Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned), pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â’r data a’ch hawliau chi.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni. 

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Pan fydd yr ASB yn prosesu eich data personol at Ddibenion Gorfodi’r Gyfraith, mae’n gwneud hynny fel Awdurdod Cymwys i atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau neu i weithredu cosbau troseddol yn ymwneud â Throseddau Bwyd, gan gynnwys diogelu ac atal bygythiadau i iechyd y cyhoedd. 

Pa wybodaeth sydd gennym ni?

Mae’r wybodaeth bersonol sydd gennym yn cynnwys data personol sy’n ymwneud ag amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata a ddarparwyd gan bobl neu sefydliadau sy’n adrodd am droseddau neu’n dyst i droseddau bwyd a amheuir. Gall hyn hefyd gynnwys data personol unigolion sy’n ymwneud â, neu a nodwyd o reidrwydd, yn ystod ein hymchwiliadau i droseddau bwyd a amheuir (Data personol a data personol categori arbennig fel y’i diffinnir yn Neddf Diogelu Data 2018).

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cadw data personol sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau neu fesurau rheoleiddio cysylltiedig, gan gynnwys data sy’n ymwneud â chyflawni troseddau honedig, neu achosion o gyflawni troseddau, neu yr honnir iddynt gael eu cyflawni, gan destun y data, neu waredu achosion o’r fath, gan gynnwys dedfrydu.

O ble’r ydym ni’n cael yr wybodaeth hon?

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon naill ai gan unigolion eu hunain, unigolion trydydd parti’n rhoi gwybodaeth i ni, neu gan drydydd partïon fel cyrff cyhoeddus eraill, asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill ac awdurdodau lleol, yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yn rhyngwladol, neu drwy ein prosesau monitro a gwerthuso risg yn unol â phwerau eang a ddarperir gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Mae hyn yn cynnwys cyfuno a dadansoddi gwybodaeth a gafwyd yn ystod ein swyddogaethau rheoleiddio â gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus, agored a phreifat. 

Wrth arsylwi ar gydymffurfiaeth mewn perthynas â rheoliadau bwyd ac arfer ein pwerau i fonitro a gwerthuso risgiau byddwn ni’n nodi digwyddiadau penodol y mae angen ymchwilio iddynt yn brydlon er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ‘Fonitro a Gwerthuso Risgiau’ i’w gweld yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Byddwn ni’n casglu pa bynnag wybodaeth sy'n angenrheidiol yn ystod yr ymchwiliadau hyn ar gyfer ein Tasg Gyhoeddus. Gwnawn hyn yn unol â'n rhwymedigaethau statudol o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd ac o dan awdurdod atodlen 7 Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU.

Pan ddaw'n amlwg i ni, naill ai trwy ein hymchwiliadau ein hunain neu drwy wybodaeth a ddarperir i ni, yr amheuir gweithgarwch troseddol, bydd ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae’r Uned yn swyddogaeth gorfodi cyfraith bwrpasol sy’n perthyn i’r ASB, ac felly mae ganddi bwerau eang wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth. Mae'r Uned yn arwain ar droseddau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn gweithio'n agos gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban.

Diffinnir Prosesu Sensitif yn adran 35(8) o Ddeddf Diogelu Data 2018 ac mae’n cynnwys prosesu categorïau arbennig o ddata a data euogfarnau troseddol. Bydd y prosesu hwn yn digwydd pan fydd testun y data naill ai wedi rhoi caniatâd i’r prosesu at ddiben gorfodi’r gyfraith neu pan fo’r prosesu’n gwbl angenrheidiol at y diben gorfodi’r gyfraith a bod y prosesu’n bodloni o leiaf un o’r amodau yn Atodlen 8.

Bydd eich data personol yn cael ei gasglu at Ddiben Gorfodi’r Gyfraith penodedig, eglur a chyfreithlon, ac ni fydd unrhyw brosesu newydd yn anghydnaws â’r diben y’i casglwyd ar ei gyfer yn wreiddiol. Bydd y data’n cael ei brosesu yn unol â Dogfen Polisi Priodol yr Uned. 

Adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd

Gall Tîm Atal yr Uned gasglu gwybodaeth bersonol trwy’r adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn Erbyn Twyll Bwyd. Mae modd llenwi’r adnodd yn ddienw ond mae opsiwn i’r defnyddiwr ddewis cael cyswllt pellach gan Dîm Atal yr Uned. Ar ôl llenwi’r adnodd, gall y defnyddiwr ddarparu cyfeiriad e-bost i gael crynodeb e-bost wedi'i gynhyrchu'n awtomatig o’r ymatebion. Gall defnyddwyr hefyd ddewis i Dîm Atal yr Uned gysylltu â nhw gyda chanllawiau a hyfforddiant pellach sy’n berthnasol i feithrin gwytnwch yn erbyn twyll bwyd. 

Os bydd y defnyddiwr yn rhoi caniatâd, bydd yr Uned yn cael y cyfeiriad e-bost a roddwyd ynghyd â’r ymatebion terfynol. Os na fydd y defnyddiwr yn rhoi’r caniatâd hwn, bydd yr Uned yn cael yr ymatebion terfynol yn ddienw heb y cyfeiriad e-bost cyswllt. Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir trwy'r adnodd Hunanasesu Gwytnwch yn erbyn Twyll Bwyd dim ond yn cael ei defnyddio i gysylltu â busnesau sy’n cydsynio mewn perthynas a chanllawiau a hyfforddiant pellach a gynigir gan yr Uned.

