Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cymorth cofrestru busnes bwyd ar gyfer awdurdodau lleol

Gwybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cymorth cofrestru busnes bwyd ar gyfer awdurdodau lleol, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r data a'ch hawliau chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mehefin 2021

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni? 

Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi yn cynnwys eich enw, eich adran, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn mewn perthynas ag un neu fwy o'r rolau canlynol: 

  • Cyswllt cyhoeddus dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd
  • Prif gyswllt dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd
  • Cyswllt eilaidd dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon? 

Rydym ni'n cael yr wybodaeth hon drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Pam fod angen yr wybodaeth arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn darparu a chefnogi'r gwasanaeth cofrestru busnesau bwyd ar-lein mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â pherfformiad ein dyletswyddau statudol i gyflawni rhwymedigaethau statudol sy'n ofynnol gan Erthygl 31 o Reoliad (CE) Rhif 882/2004 yn bennaf. Mae hyn yn gosod gofyniad ar awdurdodau cymwys i sefydlu gweithdrefnau ar gyfer cofrestru busnesau bwyd, gan lunio a diweddaru rhestr o fusnesau bwyd sydd wedi'u cofrestru.

Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol amdanoch chi nad oes ei angen arnom.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw cyhyd â'ch bod yn berson cyswllt dynodedig yr awdurdod lleol mewn perthynas â chefnogi Cofrestru Busnes Bwyd. Os byddwch chi'n rhoi gwybod i ni nad ydych chi yn y rôl hon bellach, byddwn ni'n dileu eich gwybodaeth ar unwaith.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy gytundebau fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Weithiau bydd yr ASB yn rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, a sefydliadau preifat ac unigolion eraill, fel gweithredwyr busnesau bwyd, pan fydd er budd y cyhoedd.

Yn ogystal, rydym ni'n defnyddio neu'n gweithio â chontractwyr a darparwyr gwasanaethau trydydd parti eraill, fel darparwyr gwasanaethau TG, a fydd yn prosesu eich data personol ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr data a dim ar ôl cael cyfarwyddyd gennym ni y gallant brosesu eich data personol neu gyda'n cytundeb ni at ddiben penodol i'n galluogi ni i gynnal, gwella a darparu ein gwasanaethau er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus.

Eich hawliau chi

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

.