Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Monitro lefelau acrylamid a ffwran

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â'n Rhaglen Wyliadwriaeth Flynyddol i Fonitro Lefelau Acrylamid a Ffwran, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol yr ASB fel rhan o'r rhaglen wyliadwriaeth flynyddol i fonitro lefelau acrylamid a ffwran mewn bwyd sy'n cael ei manwerthu yn y Deyrnas Unedig. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am uchafswm o 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gall eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo i; Gwasanaethau Dadansoddol Uwch, Lincoln Road, High Wycombe, Bucks, HP12 3QS. Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y Gwasanaethau Dadansoddol Uwch yn unig er mwyn eu galluogi i ddadansoddi'r sampl a gasglwyd, i gwblhau taenlen acrylamid a ffwran o ganlyniadau sampl a anfonir at yr ASB yn unig. 

Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog 
Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).