Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig

Yr hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o’ch cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU.

Cyn i chi ddechrau’r broses o wneud cais, bydd angen i chi ystyried a oes angen i chi wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. 

Mae ein gwybodaeth gefndirol ar roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad yn esbonio gofynion gwneud cais a bydd yn eich helpu i bennu a oes angen i chi wneud cais.

Os ydych yn dal yn ansicr neu os oes gennych gwestiynau cyffredinol o ran a ganiateir cynnyrch yn y DU, cysylltwch â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk cyn dechrau gwneud cais.

Os ydych yn dymuno gwneud cais i awdurdodi cynnyrch canabidiol (CBD), gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Canllawiau ar CBD a’r canllawiau ar wneud cais am fwyd newydd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, gan gynnwys ar fewnforion a chofrestru busnes bwyd, darllenwch ein canllawiau i fusnesau bwyd a chyflwynwch ymholiad ar-lein os oes angen rhagor o gymorth arnoch.

Gwybodaeth fanwl ar gyfer y gwahanol fathau o gynhyrchion rheoleiddiedig

Mae angen i chi wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig os ydych yn dymuno rhoi un o’r mathau canlynol o gynhyrchion ar y farchnad yn y DU.

Dilynwch y dolenni i weld canllawiau penodol yr ASB ar gyfer pob math o gynnyrch rheoleiddiedig. Mae’r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys dolenni i’r canllawiau a’r rheoliadau perthnasol sy’n gymwys i bob math gwahanol o gynhyrchion rheoleiddiedig:

Sylwer

Yn gyffredinol, ni roddir awdurdodiadau ar gyfer bwydydd cyfansawdd. Mae’r gofyniad i wneud cais am awdurdodiad yn ymwneud â sylwedd penodol (er enghraifft 2’-ffycosylactos fel bwyd newydd) yn hytrach na chynnyrch cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch rheoleiddiedig fel cynhwysyn (er enghraifft diod â blas sy’n cynnwys y bwyd newydd 2’-ffycosylactos). Rhaid paratoi ceisiadau am awdurdodiadau yn unol â hynny.

Y broses o wneud cais

Unwaith y bydd yn amlwg bod y cynnyrch yr ydych yn dymuno ei farchnata yn gynnyrch rheoleiddiedig nad yw eisoes wedi’i awdurdodi ym Mhrydain Fawr, dylech sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth berthnasol fel yr amlinellir yn y rheoliadau a’r canllawiau ar gyfer y drefn berthnasol cyn i chi gyflwyno’ch cais. Mae angen yr wybodaeth hon fel y gall ein haseswyr risg bennu a yw’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel, ac er mwyn helpu i benderfynu a fydd y cais yn cael ei awdurdodi. Mae ceisiadau anghyflawn yn debygol o gael eu gohirio a/neu eu hystyried yn annilys neu eu gwrthod.

I gael mwy o fanylion am ba wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu, darllenwch y canllawiau sy’n berthnasol i’ch math o gynnyrch.

I gael trosolwg o’r broses awdurdodi, cyfeiriwch ar ein gwybodaeth gefndirol am roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad, ein siart lif ar y broses ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig a siart lif ar y broses dadansoddi risg.

 

Sylwer

Gwneir ceisiadau trwy ein porth ar-lein, lle gallwch uwchlwytho’r holl wybodaeth angenrheidiol. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn cael e-bost gyda chyfeirnod eich achos a dolen ddiogel lle gallwch weld eich cais a hanes eich achos.

Cyngor cyffredinol ar gyflwyno cais

Wrth wneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig yn y DU, bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth weinyddol a thechnegol a gwybodaeth am ddiogelwch.  Bydd yr wybodaeth hon yn ffurfio coflen eich cais.

Mae gofynion a strwythur y goflen yn benodol i’r gwahanol fathau o gynhyrchion. Rhaid i chi ddarllen a dilyn y canllawiau manwl ar gyfer y drefn sy’n berthnasol i’ch cynnyrch (er enghraifft, bwydydd newydd, ychwanegion bwyd) a chyflwyno’r data a’r wybodaeth ofynnol a nodir yn y canllawiau perthnasol. 

Efallai y bydd yn rhaid gwneud ceisiadau o dan fwy nag un drefn ar gyfer rhai cynhyrchion newydd, yn enwedig cynhyrchion a addaswyd yn enetig.  Os gallai hyn fod yn berthnasol i’ch cynnyrch, fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â ni trwy regulatedproducts@food.gov.uk cyn dechrau’r cais.

Mae canllawiau’r ASB ar drefniadau penodol yn cysylltu  rhannau o’r canllawiau technegol a gynhyrchwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) lle maent yn dal i fod yn berthnasol. Er enghraifft, mae’r canllawiau EFSA sy’n manylu ar ofynion coflenni ceisiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, organebau a addaswyd yn enetig, cyflasynnau a deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (plastigau, deunyddiau gweithredol a deallus, plastigau wedi’u hailgylchu) yn dal i fod yn berthnasol a bydd angen eu hystyried.

Nid oes canllawiau penodol gan EFSA ar gyfer ychwanegion mewn ffilm cellwlos atgynyrchiedig, ond gallwch ddefnyddio’r canllawiau EFSA ar gyfer monomerau ac ychwanegion plastig fel canllaw defnyddiol. Mae’r canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i geisiadau a wneir ym Mhrydain Fawr, gan eu bod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth a phrosesau sydd hefyd yn dal i fod yn gymwys i Brydain Fawr. Fel yr eglurir yng nghanllawiau’r ASB ar drefniadau penodol, dylech ddilyn y rhannau o’r canllawiau EFSA sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig (nid y broses o wneud cais).

Beth sydd ei angen ar gyfer gwneud cais

Mae dwy ran i’r cais: 

1. Gwybodaeth weinyddol

Bydd angen i ni wybod:

  • pwy sy’n gwneud cais am yr awdurdodiad
  • pwy sy’n gyfrifol am y cynnyrch neu’r broses
  • gyda phwy y dylem ni gysylltu os bydd gennym unrhyw gwestiynau

Mae hefyd yn ddefnyddiol gwybod statws y cais yn yr UE, os yw wedi’i gyflwyno yno.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu eu manylion diweddaraf i’r ASB ar gyfer gohebiaeth. Gall methu â gwneud hynny olygu bod y cais neu’r ceisiadau’n cael eu hystyried yn annilys.

2. Gwybodaeth dechnegol a diogelwch

Mae angen i’r goflen gynnwys yr holl wybodaeth y gofynnir amdani yn y canllawiau a’r rheoliadau perthnasol ar gyfer y gwahanol fathau o gynhyrchion rheoleiddiedig. Os byddwch yn methu â chyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol, gall eich cais fod yn destun oedi a/neu gall gael ei wrthod neu ei ystyried yn annilys.

Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall mwy am y cynnyrch neu’r broses a sut y bwriedir ei defnyddio. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal asesiad risg trylwyr, lle bo’n briodol, i wirio a ellir defnyddio’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel er mwyn helpu i benderfynu a fydd y cais yn cael ei awdurdodi. Mae’r porth gwneud cais yn cynnwys rhestr wirio i’ch helpu i sicrhau bod eich coflen yn gyflawn pan fyddwch yn ei gyflwyno.

Dylech restru’n glir yr holl ddata a ddarparwyd ac egluro sut mae’n cefnogi’r cais. Rhaid i chi gyflwyno’r holl ddata perthnasol, p’un a yw’r canlyniadau’n cefnogi’r cynnyrch ai peidio, i ddangos eich bod yn deall y risgiau ac wedi canfod sut y gellir eu rheoli.

Dylech hefyd ddweud wrthym pa wybodaeth yn y cais yr hoffech iddi gael ei chadw’n gyfrinachol, yn unol â’r meini prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau’r ASB.

Ni ddylech gyflwyno’ch cais oni bai bod gennych yr holl wybodaeth ategol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cais a’ch bod wedi uwchlwytho’r wybodaeth ar y porth ar-lein.

Sylwch mai Saesneg yw ein hiaith waith. Rydym yn derbyn coflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Rhaid cyfieithu unrhyw ddogfennau, gan gynnwys dogfennau ategol fel atodiadau neu gyfeiriadau sydd mewn ieithoedd eraill, a darparu’r cyfieithiad hwnnw wrth gyflwyno’r cais.

Dylid darparu copïau o bob cyfeiriad ynghyd â thabl cyfeiriadau, a ddylai nodi’n glir pa ffeiliau neu rannau o ffeiliau sy’n cael eu hystyried yn gyfrinachol ac y gwnaed cais diogelu data ar eu cyfer.

Enwau ffeiliau

Dylid enwi coflenni yn y ffeil mewn modd rhesymegol. Mae mwy o fanylion yn y rhestrau gwirio yn y porth. Bydd hyn yn lleihau’r siawns o golli data allweddol. Mae’n cymryd mwy o amser i asesu coflenni nad ydynt yn nodi swyddogaeth pob ffeil yn glir.  Mae hefyd yn bwysig croesgyfeirio ffeiliau o fewn y goflen lle bo’n berthnasol a nodi gwybodaeth ategol yn glir.

Gwnewch yn siŵr nad yw enwau ffeiliau yn cynnwys y nodau arbennig canlynol:
 

  • “ dyfynnod
  • * seren
  • : colon
  • < arwydd llai na
  • > arwydd mwy na
  • ? marc cwestiwn
  • / blaen slaes
  • \ ôl-slaes
  • | bar fertigol
  • # hashnod
  • % canran

Mathau o ffeiliau

Ni chewch uwchlwytho mwy na 100 o ffeiliau ar y tro. Gyda’i gilydd, ni ddylent fod yn fwy na 200MB. 
Does dim rhaid uwchlwytho’r ffeiliau ar unwaith – gallwch wneud fesul tipyn.

Dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch eu huwchlwytho i’n gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddieig: 

  • .ab1
  • .asc
  • .bam
  • .csv
  • .doc
  • .docx
  • .faa
  • .fast5
  • .fasta
  • .fastq
  • .ffn
  • .fna,
  • .frn
  • .gff
  • .gff3
  • .hdf5
  • .odf
  • .pdf
  • .ppt
  • .pptx
  • .r
  • .sam
  • .sas
  • .tsv
  • .txt
  • .xls
  • .xlsx
  • .aln
  • .bai
  • .fa
  • .fo
  • .fq
  • .gbk

Ni fydd unrhyw fath arall o ffeil, gan gynnwys ffeiliau zip (na chaniateir am resymau diogelwch) na delweddau, yn cael eu cadw. Dim ond ffeiliau sengl o’r un ffolder ffynhonnell y gellir eu lanlwytho ar y tro.

Os oes gennych wybodaeth nad yw ar gael yn unrhyw un o’r fformatau neu meintiau hyn, cysylltwch â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk i drafod opsiynau.

Cyngor ar ddarparu cais dilys

Ni fydd y pwyntiau isod yn berthnasol i bob trefn, ond maent yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol:

