Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Galw fformiwla fabanod yn ôl

Mae rhai cynhyrchion fformiwla fabanod wedi cael eu galw’n ôl yn ddiweddar. Mae hyn oherwydd y gallent gynnwys tocsin niweidiol o’r enw seriwlîd (‘cereulide’), a all achosi chwydu a dolur rhydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Chwefror 2026

Mae rhai cynhyrchion fformiwla fabanod wedi cael eu galw’n ôl yn ddiweddar. Mae hyn oherwydd y gallent gynnwys tocsin niweidiol o’r enw seriwlîd (‘cereulide’), a all achosi chwydu a dolur rhydd. 

Mae angen i chi wirio pa fformiwla mae eich babi yn ei defnyddio. Os yw’n un o’r sypiau dan sylw, stopiwch ei ddefnyddio ar unwaith, hyd yn oed os yw’ch babi i’w weld yn iach. 

Os ydych chi eisoes wedi bwydo un o’r fformwlâu dan sylw i’ch babi ac yn pryderu am symptomau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111. 

Pam mae cynhyrchion wedi cael eu galw’n ôl? 

Mae’r cynhyrchion fformiwla sydd wedi cael eu galw’n ôl yn cynnwys rhai sypiau gan SMA, Aptamil, a Cow & Gate. 

Mae'r cynhyrchion hyn wedi cael eu galw’n ôl oherwydd ei bod yn bosib y gallent gynnwys y tocsin seriwlîd, sy’n eu gwneud yn anniogel i’ch babi eu hyfed. 

Dyma symptomau gwenwyn seriwlîd: 

  • teimlo’n sâl 
  • chwydu 
  • poen yn y stumog 
  • dolur rhydd 

Ni fydd dŵr berw na chynhesu’r fformiwla yn cael gwared ar y tocsin hwn. 

Cynhyrchion yr effeithir arnynt 

Gwiriwch pa sypiau o fformiwlâu yr effeithir arnynt drwy weld y rhestr lawn o gynhyrchion a gafodd eu galw’n ôl: 

O ran y sypiau a gafodd eu galw'n ôl, cawsant eu cynhyrchu peth amser yn ôl, ac mae’n annhebygol eu bod nhw’n cael eu gwerthu o hyd. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych y cynhyrchion hyn yn eich cypyrddau gartref. 

Os oes gennych swp yr effeithir arno, peidiwch â’i ddefnyddio.  Gallwch ei ddychwelyd i’r siop a’i gyfnewid am swp heb ei effeithio.   

Mae pob swp arall o gynnyrch fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol SMA, Aptamil a Cow & Gate nad ydynt wedi’u rhestru yn y rhybuddion galw’n ôl yn parhau i fod yn ddiogel i’w defnyddio. 

Newid i fformiwla wahanol 

Mae’r rhybudd hwn i alw cynhyrchion yn ôl yn effeithio ar nifer cyfyngedig o sypiau. Nid yw’r rhybudd yn berthnasol i’r rhan fwyaf o fformiwlâu babanod sy’n cael eu gwerthu, ac maent yn ddiogel i'w defnyddio, ac maent yn ddiogel i’w defnyddio. 

Dewch o hyd i gyngor ar ddefnyddio fformiwla: 

Fformiwla wedi’i rhagnodi 

Os cafodd y fformiwla ei rhagnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, ceisiwch gyngor gan fferyllydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall cyn newid y fformiwla. 

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf 

 

Tanysgrifiwch i gael rhybuddion bwyd ac alergedd drwy food.gov.uk er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn syth. 

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon os bydd mwy o gynhyrchion yn cael eu hychwanegu at y rhybudd i alw cynhyrchion yn ôl.  

Darllenwch ein stori newyddion i ddysgu beth mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ei wneud mewn perthynas â’r rhybuddion hyn i alw cynhyrchion yn ôl.