Y system rheoleiddio bwyd
Mae’r system fwyd yn gymhleth ac mae’r broses o’i rheoleiddio yn cynnwys sawl corff.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithredu yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae gennym ni wahanol gyfrifoldebau polisi ar draws y tair gwlad.
Safonau Bwyd yr Alban yw adran anweinidogol Llywodraeth yr Alban sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, safonau bwyd, maeth, labelu bwyd, rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid ac arolygu cig yn yr Alban.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynrychioli buddiannau llywodraeth y DU mewn fforymau a sefydliadau rhyngwladol, ac yn hyrwyddo diogelwch a hylendid bwyd ar lefel fyd-eang.

Ein meysydd cyfrifoldeb polisi
Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:
- Diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
- Labelu diogelwch bwyd gan gynnwys labelu alergenau
Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon:
- Safonau cyfansoddiad a labelu bwyd
Yng Ngogledd Iwerddon yn unig:
- Safonau maeth a labelu
- Iechyd a gwyliadwriath deietegol
Meysydd cyfrifoldeb polisi eraill
Llywodraeth Cymru: Safonau maeth, labelu bwyd maeth yng Nghymru
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Labelu bwyd arall (yn cynnwys safonau cyfansoddiad, gwlad tarddiad) yn Lloegr
Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Safonau maeth, labelu bwyd maeth yn Lloegr
Cyfrifoldeb busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid
O dan reoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid y DU, cyfrifoldeb busnesau bwyd yw sicrhau bod yr holl fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu rhoi ar y farchnad yn ddiogel, eu bod o’r ansawdd y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl ac nad ydynt yn cael eu labelu mewn ffordd ffug neu gamarweiniol.
Pwy sy’n gorfodi rheolaethau bwyd?
Ar ran yr ASB
Mae Arolygwyr Cig (Swyddogion Cynorthwyol Swyddogol) a Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau hylendid, gwiriadau dogfennol, a gwiriadau ffisegol ac yn cymryd samplau o gynhyrchwyr cig cymeradwy (gan gynnwys lladd-dai a ffatrïoedd torri). Mae hyn yn cynnwys arolygiadau ante-mortem a post-mortem.
Mae Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid ac yn cynnal gwiriadau lles anifeiliaid, archwiliadau ac arolygiadau dirybudd. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gynnal gwaith gorfodi milfeddygol. (Yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) sy’n gyfrifol am gyflawni gweithrediadau cig ar ran yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.)
Mae Arolygwyr Safonau Gwin yn cynnal gwiriadau ar ddilysrwydd, ansawdd, dulliau labelu ac olrheiniadwyedd gwinoedd, ac yn rhoi arweiniad a chymorth i’r rheiny sy’n tyfu, cynhyrchu ac yn masnachu gwin.
Mae Arolygwyr Hylendid Llaeth yn arolygu safleoedd cynhyrchu cynradd, yn gwirio dulliau cynhyrchu llaeth amrwd hylifol, llaeth buwch i’w yfed yn amrwd a llaeth yfed amrwd, ac yn hyrwyddo’r arferion hylendid gorau ar yr un pryd.
Cynnal rheolaethau ar fwyd a fewnforir
O ran cynnal rheolaethau ar fwyd a fewnforir, awdurdodau lleol a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy’n gyfrifol yng Nghymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd sy’n gyfrifol yn Lloegr, a chynghorau dosbarth a DAERA sy’n gyfrifol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Swyddogion Iechyd Porthladdoedd yn cynnal gwiriadau dogfennol ar sail risg, gwiriadau adnabod, gwiriadau corfforol, ac yn cymryd samplau o fewnforion bwyd.
Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Pysgod Swyddogol yn cynnal gwiriadau ar gynhyrchion anifeiliaid.
Gwaith gweithredu awdurdodau lleol
Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd yn cynnal rheolaethau swyddogol ar ddiogelwch a hylendid bwyd. Maent yn arolygu safleoedd i sicrhau bod bwyd yn cael ei storio a’i baratoi’n ddiogel.
Mae Swyddogion Safonau Bwyd yn sicrhau bod bwyd yn bodloni safonau diogelwch, safonau cyfansoddiad a safonau labelu maeth (er enghraifft, labelu alergenau, dyddiadau defnyddio erbyn, gwybodaeth am faeth a chyfansoddiad).
Ymhlith y busnesau bwyd y mae awdurdodau lleol yn eu rheoleiddio mae cynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd, sefydliadau arlwyo, busnesau tecawê a dosbarthu bwyd, manwerthwyr a sefydliadau llaeth, cig a physgod cymeradwy.
Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw cynnal rheolaethau ar fwyd anifeiliaid yng Nghymru ac yn Lloegr, a DAERA sy’n gyfrifol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r ASB ac awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd i gynnal rheolaethau swyddogol ar bysgod cregyn.
Hanes diwygio
Published: 20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Gorffennaf 2025