Arestiwyd pedwar person fel rhan o ymchwiliad yr ASB i droseddau bwyd
Mae ymgyrch Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n ymchwilio i ddosbarthu a gwerthu reis basmati mewn deunydd pecynnu ffug wedi arwain at arestio pedwar o bobl.
Ddydd Mercher, 23 Gorffennaf 2025, cynhaliodd yr NFCU ymgyrch yng Nghaerlŷr gyda chymorth awdurdodau lleol a Heddlu Swydd Gaerlŷr. Cafodd dyn 48 oed ei arestio ar amheuaeth o dwyll trwy gamgyfleu a chynllwyn i dwyllo. Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad.
Ddydd Mercher, 30 Gorffennaf 2025, ymwelodd swyddogion NFCU, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol, Heddlu Metropolitan a Heddlu Surrey, â nifer o safleoedd yn Llundain, gan arwain at dri arestiad. Cafodd dyn 56 oed a menyw 51 oed o Croydon, ynghyd â dyn 48 oed o Epsom, eu harestio ar amheuaeth o dwyll trwy gamgyfleu a chynllwyn i dwyllo. Cawsant eu rhyddhau’n ddiweddarach dan ymchwiliad.
Cafodd dyn 52 oed o Lundain ei gyfweld yn wirfoddol mewn gorsaf heddlu.
Atafaelwyd nifer mawr o fagiau 10kg a 20kg o reis cymysg mewn deunydd pecynnu basmati brand premiwm ffug fel rhan o’r ymgyrch.
Mae ymholiadau’n parhau.
“Mae camgyfleu bagiau reis cymysg a fewnforir yn gyfreithlon fel cynhyrchion basmati premiwm yn fwriadol yn twyllo defnyddwyr ac yn creu cystadleuaeth annheg i fusnesau cyfreithlon. Mae’r ymgyrch hon yn dangos ymrwymiad yr NFCU i ddiogelu defnyddwyr rhag troseddau bwyd a diogelu ein cadwyn gyflenwi bwyd.
Mae’r arestiadau’n anfon neges glir y byddwn yn mynd ar ôl y rhai sy’n ceisio elwa o dwyllo defnyddwyr. Bydd ein timau’n parhau i weithio gyda phartneriaid i nodi, ymchwilio a tharfu ar y rhwydweithiau troseddol hyn, gan sicrhau bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Nid oes unrhyw risg iechyd i’r cyhoedd. Fodd bynnag, os oes gennych bryderon am gynnyrch rydych chi wedi’i brynu, cysylltwch â’ch tîm Safonau Masnach lleol.”
Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar food.gov.uk/cy/rhoi-gwybod neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).