Yr ASB yn gofyn i rieni a gofalwyr wirio cynhyrchion fformiwla fabanod wrth i Danone alw rhai sypiau o fformiwla fabanod brandiau Aptamil a Cow & Gate yn ôl
Mae rhagor o sypiau o gynhyrchion fformiwla fabanod gan Danone wedi cael eu galw’n ôl heddiw (6 Chwefror 2026). Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gofyn i rieni a gofalwyr wirio’r sypiau a nodir yn y rhybuddion i alw cynhyrchion yn ôl, a rhoi’r gorau i ddefnyddio unrhyw rai yr effeithir arnynt.
Cyhoeddwyd rhybudd Danone i alw cynhyrchion yn ôl oherwydd halogiad seriwlîd (‘cereulide’) posib, a all achosi salwch gan gynnwys chwydu a phoen yn y stumog. Mae’r rhybudd yn effeithio ar y sypiau a nodir yn yr hysbysiad galw’n ôl yn unig, yn ogystal â’r cynnyrch a oedd wedi’i gynnwys mewn rhybudd cynharach gan Danone.
Mae hyn yn dilyn rhybuddion diweddar gan Nestlé i alw cynhyrchion fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol SMA yn ôl oherwydd yr un broblem o ran halogi. Mae pob swp arall o gynnyrch fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol Cow & Gate, Aptamil a Nestlé SMA nad ydynt wedi’u rhestru yn yr hysbysiadau galw cynhyrchion yn ôl yn parhau i fod yn ddiogel i’w defnyddio.
Mae Danone a Nestlé wedi cadarnhau nad ydynt bellach yn defnyddio cynhwysion gan y cyflenwr yr effeithiwyd arno.
Mae rhai manwerthwyr mawr yn parhau i stocio cynhyrchion heb eu heffeithio, felly dylai rhieni a gofalwyr allu prynu fformiwla o hyd. Lle mae manwerthwyr eraill yn clirio stoc dros dro fel mesur rhagofalus, mae cyflenwadau newydd eisoes yn y system a bydd silffoedd yn cael eu hailstocio’n gyflym.
Mae’r ASB yn gweithio gyda Safonau Bwyd yr Alban, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), awdurdodau lleol ac awdurdodau diogelwch bwyd rhyngwladol i barhau i ymateb i’r rhybudd byd-eang hwn i alw cynhyrchion yn ôl. Mae’r cynhwysyn halogedig wedi’i nodi fel asid arachidonig (ARA), a chafodd hyn ei gyflenwi gan weithgynhyrchwr trydydd parti y defnyddiwyd ei gynhyrchion yn rhyngwladol. Mae Danone a Nestlé wedi rhoi sicrwydd i’r ASB y cafodd sypiau a alwyd yn ôl eu cynhyrchu peth amser yn ôl, ac mae’n annhebygol eu bod nhw’n dal i fod ar silffoedd siopau. Fodd bynnag, efallai bod gennych chi’r sypiau dan sylw yn eich cypyrddau gartref, a dyna pam rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr wirio beth sydd ganddynt.
“Ewch ati i wirio a oes gennych chi fformiwla o’r brandiau Aptamil, Cow & Gate ac SMA gartref. Mae’n annhebygol y bydd y sypiau yr effeithiwyd arnynt yn dal i fod ar silffoedd siopau ond mae’n bosib y gallent fod yn eich cwpwrdd. Os oes gennych swp yr effeithir arno, peidiwch â’i ddefnyddio. Gallwch ei ddychwelyd i’r siop a’i gyfnewid am swp sydd heb ei effeithio.
Os ydych chi’n bwydo un o’r sypiau yr effeithir arnynt i’ch babi, rhowch y gorau i’w ddefnyddio a newidiwch i swp heb ei effeithio o’r un brand neu frand arall. Os cafodd fformiwla eich babi ei rhagnodi, siaradwch â fferyllydd neu feddyg cyn newid. Mae’r risg o niwed i blant o halogiad seriwlîd ar y lefelau hyn yn isel, ond gallai ei fwyta achosi symptomau fel chwydu a dolur rhydd. Os yw’ch babi wedi bwyta swp yr effeithiwyd arno yn ddiweddar ac rydych chi’n poeni am symptomau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111.
Mae Danone a Nestlé wedi cadarnhau nad ydynt yn defnyddio’r cyflenwr yr effeithiwyd arno mwyach, ac nid yw cynhyrchion Aptamil Cow & Gate ac SMA sydd ar werth nawr yn cynnwys y cynhwysyn halogedig.
Mae gan fusnesau bwyd gyfrifoldeb cyfreithiol i werthu bwyd diogel, gan gynnwys gwirio bod cynhwysion gan gyflenwyr yn ddiogel. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau diogelwch bwyd rhyngwladol ac yn disgwyl i weithgynhyrchwyr egluro beth aeth o’i le a rhoi sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto.”
Mae gan wefan y GIG gyngor ar ddefnyddio fformiwla fabanod.
Gallwch weld y rhestr lawn o gynhyrchion sydd wedi'u galw'n ôl yn ogystal â'r cyngor diweddaraf ar ein tudalen bwrpasol ar alw fformiwla babanod yn ôl.