Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Hydoddiant Mwynol Gwyrthiol (MMS) a hydoddiant sodiwm clorit

Rhagor am Hydoddiant Mwynol Gwyrthiol (MMS) a Hydoddiant sodiwm clorit, y perygl maent yn ei beri i iechyd a beth mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn ei wneud i’w hatal rhag cael eu gwerthu a’u defnyddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Awst 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Awst 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae MMS yn gysylltiedig ag amrywiaeth o gynhyrchion. Yr un mwyaf cyffredin o’r rhain yw Hydoddiant Mwynol Gwyrthiol neu ‘Miracle Mineral Solution’.

Mae MMS fel arfer yn disgrifio hydoddiant sy’n cynnwys y cemegyn sodiwm clorit sydd, mewn cryfderau uchel, yn cael ei ddefnyddio fel cannydd (bleach).

Defnyddir y term Hydoddiant Deuocsid Clorin (CDS) hefyd i gyfeirio at doddiannau sodiwm clorit. Mae toddiannau gwannach hefyd wedi'u marchnata fel Ocsigen Aerobig.

Mae sodiwm clorit wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio mewn rhai gwledydd fel sylwedd glanhau arwynebau ar gyfer ardaloedd a ddefnyddir i drin bwyd.

Weithiau dywedir ei fod ‘o safon bwyd’, ond nid yw’n ddiogel i’w fwyta na’i yfed gan bobl. Yn aml, caiff ei farchnata fel cemegyn i buro dŵr hefyd.

Nod y ddau gynnyrch yw rhyddhau nwy clorin deuocsid, gan honni weithiau bod y broses hon yn cael effaith buro pan fydd yn digwydd y tu mewn i’r corff.

Peryglu iechyd

Mae cynhyrchion sodiwm clorit yn amrywio o ran crynodiad, dosau penodol a’r dull o’u cymryd.

Gyda chynhyrchion gwannach, mae unrhyw effeithiau iechyd o’u cymryd yn debygol o fod yn llid gastroberfeddol (gastrointestinal irritation).

O ran y cynhyrchion MMS cryfach, gallant arwain at gyfog (nausea), chwydu a dolur rhydd difrifol, a all arwain at ddadhydradu a phwysedd gwaed yn gostwng.

Os yw'r hydoddiant yn cael ei wanhau i raddau llai na'r hyn a nodir yn y cyfarwyddiadau, fe allai achosi niwed i'r stumog a chelloedd coch y gwaed, a allai arwain at y system anadlu yn methu.

Manteision therapiwtig honedig

Mae amrywiaeth o fanteision iechyd honedig ynghlwm wrth y cynhyrchion hyn, ac mae’n annhebygol iawn bod yr un o’r rhain wedi’i awdurdodi. Dim ond honiadau maeth sydd wedi’u cofrestru yng Nghofrestr NHC Prydain Fawr y gellir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr.

Mae'n ofynnol i honiadau iechyd a maeth gael eu hawdurdodi o dan Reoliad a Gymathwyd 1924/2006, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Maeth (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Maeth (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020. Yn ogystal â chael ei awdurdodi a’i gofnodi ar Gofrestr NHC Prydain Fawr, ni all yr honiad fod ‘yn ffug, yn amwys nac yn gamarweiniol’.

Mae’n bosibl bod rhai o’r honiadau iechyd am y cynnyrch hwn sy’n ymwneud â thrin canser hefyd yn mynd yn groes i Ddeddf Canser 1939.

Mae’r honiadau yn amrywio o ddatganiadau generig am ‘buro’r’ corff i rai mwy penodol am ganser ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Statws cyfreithiol sodiwm clorit

Nid yw sodiwm clorit yn ychwanegyn bwyd sydd wedi’i awdurdodi yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hysbysebu'r cynnyrch hwn fel un sy'n addas at y diben hwn yn mynd yn groes i Reoliad a Gymathwyd 1333/2008, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019.

Os mai’r bwriad yw i bobl ei gymryd trwy ei yfed, gellir dosbarthu'r cynnyrch fel ‘bwyd anniogel’ fel y diffinnir o dan Reoliad a Gymathwyd 178/2002, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019. Mae'n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd dynnu bwyd anniogel o'r farchnad. Gall bwyd barhau i fod ar y farchnad os caiff ei gynnig am ddim neu am gyfraniad. Mae hyn yn wir weithiau gyda thoddiannau sodiwm clorit fel MMS.