Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd
Gofynion o ran awdurdodi bwydydd newydd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais am fwydydd newydd.
Bwydydd newydd yw unrhyw fwyd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997. Mae hyn yn golygu nad oes gan y bwydydd hyn ‘hanes o gael eu bwyta’. Mae enghreifftiau o fwydydd newydd yn cynnwys:
- bwydydd newydd, er enghraifft, ffytosterolau a ffytostanolau a ddefnyddir mewn sbrediau sy’n lleihau colesterol
- bwydydd traddodiadol sy’n cael eu bwyta mewn mannau eraill yn y byd, er enghraifft, hadau chia, baobab
- bwydydd a gynhyrchir drwy brosesau newydd, er enghraifft, bara wedi’i drin â golau uwch-fioled i gynyddu lefelau fitamin D
Mae angen awdurdodi bwydydd newydd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Wrth osod bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid gwneud hyn yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283. Ceir dau lwybr awdurdodi:
- Hysbysiad bwyd traddodiadol (‘Erthyl 14’)
- Cais llawn (‘Erthygl 10’)
Cofrestr o fwydydd newydd
Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi bwydydd newydd fel y’u pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr o fwydydd newydd yn nodi rhestr o fwydydd newydd y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi. Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 yw’r sail gyfreithiol ar gyfer rhoi bwydydd newydd ar y farchnad a’u defnyddio.
Oni bai y caiff mesurau diogelu data eu gweithredu, gallwch werthu bwydydd newydd awdurdodedig yn unol â’r amodau a nodir yn y gofrestr. Mae’r gofrestr yn dangos lle mae mesurau diogelu data ar waith.
Canllawiau pellach ar fwydydd newydd penodol
- Canllawiau ar CBD
- Canllawiau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
- Canllawiau ar bryfed bwytadwy
Canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd ar ymchwilio i statws cynhyrchion fel bwydydd newydd
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Brydain Fawr yn unig. Am fanylion ar y broses i benderfynu a yw cynnyrch wedi’i awdurdodi i’w werthu yng Ngogledd Iwerddon, gweler yr adran o’r enw ‘Canllawiau ceisiadau yng Ngogledd Iwerddon'.
Mae cynhyrchion bwyd heb hanes sylweddol o’u bwyta cyn 15 Mai 1997 yn y DU neu’r UE yn cael eu hystyried yn fwydydd newydd, ac mae angen eu hawdurdodi cyn y gellir eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr.
Gweithredwr y busnes bwyd sy’n gyfrifol am wirio a fyddai ei gynnyrch yn dod o dan reoliadau bwydydd newydd cyn iddo roi’r cynnyrch ar y farchnad. Mae’r canllawiau hyn yn darparu rhai adnoddau defnyddiol a allai helpu gweithredwyr busnesau bwyd i ddechrau eu hymchwil i statws cynnyrch fel bwyd newydd. Darllenwch yn drylwyr yr holl adnoddau yn y canllawiau hyn er mwyn helpu i benderfynu ar statws eich cynnyrch fel bwyd newydd.
Noder mai dim ond drwy’r broses ymgynghori a geir yn Erthygl 4 y gall yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddarparu dilysiad cyfreithiol ar statws cynnyrch fel bwyd newydd. Nid yw’r ASB yn ymateb i geisiadau anffurfiol gan weithredwyr busnesau nwyd i bennu statws cynnyrch fel bwyd newydd.
Mae’r tabl canlynol yn rhestru adnoddau y gall gweithredwyr busnesau bwyd eu defnyddio i ymchwilio i statws cynnyrch fel bwyd newydd. Wrth ddefnyddio’r adnoddau hyn, gweithredwr y busnes bwyd sy’n gyfrifol am wybod manylion y cynhwysion (fel gwreiddiau/dail) sydd wedi’u defnyddio yn eu cynnyrch, yn ogystal â’r defnydd arfaethedig ar gyfer pob cydran. Er enghraifft, mae’n rhaid i weithredwr y busnes bwyd wybod a yw’r cynnyrch dan sylw’n bwriadu cael eu defnyddio fel bwyd, atchwanegiad bwyd, neu’r ddau.
