Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Digwyddiadau bwyd

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd rheoli digwyddiadau, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Rydym ni'n cadw'r wybodaeth hon at ddibenion rheoli digwyddiadau sy'n ymwneud â bwyd a diogelwch bwyd, cywirdeb, twyll/troseddau bwyd ac argyfyngau eraill, er mwyn sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio â diogelwch bwyd/bwyd anifeiliaid a gofynion deddfwriaethol eraill yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni'n cynnwys: enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a lle bo'n berthnasol, manylion alergedd neu salwch, gwybodaeth unig fasnachwr, a data arall sy’n berthnasol i’r digwyddiad bwyd. Gall y data personol sydd gennym ni hefyd gynnwys manylion cyswllt brys ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â rheoli digwyddiadau (gan gynnwys parhad busnes).

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon naill ai gan unigolion eu hunain neu gan drydydd partïon eraill gan gynnwys awdurdodau gorfodi, adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, cyrff diwydiant, y Comisiwn Ewropeaidd. Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chyflawni ein dyletswyddau statudol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am 7 mlynedd. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth i adrannau eraill y llywodraeth ac awdurdodau cymwys yn aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys Comisiwn yr UE yn ogystal â chyrff cyhoeddus y Deyrnas Unedig, a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau statudol neu pan fydd er budd y cyhoedd. 

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog 
Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).