Pryfed bwytadwy
Canllawiau i fusnesau ar awdurdodi pryfed bwytadwy fel bwydydd newydd.
O 1 Ionawr 2024 ymlaen, ni chaiff cynhyrchion bwyd sy’n cynnwys pryfed bwytadwy aros ar y farchnad ym Mhrydain Fawr oni bai bod cais wedi’i gyflwyno i ni, erbyn 31 Rhagfyr 2023, er mwyn awdurdodi’r rhywogaeth honno o bryfed bwytadwy fel bwyd newydd.
Cyflwynwyd ceisiadau bwydydd newydd dilys erbyn y dyddiad dan sylw ar gyfer y pedair rhywogaeth o bryfed bwytadwy canlynol yn unig:
- Cynrhonyn y blawd melyn (Tenebrio molitor)
- Criciedyn y tŷ (Acheta domesticus)
- Criciedyn rhesog (Gryllodes sigillatus)
- Pryf milwrol du (Hermetia illucens)
Os ydych yn gwerthu cynhyrchion sy’n cynnwys unrhyw bryfed bwytadwy eraill, mae’n rhaid i chi eu tynnu oddi ar y farchnad ar unwaith a gwneud cais llawn i’w hawdurdodi fel bwydydd newydd. Unwaith y bydd eich cynhyrchion wedi’u hawdurdodi, byddwch yn gallu eu rhoi ar y farchnad eto ym Mhrydain Fawr.
Pryfed bwytadwy fel bwydydd newydd
Nid oes tystiolaeth o hanes arwyddocaol o fwyta’r rhan fwyaf o bryfed bwytadwy yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Dyna pam mae’r pryfed hyn yn cael eu hystyried yn fwydydd newydd o dan Reoliad (UE) a gymathwyd 2015/2283.
Mae hyn yn golygu bod angen iddynt fod yn destun asesiad diogelwch cyn-marchnata gorfodol a chael eu hawdurdodi cyn y gellir eu rhoi yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.
Gallwch ddysgu mwy am fwydydd newydd yn ein Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd.
Pryfed bwytadwy yn yr UE a’r DU cyn i’r DU ymadael â’r UE
Cafodd pob pryfyn bwytadwy, ac eithrio gwiddonyn caws yr Almaen a gwiddonyn blawd, eu cydnabod fel bwydydd newydd yn rheoliadau bwyd newydd yr UE yn 2015. Cyflwynodd y rheoliadau y gofyniad i’r cynhyrchion gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu rhoi ar farchnad yr UE, a oedd, ar y pryd, yn cynnwys y DU.
Roedd mesurau pontio’n caniatáu i saith rhywogaeth o bryfed bwytadwy aros ar y farchnad yn yr UE a’r DU, yn ddibynnol ar amodau penodol. Dyma’r rhywogaethau:
- Cynrhonyn y blawd bach (larfâu alphitobius diaparinus)
- Criciedyn y tŷ (Acheta domesticus)
- Cynrhonyn y blawd melyn (Tenebrio molitor)
- Criciedyn rhesog neu griciedyn y tŷ trofannol (Gryllodes sigillatus)
- Sioncyn y gwair o rywogaeth Schistocerca americana (bird grasshoppers) neu locust yr anialwch (Schistocerca gregaria)
- Locust ymfudol (Locusta migratoria)
- Pryf milwrol du (Hermetia illucens)
Mesurau pontio ym Mhrydain Fawr
Mesurau pontio ym Mhrydain Fawr cyn 31 Rhagfyr 2023
Daeth Rheoliad 20 o Reoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022 i rym ar 31 Rhagfyr 2022. Roedd y Rheoliad hwn yn diwygio trefniadau pontio gwreiddiol yr UE ac yn caniatáu i’r saith cynnyrch pryfed bwytadwy cymwys a restrir uchod aros ar y farchnad ym Mhrydain Fawr tan 31 Rhagfyr 2023.
Diwedd mesurau pontio penodol i Brydain Fawr ar gyfer pryfed bwytadwy ar ôl 31 Rhagfyr 2023
Daeth y mesurau pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
O 1 Ionawr 2024 ymlaen, yr unig rywogaethau a all aros ar y farchnad ym Mhrydain Fawr heb fod yn destun proses awdurdodi cyn eu rhoi ar y farchnad, hyd nes y gwneir penderfyniad ar y cais i’w hawdurdodi fel bwyd newydd, yw’r rhai sy’n bodloni’r holl feini prawf canlynol:
- maent yn bodloni amodau gwreiddiol yr UE
- maent yn rhan o gais cyfredol o dan y rheoliadau bwydydd newydd a gyflwynwyd i naill ai’r Asiantaeth Safonau Bwyd neu Safonau Bwyd yr Alban erbyn 31 Rhagfyr 2023
Mesurau pontio yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i fwydydd newydd a phrosesau newydd, gan gynnwys pryfed bwytadwy, gael asesiad diogelwch ac awdurdodiad cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad. Dylai busnesau sy’n ceisio rhoi eu cynhyrchion ar farchnad Gogledd Iwerddon ddilyn rheolau’r UE a phroses awdurdodi’r Comisiwn Ewropeaidd. I gael canllawiau ar ddechrau’r broses hon, ewch i wefan EFSA ar geisiadau GMO: rheoliadau a chanllawiau.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am fwydydd newydd sydd wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu yn yr UE a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn Rhestr Bwydydd Newydd Undeb yr UE. Gellir defnyddio Catalog Statws Bwyd Newydd yr UE hefyd i chwilio am statws cynhyrchion penodol.
Bydd nwyddau bwyd-amaeth i’w manwerthu sy’n symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) yn gallu bodloni gofynion iechyd cyhoeddus Prydain Fawr fel y nodir mewn deddfwriaeth, gan gynnwys mewn perthynas â bwydydd newydd. Mae NIRMS yn berthnasol i nwyddau bwyd-amaeth i’w manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a fwriedir i’w gwerthu i ddefnyddwyr terfynol. Felly, bydd bwyd newydd sydd wedi’i awdurdodi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn gallu symud i Ogledd Iwerddon drwy NIRMS. Gellir dod o hyd i restr o’r rhain yn y gofrestr o fwydydd newydd.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae mesurau pontio ar waith i ganiatáu cynhyrchion pryfed bwytadwy a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon yn yr UE cyn ymadael â’r UE i aros ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Hyd nes y bydd penderfyniad terfynol wedi’i bennu gan Gomisiwn yr UE mewn perthynas ag unrhyw gais sy’n bodloni’r gofynion o dan Erthygl 35 (2), Rheoliad (UE) Rhif 2015/2283, gellir parhau i roi’r cynhyrchion hyn ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Gellir dod o hyd i restr o bryfed bwytadwy sydd wedi’u hawdurdodi i’w rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Hanes diwygio
Published: 29 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2025