Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adnodd i hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd

Gwydnwch yn erbyn twyll bwyd yn eich busnes

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) wedi datblygu’r adnodd hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd hwn i gefnogi busnesau i ddatblygu a gweithredu eu strategaeth atal twyll.

Mae’r adnodd hunanasesu yn cynnwys gwahanol feysydd y bydd angen i fusnesau fod yn ymwybodol ohonynt fel y gallant nodi a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau mewn prosesau yn well.

Mae’r adnodd yn cynnwys 7 adran ac yn cynnig cyngor ar wrthsefyll twyll bwyd. Bydd y cwestiynau hyn yn eich helpu i werthuso’ch busnes a nodi meysydd i'w gwella. Ni fydd yr adnodd yn rhoi sgôr derfynol i chi.

Gellir defnyddio’r adnodd yn ddienw ac ni fydd unrhyw ddata a gyflwynir yn cael ei gasglu mewn ffordd a allai eich adnabod chi. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w ddefnyddio.

Os oes gennych chi gwestiynau pellach ar gyfer Tîm Atal yr Uned, neu os hoffech chi gael cefnogaeth i wella gwydnwch yn erbyn twyll eich busnes, nodwch eich cyfeiriad e-bost ar y diwedd neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy NFCU.Prevention@food.gov.uk.