Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau

Gofynion o ran awdurdodi cyflasynnau bwyd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.

Mae'r dudalen hon yn rhan o’r Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig

Defnyddir cyflasynnau (flavourings) er mwyn:

  • ychwanegu blas neu arogl newydd i fwyd
  • gwella blas neu arogl presennol bwyd

Mae cyflasyn masnachol yn aml yn gymysgedd cymhleth o wahanol sylweddau a ddewisir i ddarparu’r blas a ddymunir.

Deddfwriaeth cyflasynnau

Rhaid i bob cyflasyn a phob cyfansoddyn o gyfuniad cyflasyn fod yn ddiogel o dan gyfraith bwyd gyffredinol. Yn ogystal, rhaid i rai cyflasynnau gael eu gwerthuso'n ddiogel cyn eu hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd ym Mhrydain Fawr. Mae deddfwriaeth a gymathwyd (assimilated) ar y weithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn.

Mae angen awdurdodi’r mathau hyn o gyflasynnau: 

  • sylweddau cyflasynnau
  • paratoadau cyflasynnau a gafwyd o ddeunyddiau heblaw bwyd
  • cyflasynnau proses thermol os yw cynhwysion yn dod o ddeunyddiau ffynhonnell heblaw bwyd neu os na chyflawnir yr amodau neu’r terfynau cynhyrchu a osodir yn Atodiad V o Reoliad a gymathwyd (CE) 1334/2008
  • rhagsylweddyn (precursor) blas a gafwyd o ddeunydd ffynhonnell heblaw bwyd
  • cyflasynnau eraill
  • deunyddiau ffynhonnell heblaw bwyd

Cofrestr o gyflasynnau 

Mae’r gofrestr o gyflasynnau yn nodi rhestr o gyflasynnau a ganiateir i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr. Nid yw’r gofrestr yn disodli Rheoliad a gymathwyd (CE) 1334/2008 na’r ddeddfwriaeth a gymathwyd ar y weithdrefn awdurdodi gyffredin, sef y sail gyfreithiol ar gyfer rhoi cyflasynnau ar y farchnad a’u defnyddio.

Gogledd Iwerddon

Nodir cyfraith yr UE sy’n berthnasol i Ogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio yn Atodiad II i Brotocol Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n ceisio awdurdodiad newydd i roi cyflasyn ar farchnad Gogledd Iwerddon, y bydd yn rhaid i chi barhau i ddilyn rheolau’r UE a’i weithdrefnau awdurdodi.

Awdurdodiad newydd

I wneud cais i awdurdodi cyflasyn ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig. Gofynnir i chi ddefnyddio’r gwasanaeth i lanlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd yn llunio’ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.
Dylai eich cais i awdurdodi cyflasyn gynnwys:

  • llythyr cysylltiedig yn rhoi amlinelliad o’r cais (yn nodi’r sylwedd, ei ddefnydd arfaethedig, a’r categorïau bwyd perthnasol y mae’r cais yn ymwneud â nhw)
  • coflen dechnegol
  • crynodeb o’r goflen
  • crynodeb cyhoeddus o’r goflen 
  • gwybodaeth gyswllt yr ymgeisydd/ymgeiswyr ac arbenigwyr technegol

Os ydych chi am i rai rhannau o’r goflen gael eu trin yn gyfrinachol, mae angen i’ch cais gynnwys:

  • rhestr o’r rhannau o’r goflen yr hoffech iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • cyfiawnhad dilysadwy ar gyfer pob rhan y gofynnir iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • coflenni cyflawn heb rannau cyfrinachol

Canllawiau manwl

Mae canllawiau hefyd wedi’u datblygu’n flaenorol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ac maent yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau’r UE.

Dylech ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio.

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am gyflasyn i’r Undeb Ewropeaid (UE) cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw’r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi’i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno’ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Wrth lenwi’r cais, gofynnir i chi ddarparu’ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodi cyflasynnau troednodiadau

Os oedd eich cyflasyn wedi’i gynnwys yn Atodiad I i Reoliad 1334/2008 gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw’n parhau’n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Nid yw EFSA wedi cwblhau gwerthuso sylweddau cyflasynnau sydd wedi’u marcio â throednodyn yn Atodiad I Rhan A o Reoliad 1334/2008. Bydd y sylweddau hyn yn parhau i gael eu caniatáu ym Mhrydain Fawr nes bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gorffen gwerthuso. Byddwn ni maes o law yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gorffen gwerthuso’r sylweddau hyn a gofyn am gyflwyno gwybodaeth i ganiatáu i’r gwerthusiadau gael eu cwblhau. Yn y cyfamser, efallai y byddwn ni’n gofyn am wybodaeth am sylweddau cyflasyn unigol fesul achos.

Fel cynhyrchydd neu ddefnyddiwr cyflasyn, mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar asesiad diogelwch cyflasyn. Gallwch chi gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth newydd drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Awdurdodiadau presennol

Os cafodd eich cyflasyn ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021, a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw’n parhau’n ddilys ym Mhrydain Fawr ac nid oes angen i chi wneud cais am awdurdodiad.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer camau allweddol yn y broses ar gyfer asesu risg ac ystyriaethau rheoli risg. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau’n cymryd o leiaf blwyddyn. Nid yw’r llinellau amser yn berthnasol ar gyfer sylweddau troednodyn.

Bydd ansawdd y goflen a’r wybodaeth a ddarperir yn effeithio’n sylweddol ar yr amser fydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosib i sicrhau y gallwn ni brosesu’ch cais mor effeithlon â phosib. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gwnewch gais i awdurdodi cyflasyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.