Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTs)

Gofynion gwneud cais am PARNUTs.

Mae’r dudalen hon yn rhan o’r canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Mae PARNUTs yn fwydydd at ddibenion maethol neilltuol, a elwir hefyd yn fwyd anifeiliaid deietegol. Mae'n fwyd anifeiliaid sydd â dibenion maethol neilltuol sy’n cael ei roi i anifeiliaid am resymau iechyd. Mae PARNUTs yn diwallu anghenion maethol neilltuol anifeiliaid y mae eu swyddogaethau corfforol â nam dros dro neu nam anghildroadwy (irreversible).

Gall PARNUTs fodloni pwrpas maethol neilltuol trwy:

  • gyfansoddiad penodol
  • dull cynhyrchu penodol

Dylai bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol ond gael ei farchnata ym Mhyrdain Fawr os:

  • yw'r defnydd a fwriadwyd wedi'i gynnwys yn y rhestr o ddefnyddiau a fwriadwyd
  • yw'n bodloni'r nodweddion maethol hanfodol at y diben maethol neilltuol a gynhwysir ar y rhestr honno

Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/354 wedi sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriadwyd at ddibenion maethol neilltuol.

Gellir cychwyn y weithdrefn ar gyfer diweddaru'r rhestr o ddefnyddiau arfaethedig trwy gyflwyno cais.

Ceisiadau newydd

Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig i wneud cais i ddiweddaru'r rhestr ym Mhrydain Fawr trwy:

  • ychwanegu defnydd arfaethedig PARNUT
  • ychwanegu neu newid yr amodau sy'n gysylltiedig â defnydd penodol arfaethedig PARNUT

Gofynnir i chi ddefnyddio'r gwasanaeth i lanlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd yn llunio’ch coflen (dossier).  Nid oes unrhyw ffi am y cais.

Nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar gael ar gyfer newidiadau i gategorïau PARNUTs. Dylai eich ffurflen gais nodi'r cais yn glir a chynnwys ffeil ategol sy'n dangos bod cyfansoddiad penodol y bwyd anifeiliaid:

  • yn cyflawni'r pwrpas maethol neilltuol a fwriadwyd
  • nad yw’n cael unrhyw effeithiau andwyol ar iechyd anifeiliaid, iechyd pobl, yr amgylchedd na lles anifeiliaid

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am gategori PARNUTs newydd neu newid i gategori presennol i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses o ystyried y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni, gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.  

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion gwneud cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais 

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein nawr i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.
 

Gogledd Iwerddon

Nodir cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n berthnasol i Ogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio yn Atodiad II i Brotocol Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n ceisio diweddaru’r rhestr o ddefnyddiau arfaethedig yng Ngogledd Iwerddon, bydd yn rhaid i chi barhau i ddilyn rheolau’r UE.