Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd ein Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

At ddiben yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac awdurdodau lleol yw ‘cyd-reolwyr’ y data personol a ddarperir i ni. 

Y data personol rydym yn ei gasglu:

  • Enw’r busnes bwyd
  • Cyfeiriad cofrestredig y busnes 
  • Rhif ffôn y busnes

Sut rydym yn casglu eich data personol

Mae’r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan awdurdodau lleol. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw penderfynu a yw eich gwybodaeth yn addas i’w chyhoeddi gan yr ASB. 

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu 

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon at ddiben cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd. Byddwn yn dadansoddi’r data (a’i gyfuno â data arall o bosib) er mwyn: 

1. cyflawni ein cyfrifoldeb o adolygu gweithrediad y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) 

2. monitro i ba raddau mae awdurdodau lleol yn gyson wrth ddarparu’r cynllun 

3. adrodd ar dueddiadau, fel cydymffurfiaeth busnesau â safonau hylendid yn gyffredinol

4. llywio gwaith ymchwil a datblygu a allai wella’r cynllun

Rydym yn gwneud hyn yn unol â’n dyletswyddau statudol ac wrth arfer yr awdurdodau swyddogol a freiniwyd yn yr ASB a pherfformiad tasgau a wneir er lles y cyhoedd.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych nad oes ei angen arnom. 

Sut a ble rydym yn storio eich data a chyda phwy y gallwn ei rannu 

I gael mwy o wybodaeth am sut a ble rydym yn storio eich data a chyda phwy y gallwn ei rannu, darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol dim ond cyhyd ag y bo angen i gyflawni’r swyddogaethau hyn, a byddwn yn cadw’r wybodaeth honno yn unol â’n polisi cadw.

Trosglwyddiadau rhyngwladol  

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Dinasyddion yr UE  

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Cysylltu â ni  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.