Adnoddau y gall gweithredwyr busnesau bwyd eu defnyddio i ymchwilio i statws cynnyrch fel bwyd newydd
| Enw | Disgrifiad | Gwybodaeth ychwanegol |
| Y Gofrestr Awdurdodiadau Bwydydd Newydd | Cofrestr yr ASB o fwydydd newydd sydd wedi’u hawdurdodi a’u caniatáu i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr. | Canllawiau ar ddefnyddio’r Gofrestr Bwydydd Newydd |
| Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd | Mae’r dudalen hon yn manylu ar ganlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd yn y DU, a elwir hefyd yn ymgynghoriadau Erthygl 4. Mae’r broses ymgynghori hon yn pennu a yw bwyd yn newydd ai peidio. | Cyhoeddir cyfiawnhad byr o’r penderfyniad hefyd, a gall gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am hanes y cynnyrch yn y DU a’r UE. |
| Catalog Statws Bwydydd Newydd yr UE | Cronfa ddata’r UE sy’n cynnwys gwybodaeth am statws gwahanol fwydydd yn yr UE fel bwyd newydd. Nid yw’r Catalog yn gynhwysfawr, ond fe’i darperir fel ffynhonnell ddangosol o wybodaeth am hanes y cynnyrch yn unig. Os nad yw cynnyrch i’w weld ar y rhestr, nid yw hyn yn golygu nad yw’n fwyd newydd o reidrwydd. | Mae unrhyw benderfyniadau ar statws bwyd fel newydd bwyd a wnaed gan yr UE cyn 1 Ionawr 2021 yn dal i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw penderfyniadau’r UE ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys ym Mhrydain Fawr ond gallant helpu i benderfynu a oes hanes o’i fwyta o fewn yr UE. |
| Proses ymgynghori’r UE ar statws cynnyrch fel bwyd newydd | Yn dilyn cais am ymgynghoriad Erthygl 4 mewn aelod-wladwriaeth o’r UE, mae’r Comisiwn yn cyhoeddi penderfyniad Statws fel Bwydydd Newydd. | Yn cynnwys cyfiawnhad byr o bob penderfyniad a all gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol fel hanes o fwyta’r cynnyrch yn y DU a’r UE. |
| Rhestr BELFRIT | Rhestr a ddatblygwyd gan awdurdodau Gwlad Belg, Ffrainc a’r Eidal o sylweddau, paratoadau a deunydd botanegol a gymeradwywyd neu a wrthodwyd i’w defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd yn yr UE. |
Mae fersiwn wedi’i diweddaru ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyhoeddus Ffederal ond dim ond yn Ffrangeg ac Iseldireg y mae ar gael ar hyn o bryd. Mae’r fersiwn hon yn cynnwys:
rhestr o blanhigion y caiff eu defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd Ar gyfer rhai o’r planhigion hynny, mae symiau uchaf wedi’u pennu fesul dogn dy, ac mae rhestr o ddulliau dadansoddi a argymhellir wedi’i llunio ar eu cyfer. |
| Rhestr EuroFir-Nettox o blanhigion | Rhestr o 334 o blanhigion mawr o’r Ewrop a oedd ar y farchnad yn yr UE cyn i’r Rheoliadau Bwydydd Newydd ddod i rym. | Gall yr UE ystyried nad yw’r planhigion sy’n ymddangos yn y rhestr yn fwydydd newydd. |
| Rhestr yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) o gynhwysion llysieuol wedi’u gwahardd a’u cyfyngu | Rhestr yn nhrefn yr wyddor o gynhwysion llysieuol sy’n destun amrywiol gyfyngiadau yn y DU. | Mae MHRA yn nodi bod y ddogfen hon at ddibenion canllaw yn unig. Mae yna hefyd ddisgrifiadau a dolenni i ddeddfwriaeth a allai fod yn berthnasol i’ch cynnyrch. |
Sylwch y gall cynhyrchion gael eu henwi yn yr adnoddau hyn mewn ieithoedd gwahanol. Os na allwch ddod o hyd i’r cynnyrch rydych chi’n chwilio amdano, ceisiwch chwilio gan ddefnyddio enwau eraill.
