Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd

Gofynion o ran awdurdodi bwydydd newydd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais am fwydydd newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Mae'r dudalen hon yn rhan o'r canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Bwydydd newydd a’u statws

Bwydydd newydd yw unrhyw fwyd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997. Mae hyn yn golygu nad oes gan y bwydydd hyn ‘hanes o gael eu bwyta’. Mae enghreifftiau o fwydydd newydd yn cynnwys:

  • bwydydd newydd, er enghraifft, ffytosterolau a ffytostanolau a ddefnyddir mewn sbrediau lleihau colesterol
  • bwydydd traddodiadol sy’n cael eu bwyta mewn mannau eraill yn y byd, er enghraifft, hadau chia, baobab
  • bwydydd a gynhyrchir drwy brosesau newydd, er enghraifft, bara wedi’i drin â golau uwch-fioled i gynyddu lefelau fitamin D


Mae angen awdurdodi bwydydd newydd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Rhaid gosod bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr yn unol â rheoliad 2015/2283 yr UE a gymathwyd. Mae dau lwybr awdurdodi:

  • hysbysiad bwyd traddodiadol 
  • cais llawn

Mae Cyfraith Bwyd yr UE yn dal i fod yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon (Atodiad II). Mae statws cynnyrch newydd yng Ngogledd Iwerddon yn seiliedig ar benderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd. Rhaid i fwydydd newydd fynd trwy brosesau awdurdodi’r UE cyn iddynt gael eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon. Dim ond bwydydd newydd a awdurdodwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd y gellir eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon. Yn unol â’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

Cofrestr o fwydydd newydd

Mae’r gofrestr o fwydydd newydd yn nodi rhestr o fwydydd newydd y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr. Nid yw’r gofrestr yn disodli rheoliadau’r UE a gymathwyd 2015/2283, sef y sylfaen gyfreithiol ar gyfer rhoi bwydydd newydd ar y farchnad a’u defnyddio. Oni bai y caiff mesurau diogelu data eu gweithredu, gallwch werthu bwydydd newydd awdurdodedig yn unol â’r amodau a nodir yn y gofrestr. Mae’r gofrestr yn dangos lle mae mesurau diogelu data ar waith.

Canllawiau pellach ar fwydydd newydd penodol

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi bwyd newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio. Gofynnir i chi ddefnyddio'r gwasanaeth i lanlwytho'r holl ddogfennau i gefnogi'ch cais,  a fydd yn ffurfio'ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.

Hysbysiad bwyd traddodiadol

Mae hwn yn llwybr symlach i awdurdodi cynhyrchion sydd wedi'u defnyddio am 25 mlynedd yn barhaus gan nifer sylweddol o bobl mewn gwlad y tu allan i'r DU neu’r UE. 

Mae'r llwybr hwn wedi lleihau gofynion data sy'n adlewyrchu eu defnydd helaeth mewn rhannau eraill o'r byd. Mae yna gyfnod o bedwar mis i gynnal yr adolygiad. Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau mae'r cynnyrch yn cael ei awdurdodi a'i roi ar y rhestr awdurdodedig.

Canllawiau manwl ar gyfer hysbysiadau bwyd traddodiadol

Mae cyfraith yr UE a gymathwyd, Rheoliad (UE) 2017/2468, a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA yn nodi'r hyn sydd ei angen yn y cais. Mae canllawiau EFSA yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

•    Canllawiau EFSA ar baratoi a chyflwyno cais i awdurdodi bwyd traddodiadol o drydydd gwledydd

 

Ceisiadau llawn

Ar gyfer bwydydd newydd heblaw'r rhai sydd o dan y llwybr hysbysiad bwyd traddodiadol, mae angen i chi gyflwyno set lawn o wybodaeth.

Rhan 1

Dylai gynnwys y data gweinyddol, fel gwybodaeth yr ymgeisydd.

Rhan 2

Dylai gynnwys gwybodaeth sy'n benodol i'r bwyd newydd fel:

  • hunaniaeth y bwyd newydd
  • proses gynhyrchu
  • data cyfansoddiadol
  • manylebau
  • hanes defnyddio'r bwyd newydd a/neu ei ffynhonnell
  • lefelau defnydd a defnydd arfaethedig a'r cymeriant a ragwelir
  • amsugno, dosbarthu, metaboledd ac ysgarthiad
  • gwybodaeth am faeth
  • gwybodaeth am wenwyndra ac alergenau

Dylai hefyd gynnwys rhestr o'r holl gyfeiriadau.

Rhan 3

Dylai hyn gynnwys:

  • geirfa neu fyrfoddau'r termau a ddyfynnir trwy'r goflen
  • y tystysgrifau (ar achrediadau labordai, tystysgrifau dadansoddiadau)
  • copïau/ailargraffiadau llawn o'r holl ddata gwyddonol perthnasol (wedi'u cyhoeddi a heb eu cyhoeddi)
  • adroddiadau astudio llawn
  • barn wyddonol cyrff rheoleiddio cenedlaethol/rhyngwladol

Canllawiau manwl ar gyfer ceisiadau llawn

Nodir canllawiau manwl a gofynion gwneud cais yn Rheoliad 2017/4269 (CE) cyfraith yr UE a gymathwyd a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA. Mae’r canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am fwyd newydd i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Wrth gyflwyno'r cais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodiadau presennol

Os awdurdodwyd eich bwyd newydd gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol ar waith, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr ac nid oes angen i chi wneud cais am awdurdodiad newydd..

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd?

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Ar gyfer cais am fwyd newydd a gyflwynir o dan Erthygl 10, caniateir un mis ar gyfer y broses ddilysu, yna hyd at naw mis (ar sail ‘stopio’r cloc’ os oes angen gwybodaeth bellach) ar gyfer yr elfen asesu risg, gyda hyd at saith mis arall ar gyfer unrhyw ystyriaethau rheoli risg a phenderfyniad awdurdodi dilynol. Mae'r rhain yn gwneud hyd at gyfanswm o ddau fis ar bymtheg ar gyfer y llinell amser ddeddfwriaethol gyffredinol ar gyfer awdurdodi, gan nodi y gellir ymestyn hyn os caiff y cloc ei atal a'i ail-gychwyn.

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Gwneud cais am awdurdodiad

Gwasanaeth ar gyfer gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Proses ymgynghori (Erthygl 4)

Mae proses ymgynghori (a elwir hefyd yn gais Erthygl 4) ar gael:

  • os ydych chi'n ansicr o statws eich cynnyrch
  • os oes gennych chi dystiolaeth bod ganddo hanes o gael ei fwyta yn y DU neu’r UE cyn mis Mai 1997

Mae Rheoliad 2018/456 yr UE a gymathwyd yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom i benderfynu a yw'r cynnyrch yn newydd.

Os mai casgliad y broses yw bod eich cynnyrch yn newydd, yna bydd angen i chi wneud cais am awdurdodiad er mwyn marchnata'r cynnyrch yn gyfreithiol ym Mhrydain Fawr. 

I gyflwyno'ch cais Erthygl 4 a'ch tystiolaeth gefnogol, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Yn yr adran 'Math o gynnyrch' dewiswch 'Arall'.

Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ymgynghoriadau Erthgyl 4 pan wneir penderfyniad.

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk