Canllawiau ar awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig
Gofynion ar gyfer organebau a addaswyd yn enetig fel awdurdodiadau bwyd a bwyd anifeiliaid a'r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.
Mae organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) yn blanhigion ac yn anifeiliaid sydd ag elfennau genetig sydd wedi'u haddasu gan ddefnyddio technegau biotechnoleg. Mae addasu genetig yn galluogi gwyddonwyr i gynhyrchu planhigion, anifeiliaid a micro-organebau â nodweddion penodol.
Mae bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig yn cynnwys GMOs neu'n cael eu cynhyrchu o GMOs.
Gofynion deddfwriaethol
Cyn y gellir rhoi cynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid GMO ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid ei awdurdodi o dan Reoliad 1829/2003 yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir (retained) ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig.
Mae'r gofyniad am awdurdodiad yn berthnasol i gynhyrchion a wneir o GMOs, neu sy’n eu cynnwys, nad ydynt yn 'fyw' (er enghraifft olew ffa soia, startsh indrawn (maize)) i'w marchnata i'w bwyta gan bobl ac anifeiliaid.
Mae awdurdodiadau yn ddilys am uchafswm o ddeng mlynedd. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd angen adnewyddu’r cais ar gyfer marchnata parhaus.
Cofrestr o GMOs wedi'u hawdurdodi
Mae'r gofrestr yn darparu gwybodaeth am y cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid GM a awdurdodwyd i'w defnyddio ym Mhrydain Fawr.
Cofrestr o GMOs wedi'u hawdurdodi (Saesneg yn unig)
Awdurdodiadau newydd
Fel rhan o’r broses ymgeisio, rhaid i'r labordy cyfeirio werthuso’r dull dadansoddol a ddarperir gan yr ymgeisydd. Mae Rheoliad 1829/2003 yr UE a ddargedwir (retained UE law) yn sefydlu'r labordy cyfeirio ac yn diffinio ei dasgau.
Proses ymgeisio
I wneud cais am awdurdodiad GMO ym Mhrydain Fawr:
- Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio i lenwi'r ffurflen gais.
- Yna byddwch yn cael dolen ddiogel i lanlwytho'r cais a’r dogfennau cysylltiedig i gefnogi'ch cais, gan ystyried y gofynion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ac fel sy'n briodol yn dilyn canllawiau Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).
- Ar y cam hwn, dylech chi hefyd lanlwytho'r ddogfennaeth ar y dull dadansoddol ac unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer y labordy cyfeirio i werthuso'r dull. Os yw'n berthnasol, cyfeiriwch at unrhyw werthusiad a allai fod eisoes wedi'i gynnal gan labordy Cyfeirio'r UE ar y GMO dan sylw.
- Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn ni’n cysylltu â chi i gytuno ar y broses ar gyfer talu unrhyw ffioedd am yr asesiad dadansoddol a’i hamlinellu, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Byddwn ni hefyd yn darparu manylion ar sut i anfon y tri sampl (a safonau) lle bo hynny'n berthnasol i'r labordy Cyfeirio.
Gofynion y cais
Dylai eich cais gynnwys wyth rhan:
- Rhan 1 – Gwybodaeth gyffredinol
- Rhan 2 – Gwybodaeth wyddonol
- Rhan 3 – Protocol Cartagena
- Rhan 4 – Cynnig ar labelu
- Rhan 5 – Dulliau o ganfod, samplu ac adnabod a chyfeirio
- Rhan 6 – Darparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer planhigion GM a/neu fwyd/bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys planhigion GM
- Rhan 7 – Crynodeb o'r ceisiadau
- Rhan 8 – Dogfennau gweinyddol
Canllawiau manwl ar wneud cais
Mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn nodi rhagor o wybodaeth am y gofynion ymgeisio:
- Rheoliad 641/2004 – awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig newydd (GMO)
- Rheoliad 503/2013 – awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid GMO
Mae EFSA wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni (dossiers) cais yn flaenorol. Mae'r canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i raddau helaeth gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig, ac nid y broses ymgeisio:
Ceisiadau adnewyddu
Rhaid cyflwyno ceisiadau adnewyddu o leiaf blwyddyn cyn eu dyddiad dod i ben gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio.
Bydd eich GMO a awdurdodwyd yn flaenorol yn parhau i gael ei ganiatáu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr os gwnaethoch gyflwyno cais adnewyddu i'r UE cyn mis Ionawr 2021 ac o leiaf blwyddyn cyn ei ddyddiad dod i ben. Bydd dal angen i chi gyflwyno'ch coflen i ni ar ôl mis Ionawr 2021.
Ceisiadau parhaus
Os gwnaethoch gyflwyno cais am awdurdodiad newydd neu i adnewyddu awdurdodiad presennol i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Dylai eich cais gynnwys coflen ac unrhyw adroddiadau dilysu. Wrth lenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.
Awdurdodiadau presennol
Os yw eich GMO wedi'i awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.
Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd?
Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.
Bydd ansawdd y goflen, a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl.
Cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk
Gwneud cais am awdurdodiad
Hanes diwygio
Published: 13 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ebrill 2022