Beth byddwn ni’n ei wneud â’r wybodaeth?

Rydym ni’n prosesu’r wybodaeth i atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau sy’n ymwneud â throseddau bwyd.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill megis adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus at ddibenion ymchwilio neu erlyn neu pan fo budd cyhoeddus sylweddol.

Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Byddwn ond yn cadw’ch gwybodaeth gyhyd ag y bo angen i gynnal ein swyddogaethau ac yn unol â'n hamserlen gadw.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Pan fydd gennym ni sail gyfreithiol i brosesu data personol at ddibenion gorfodi’r gyfraith, gallwn ni hefyd drosglwyddo data y tu allan i’r DU o dan ddarpariaethau Rhan 3 Deddf Diogelu Data 2018.

Hefyd, pan fyddwn ni’n trosglwyddo gwybodaeth i awdurdodau neu sefydliadau er budd sylweddol y cyhoedd, er enghraifft, ar atal neu ganfod troseddau, neu fonitro a gwerthuso risgiau i Ddiogelwch Bwyd, rydym ni’n ceisio cymryd camau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth yn unol â GDPR y DU. Efallai y byddwn ni’n dibynnu ar y rhanddirymiadau (derogations) yn GDPR y DU lle bo angen at y diben hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau


Dyma eich hawliau gwybodaeth mewn perthynas â’ch data personol a broseswyd at ddibenion gorfodi’r gyfraith:

Yr Hawl i Gael Gwybod – Mae hyn yn gosod rhwymedigaeth arnom i ddweud wrthych sut yr ydym yn cael gafael ar eich gwybodaeth bersonol a disgrifio sut y byddwn yn defnyddio, yn cadw ac yn storio’r wybodaeth a gyda phwy y gallwn ni ei rhannu. Rydym ni wedi llunio’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn i egluro sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol a dweud wrthych beth yw eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth.

Hawl i Fynediad – Yr enw cyffredin ar hyn yw mynediad at ddata gan y testun a dyma’r hawl sy’n caniatáu i chi gael mynediad at eich data personol a gwybodaeth atodol. Fodd bynnag, mae’n destun rhai cyfyngiadau. Nid yw hawliau i fynediad yn berthnasol i brosesu ‘data personol perthnasol’. Gallwn gyfyngu ar gadarnhad ein bod yn prosesu data ac unrhyw fynediad at ddata personol, os oes angen ac os yw’n gymesur er mwyn:

  • Osgoi rhwystr i ymholiad, ymchwiliad neu weithdrefn swyddogol neu gyfreithiol;
  • Osgoi rhagfarnu, atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau neu weithredu cosbau troseddol;
  • Diogelu’r cyhoedd; 
  • Diogelu hawliau a rhyddid pobl eraill

Mae ‘data personol perthnasol’ yn golygu data personol sydd wedi’i gynnwys mewn penderfyniad barnwrol neu mewn dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r ymchwiliad neu achos sy’n cael eu creu gan y llys neu ar ran y llys neu awdurdod barnwrol arall. Mae mynediad at ‘ddata personol perthnasol’ yn cael ei lywodraethu gan y ddeddfwriaeth briodol sy’n ymwneud â datgelu gwybodaeth mewn achosion troseddol, fel (yng Nghymru a Lloegr) Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996.

Hawl i Ofyn am Gywiriad – Mae gennych chi hawl i gael data personol wedi’i gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Gallwn wrthod y cais hwn lle mae’r data’n angenrheidiol ac yn gymesur neu’n ymwneud â ‘data personol perthnasol’, hynny yw i osgoi rhwystro ymholiad, ymchwiliad neu weithdrefn swyddogol neu gyfreithiol, neu i osgoi rhagfarnu atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau neu gweithredu cosbau troseddol, fel y manylir uchod.

Hawl i Ddileu a Hawl i Gyfyngu – Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu neu gael gwared ar eich data personol a/neu’r hawl i ‘rwystro’ neu gyfyngu ar brosesu eich data personol lle nad oes rheswm cymhellol dros barhau i'w brosesu. Gallwn wrthod cais o’r fath lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur neu’n ymwneud â ‘data personol perthnasol’, hynny yw i osgoi rhwystro ymholiad, ymchwiliad neu weithdrefn swyddogol neu gyfreithiol, neu i osgoi rhagfarnu atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau neu weithredu cosbau troseddol, fel y manylir uchod. Ni ellir ystyried dileu data personol sy’n ymwneud â throseddau nes i’r cyfnod cadw llawn ddod i ben. 

Hawliau sy’n Ymwneud â Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd – Mae gwneud penderfyniadau a phroffilio unigol yn awtomataidd yn benderfyniad a wneir trwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw gysylltiad dynol.

Rhaid prosesu ceisiadau o fewn mis. Os caiff cais ei wrthod, rhaid rhoi gwybod i’r unigolyn a lle na chymerir camau gweithredu mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod sut i geisio rhwymedi barnwrol (judicial remedy).

Lle rydym yn prosesu eich gwybodaeth at ddibenion heblaw dibenion gorfodi’r gyfraith, er enghraifft, mewn perthynas â swyddogaethau eraill yr ASB, neu i’w cefnogi, fel y rhai a nodir yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol, fe fydd yn brosesu cyffredinol o dan GDPR. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’r prosesu hwn, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.