Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd

Mae’r dudalen hon yn nodi canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd, a elwir hefyd yn ymgynghoriadau Erthygl 4.

Mae’r broses ymgynghori ar fwydydd newydd (a elwir hefyd yn gais ymgynghori Erthygl 4) ar gael i fusnesau sy’n ansicr ynghylch statws bwyd newydd eu cynnyrch/cynhyrchion, ac y mae tystiolaeth helaeth iddynt gael eu bwyta yn y DU neu’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn mis Mai 1997. 

Mae Rheoliad a Ddargedwir (UE) 2018/456 yn nodi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad ynglŷn â statws bwyd newydd y bwyd. Os taw casgliad y broses yw bod y bwyd yn newydd, bydd angen i fusnesau wneud cais am awdurdodiad o dan Reoliad a Ddargedwir (UE) 2015/2283 er mwyn marchnata’r cynnyrch yn gyfreithlon ym Mhrydain Fawr.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Cyfraith Bwyd yr UE mewn perthynas â bwydydd newydd yn dal i fod yn gymwys o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon. O ganlyniad, dylai busnesau sy’n ceisio pennu statws bwyd newydd eu cynhyrchion yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) a Chatalog Bwydydd Newydd yr UE.
​​​​​
 

Noder: oni nodir datganiad i’r gwrthwyneb isod, bydd unrhyw benderfyniadau a wnaed ynghylch statws bwyd newydd bwyd gan yr UE cyn 1 Ionawr 2021 yn dal i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw penderfyniadau’r UE a wnaed ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys ym Mhrydain Fawr. 

Sut i gyflwyno cais ymgyghori Erthygl 4

Gall busnesau sy’n ceisio marchnata eu cynnyrch ym Mhrydain Fawr gyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4 a thystiolaeth ategol gan ddefnyddio’r gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. Yn yr adran ‘Math o gynnyrch’, dewiswch ‘Arall’ a nodi yng nghrynodeb y cynnyrch eich bod yn bwriadu cyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4.

Isod ceir datganiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd/Safonau Bwyd yr Alban ar fwydydd sydd wedi cwblhau’r broses ymgynghori. 

 
Y bwyd dan sylw/dyddiad hysbysu Datganiad ar y bwyd dan sylw
Madarch seleniwm (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022 Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn (PDF)

Madarch fitamin B12 (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022
Ddim yn newydd –
darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn (PDF)

Am ragor o gymorth gyda cheisiadau am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio, darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.