Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn uned casglu gwybodaeth droseddol o fewn yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dylai fod gan ddefnyddwyr hyder bod eu bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn swyddogaeth benodol o fewn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer gorfodi’r gyfraith. Mae’r Uned yn darparu arweinyddiaeth ar droseddau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Uned yn gweithio’n agos gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban.
Sefydlwyd yr Uned yn 2015 yn dilyn adolygiad o’r digwyddiad cig ceffyl yn 2013. Diben yr Uned yw diogelu defnyddwyr a’r diwydiant bwyd rhag troseddau bwyd o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.
Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy’n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd. Pennir ymateb yr Uned i’r twyll hwnnw trwy asesu pa mor ddifrifol ydyw. Bydd hyn yn cynnwys ystyried faint o waith cynllunio a chydlynu fu wrth ei gyflawni, effaith y twyll ar draws rhanbarthau a ffiniau daearyddol, a’r golled ariannol a niwed arall i’r cyhoedd a’r diwydiant.
Mae enghreifftiau o droseddau bwyd yn cynnwys defnyddio bwyd wedi’i ddwyn yn y gadwyn gyflenwi, lladd anghyfreithlon, dargyfeirio bwyd anniogel, difwyno, amnewid neu gamgyfleu bwyd, a thwyll wrth ddefnyddio dogfennau.
Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) wedi datblygu adnodd hunanasesu gwytnwch yn erbyn twyll bwyd i gefnogi busnesau i ddatblygu a gweithredu eu strategaeth atal twyll.
Mae’r adnodd hunanasesu yn cynnwys gwahanol feysydd y bydd angen i fusnesau fod yn ymwybodol ohonynt fel y gallant nodi a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau mewn prosesau yn well.
Amcanion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Amcanion strategol yr Uned yw:
- Atal bwyd rhag bod yn anniogel neu'n annilys trwy anonestrwydd
- Tarfu ar droseddu a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell
- Adeiladu gallu domestig a byd-eang i fynd i’r afael â throseddau bwyd
Mae’r Uned yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu ar draws sawl sector ac ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant bwyd i sicrhau bod busnesau’n wybodus ac yn barod i wrthsefyll troseddau bwyd. Nod yr Uned yw creu amgylchedd gelyniaethus i’r rheiny sy’n cyflawni troseddau bwyd trwy ymchwilio i droseddwyr dan amheuaeth neu fel arall drwy gefnogi partneriaid yn eu hymdrechion cyfreithlon i fynd ati yn yr un modd i darfu ar y troseddwyr hynny.
Ymatebion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Mae datblygu a dadansoddi gwybodaeth o ystod o ffynonellau yn galluogi’r Uned i baratoi asesiadau strategol manwl a fydd yn nodi bygythiadau, risgiau a gwendidau.
Mae’r Uned yn gweithio gyda’r diwydiant i godi eu hymwybyddiaeth a phrofi eu systemau ymateb i droseddau bwyd gan ddatblygu eu gwytnwch er budd y busnes bwyd a’r cyhoedd.
Strategaeth Reoli
Mae Strategaeth Reoli’r Uned yn amlinellu blaenoriaethau troseddau bwyd cyfredol yr Uned, yr ydym yn canolbwyntio arnynt er mwyn atal troseddau bwyd, rhwystro ac amharu ar droseddwyr bwyd, a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd yn gynnar yn 2023, byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol tan fis Mawrth 2024:
- troseddoldeb yn y sector cig coch gyda ffocws ar gadwyni cyflenwi cig eidion, porc a chig oen
- gweithgarwch twyllodrus yn y sector ieir
- dargyfeirio sgil-gynhyrchion anifeiliaid cig a dofednod yn ôl i’r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid
- cyflwyno pysgod cregyn sydd wedi’u cynaeafu’n anghyfreithlon neu eu camgyfleu i’r gadwyn fwyd i bobl
- cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd a werthir i ddefnyddwyr y DU
- honiadau a chynhyrchion cynaliadwy
Rydym hefyd yn estyn ein ffocws i’r themâu trawsbynciol canlynol lle maent yn gorgyffwrdd â’n meysydd blaenoriaeth:
- gwasanaeth bwyd
- gwasanaethu mewn ymateb i alw cymunedol mewn modd anghyfreithlon
- broceriaid, masnachwyr, ac asiantau
Cylchlythyr yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd i’r diwydiant
Nod ein Cylchlythyr i’r Diwydiant bob chwarter yw:
- tynnu sylw at y prif risgiau a materion a allai fod yn cael effaith ar y diwydiant bwyd
- rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau ymateb y diwydiant i droseddau bwyd
- tynnu sylw at waith parhaus yr NFCU
Os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant bwyd, ewch ati i fwrw golwg dros y rhifyn diweddaraf o gylchlythyr yr NFCU i’r diwydiant. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y cylchlythyr yma.
Rhoi gwybod am droseddau bwyd
Gall aelodau o’r cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y sector bwyd a diod roi gwybod am droseddau bwyd trwy’r llwyfan rhoi gwybod am Droseddau Bwyd yn Gyfrinachol.
Gall unrhyw un sy’n amau trosedd bwyd roi gwybod amdani’n ddiogel ac yn gyfrinachol i’r Uned. Gallwch roi gwybod am drosedd bwyd ar-lein neu drwy radffôn ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol y tu allan i’r DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.
Hanes diwygio
Published: 5 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Medi 2024