  • darperir canllawiau manwl yn nogfennau canllaw’r ASB sy’n cysylltu, lle bo’n briodol, canllawiau perthnasol EFSA. Dylech lynu’n agos at ganllawiau perthnasol EFSA, gan eu bod yn dal i fod yn berthnasol i geisiadau Prydain Fawr
  • dylech esbonio’n glir ddiben y cynnyrch, y defnydd a fwriedir a’i gyfansoddiad. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o gyfansoddiad y cynnyrch a nodi sut rydych yn gwybod am ddilysrwydd y cynnyrch. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhoi’r enw cemegol neu’r enw gwyddonol (Lladin), gan ddibynnu ar y drefn
  • dylid cynnwys yr holl wybodaeth dechnegol angenrheidiol pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, fel yr amlinellir yn y rheoliadau a’r canllawiau ar gyfer y gwahanol fathau o gynhyrchion rheoleiddiedig. Er enghraifft, mae angen dogfennau dilysu a/neu achredu priodol ar gyfer dulliau dadansoddi ar gyfer pob trefn wahanol, a dylid eu cynnwys wrth gyflwyno ceisiadau
  • dylai’r goflen dechnegol esbonio sut mae’r cynnyrch yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y rheoliad a’r canllawiau perthnasol. Dylech restru’n glir yr holl ddata a ddarparwyd ac egluro sut mae’n cefnogi’r farn bod y cynnyrch yn ddiogel. Rhaid i chi gyflwyno’r holl ddata perthnasol, p’un a yw’r canlyniadau’n cefnogi’r cynnyrch ai peidio
  • ar gyfer y rhan fwyaf o lwybrau gwneud cais, dylai’r coflenni gynnwys eich asesiad o risg y cynnyrch, gyda digon o wybodaeth i ddilysu’r asesiad hwn. Ffocws yr asesiad yw eich bod yn dangos eich dealltwriaeth o’r risgiau, gan nodi sut y gellir eu rheoli
  • lle bo’n briodol, dylid cynnwys gwybodaeth am berthnasedd a chryfder y data, yn ogystal â dulliau prawf a dehongliad o'r data. Os yw’n berthnasol, dylid ystyried amrywioldeb y cynnyrch wrth ddewis pa sypiau i’w profi
  • ar gyfer coflenni lle mae angen llenwi adran gynhyrchu, mae Cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) yn ddefnyddiol. Dylai’r wybodaeth yn yr adran hon nodi a oes risgiau newydd wedi’u cyflwyno yn ystod y broses gynhyrchu ac i ba raddau y caiff peryglon cyfredol y deunydd cychwynnol eu rheoli. Os bydd profion dadansoddi’r cynnyrch yn cefnogi’r asesiad o ba mor effeithiol yw cam penodol, dylid nodi hyn yn glir
  • rhaid darparu pob cyfeiriad

Disgwyliwn i geisiadau ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol pan gânt eu cyflwyno. Os oes gan geisiadau wybodaeth anghyflawn neu wybodaeth ar goll, yna bydd cyfle cyfyngedig i lenwi bylchau, o fewn rheswm ac yn ôl disgresiwn yr ASB. Fodd bynnag, bydd y ceisiadau hyn yn destun oedi os bydd angen i ni ofyn am wybodaeth ychwanegol ac, os na chaiff yr wybodaeth angenrheidiol ei darparu o fewn amserlen resymol, yna maent yn debygol o gael eu hystyried yn annilys.

Os a phryd yr ystyrir bod eich cais yn ddilys a’i fod yn symud i’r cam asesu risg, dylech ddarparu ymatebion cyflawn a phrydlon i unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth erbyn y terfyn amser a osodwyd. Os bydd angen mwy o amser, bydd angen i chi wneud cais wedi’i resymu’n glir gan egluro pam mae angen yr amser ychwanegol hwn. Os bydd eich ymateb yn hwyr neu'n anghyflawn, mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni asesu eich cais ar sail yr wybodaeth sydd ar gael.

Sylwch, mae awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig yn caniatáu i’r cynnyrch gael ei ddefnyddio a’i roi ar y farchnad. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar eich cynnyrch, efallai y bydd angen i chi hefyd gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall (er enghraifft, y gofyniad i gofrestru busnes bwyd a deddfwriaeth yn ymwneud â hylendid bwyd a halogion). Amlinellir gofynion deddfwriaethol eraill yn y canllawiau i fusnesau bwyd.

Gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig