Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau i fusnesau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (cell-cultivated), a’r broses awdurdodi.

Beth yw cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd?

Mae cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn cwmpasu amrywiaeth o fwydydd y gellir eu gwneud trwy ddefnyddio proses gynhyrchu heb ladd neu heb ddilyn arferion ffermio ac amaethyddol traddodiadol. Mae celloedd sydd wedi’u harunigo o anifeiliaid neu blanhigion – gan gynnwys celloedd o gig, bwyd môr, braster ac offal, neu wyau – yn cael eu tyfu mewn amgylchedd rheoledig, ac yna’n cael eu cynaeafu i wneud cynnyrch bwyd terfynol. 

ASB yn Esbonio

Ydy cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd yr un peth â chig a dyfir mewn labordy?

Weithiau cyfeirir at gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd anifeiliaid fel cig a dyfir mewn labordy (mae enwau eraill yn cynnwys cig wedi’i feithrin, cig wedi’i drin, cig wedi’i feithrin o gelloedd, neu gig sy’n seiliedig ar gelloedd). Yn ôl y diffiniad o gig a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn Atodiad 1 i Reoliad a gymathwyd (UE) 853/2004, fodd bynnag, ni ddiffinnir cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd fel cig. Yn hytrach, fe’u hystyrir yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. 

Statws cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ar farchnad Prydain Fawr

Rhaid awdurdodi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi bod yn destun asesiad diogelwch trwyadl ac annibynnol. Oherwydd yr amrywiaeth o gynhyrchion a thechnegau cynhyrchu cymhleth dan sylw, gall rheoliadau gwahanol fod yn gymwys i’r broses awdurdodi. Bydd angen iddynt hefyd gydymffurfio â’r holl reoliadau sy’n gymwys i bob bwyd ar y farchnad, fel rheolau hylendid neu gyfraith bwyd gyffredinol. 

Gwneud cais am awdurdodiad

Er mwyn rhoi eich cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd ar farchnad Prydain Fawr, mae’n rhaid i chi wneud cais am awdurdodiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dewis y llwybr rheoleiddio cywir ar gyfer asesu eich cynnyrch. 

O ystyried y dulliau a ddefnyddir i greu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu hasesu o dan y rheoliadau bwydydd newydd. Mae rheoliadau bwydydd newydd yn gymwys i fwydydd nad oes ganddynt hanes o gael eu bwyta yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997. 
 
Mewn rhai achosion, gellir asesu ceisiadau o dan y rheoliadau Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMO). Os yw’r broses wedi cynnwys addasiad genetig, cysylltwch â ni i drafod eich cais. 

Gwneud cais am awdurdodiad o dan y rheoliadau bwydydd newydd 

Mae angen gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ac sy’n cael ei ystyried yn fwydydd newydd o dan reoliadau bwyd newydd (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283). 

Darllenwch ein canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd i gael gwybod sut i wneud cais i awdurdodi eich cynnyrch fel bwyd newydd.

Gallwch weld pa gynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr yn ein cofrestr o awdurdodiadau bwydydd newydd.

Gwneud cais am awdurdodiad o dan y rheoliadau addasu genetig 

Mae rheoliadau GMO yn gymwys yn benodol i addasu deunydd genetig organeb (DNA) mewn ffordd nad yw’n digwydd yn naturiol trwy baru a/neu ailgyfuno naturiol. Mae’r rheoliadau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta gan bobl.

Darllenwch ein canllawiau ar awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig i gael gwybod sut i wneud cais i awdurdodi eich cynnyrch fel bwyd GM.

Gallwch weld y rhestr o GMOs sydd wedi’u hawdurdodi i’w mewnforio a’u defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr yn ein cofrestr o GMOs awdurdodedig

Diogelu data

Gallwch ofyn nad yw unrhyw ddata cyfrinachol sy’n cefnogi eich cais yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau eraill heb eich caniatâd, a hynny am bum mlynedd o ddyddiad yr awdurdodiad.

Diogelwch cynhyrchion

Mae pob cynnyrch rheoleiddiedig, ni waeth pa reoliadau maent yn dod oddi tanynt, yn destun asesiadau diogelwch trwyadl. 

