfer materion nad ydynt yn arferol a rhoi sicrwydd ar faterion arferol.

40. Cyfleu risgiau

Mae cyfleu risgiau’n golygu cyfnewid gwybodaeth a safbwyntiau drwy gydol y broses dadansoddi risgiau rhwng aseswyr risg, rheolwyr risg, defnyddwyr, diwydiant, y gymuned academaidd a phartïon eraill â buddiant. Mae’n cynnwys deall pryderon defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill, cyhoeddi canfyddiadau asesiadau risg a thystiolaeth ategol arall, a dosbarthu cyngor terfynol.

Mae cyfleu risgiau wedi’i integreiddio drwy gydol y broses dadansoddi risgiau. 

Mae’r ASB ac FSS yn cytuno i rannu cynlluniau a manylion unrhyw gyfathrebiadau perthnasol sy’n gysylltiedig â dadansoddi risgiau cyn gynted â phosib. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu ar draws timau gwyddoniaeth, polisi a chyfathrebiadau wrth i faterion symud ymlaen trwy’r broses dadansoddi risgiau, a rhannu’n gynnar y cynlluniau cyfathrebu cysylltiedig sy’n datblygu ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth/allbynnau ar gyfer materion sy’n symud ymlaen trwy’r broses dadansoddi risgiau a chyngor ac argymhellion ar reoli risgiau.

Mae’r ASB ac FSS wedi ymrwymo i ymgynghori ar y cyngor rheoli risgiau y byddwn yn ei roi i eraill, a’r dadansoddiadau a’r dystiolaeth sy’n sail i’r cyngor hwnnw, a’u cyhoeddi.