Rhaid i bob busnes bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd. Er bod rhai eithriadau, mae hyn yn gymwys i bob rhan o’r cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid.

Er mwyn gallu rhoi bwyd diogel ar y farchnad, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • sicrhau olrheiniadwyedd bwyd
  • cyflwyno bwyd mewn modd priodol
  • darparu gwybodaeth addas am fwyd
  • galw neu dynnu bwyd anniogel yn ôl 
  • sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio, a’u hallforio o’r DU, yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. 

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.

Prif nod Rheoliad a gymathwyd (UE) 178/2002, y cyfeirir ato hefyd fel ‘cyfraith bwyd gyffredinol’ yw diogelu iechyd pobl a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Labelu

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol am gynhyrchion bwyd a roddir ar y farchnad, a hynny er mwyn cydymffurfio â’r rheolau labelu. Mae hyn yn cynnwys cynhwysion cynhyrchion, gan gynnwys alergenau, yn ogystal â gwybodaeth am ba mor hir y byddant yn para (dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’). Gallwch ddod o hyd i ofynion labelu penodol yn ein canllawiau ar becynnu a labelu

O dan Erthygl 9 o’r rheoliadau bwydydd newydd, rydym yn cadw’r hawl i fynnu gofynion labelu penodol ychwanegol os ydym o’r farn ei fod er budd defnyddwyr.

Os caiff cynnyrch ei asesu o dan y drefn GMO, caiff ei labelu fel un ‘wedi’i addasu’n enetig’ (genetically modified). 

Mae Rheoliad yr UE a gymathwyd (UE) 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn nodi'r holl reolau o ran labelu bwyd yn gyffredinol a labelu maeth, gan ffurfio un ddarn o ddeddfwriaeth.

Ymchwil ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Rydym yn gosod safonau uchel o ran diogelwch bwyd. Mae ein hymchwil yn dangos ein hymrwymiad i nodi’r ffordd orau o reoleiddio dulliau cynhyrchu bwyd newydd ac arloesol.

Ym mis Mawrth 2023, comisiynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban adroddiad i nodi’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Pwrpas yr ymchwil oedd llywio ein proses asesu risg ar gyfer awdurdodi’r cynhyrchion hyn.

Mae’r adroddiad hwn yn gyfuniad o ymchwil wrth y ddesg, yn seiliedig ar adolygiad trylwyr o’r llenyddiaeth academaidd ac anacademaidd ac o’r lleoliad cychwyn proteinau amgen. Mae’n cyflwyno dadansoddiad o’r farchnad sy’n dod i’r amlwg ar gyfer proteinau amgen, y goblygiadau posib a’r ymatebion polisi posib efallai y bydd angen i’r ASB eu hystyried.

Adroddiad gan FAO a WHO

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) adroddiad a oedd yn casglu ac yn gwerthuso’r holl dystiolaeth hyd yn hyn ar ddiogelwch bwyd mewn perthynas â chynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.

Treialon blasu bwydydd newydd

Os mai bwriad y prawf blasu yw datblygu’r bwyd yn unig, ac nad yw’n cynnwys unrhyw gyhoeddusrwydd na marchnata arall, fe’i caniateir fel rhan o’r ymchwil i ddatblygu’r bwyd newydd. Os mai cyhoeddusrwydd yw’r nod, ystyrir hyn yn farchnata.

Yn 2002, cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) ganllawiau ar dreialon blasu. Mae’r canllawiau’n dal i fod yn gywir, ond mae’r manylion cyswllt ar y dudalen yn hen erbyn hyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, cysylltwch â novelfoods@food.gov.uk.

Cymorth

Canllaw yn unig yw’r cyngor hwn ac nid yw’n gynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses o wneud cais, cysylltwch â’r Tîm Cynhyrchion Rheoleiddiedig yn: regulatedproducts@food.gov.uk

Ymwadiad

Mae’r dudalen hon er gwybodaeth yn unig.  Nid yw’n sicrhau y bydd eich cynnyrch yn cael ei asesu o dan lwybr rheoleiddio penodol. Rydym yn cadw’r hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Mae croeso cysylltu â ni am gyngor pellach.