I weithredwyr busnesau bwyd sy’n ceisio rhoi eu cynnyrch ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, gweler yr adran o’r enw ‘Canllawiau ceisiadau yng Ngogledd Iwerddon’.
Cais Erthygl 4
Fel gweithredwr bwyd busnes, eich cyfrifoldeb chi yw darparu’r dystiolaeth angenrheidiol sy’n cadarnhau nad yw eich cynnyrch yn newydd. Os, ar ôl darllen yr adnoddau hyn, rydych chi’n dal yn ansicr ynghylch a yw cynnyrch yn un newydd, mae’n rhaid i chi gyflwyno Erthygl 4 cais am eglurhad.
Mae’r broses ar gyfer gwneud cais am ymgynghoriad Erthygl 4 wedi’i chynllunio i asesu statws cynnyrch fel bwyd newydd drwy sefydlu:
- A yw’n bodloni’r diffiniad o fwyd, ac a yw’n dod o fewn cwmpas deddfwriaeth bwydydd newydd yn erbyn y diffiniadau a nodir yn y ddeddfwriaeth.
- P’un a oes ganddo hanes o’i fwyta’n sylweddol
Os daw’r broses i’r casgliad bod y cynnyrch yn un newydd, bydd angen i weithredwyr busnesau bwyd wneud cais i awdurdodi eu cynnyrch o dan y gyfundrefn bwydydd newydd er mwyn gallu rhoi’r cynnyrch yn gyfreithiol ar farchnad Prydain Fawr.
Os daw’r broses i’r casgliad nad yw’r cynnyrch yn un newydd, ni fyddai angen awdurdodi’r cynnyrch fel bwyd newydd.
I gael canllawiau ar sut i gyflwyno cais Erthygl 4, gweler y canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr adnoddau yn canllawiau hyn yn drylwyr cyn gwneud hynny.
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/456 yn rhoi manylion am yr hyn y bydd angen i chi ei gynnwys yn eich cais o dan Erthygl 4.
Unwaith y byddwch yn barod, gallwch gyflwyno cais Erthygl 4. Dewiswch ‘dechrau’, yna ‘Bwydydd newydd’, yna ‘Statws fel bwyd newydd (Erthygl 4)’.
Am ymholiadau sy’n ymwneud â CBD neu gywarch wedi’i wasgu’n oer, gweler y tudalennau perthnasol ar CBD:
Dolenni defnyddiol eraill
Dilynwch y dolenni isod i weld canllawiau penodol yr ASB yn ôl pob math o gynnyrch rheoleiddiedig. Mae’r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys dolenni i’r canllawiau a’r rheoliadau perthnasol sy’n gymwys i bob math o gynnyrch:
- Toddyddion echdynnu
- Ychwanegion bwyd anifeiliaid
- bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTS)
- Prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid
- Cyflasynnau
- Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
- Ychwanegion bwyd
- Ensymau bwyd
- Atchwanegiadau bwyd
- organebau a addasir yn enetig (GMOs) fel bwyd a bwyd anifeiliaid
- Bwydydd newydd
- Cyflasynnau mwg
Awdurdodau lleol sy’n ceisio pennu statws cynnyrch fel bwyd newydd
Gall yr ASB barhau i ymateb i geisiadau anffurfiol gan awdurdodau lleol am roi cyngor ar statws cynnyrch fel bwyd newydd, os yw gwneud hynny er budd diogelwch defnyddwyr, budd y cyhoedd ehangach, neu am unrhyw reswm arall y mae’r ASB yn ei ystyried yn angenrheidiol ac yn briodol gwneud hynny.
Os oes gan awdurdodau lleol gwestiynau am fwyd newydd nad oes ateb ar eu cyfer ar wefan yr ASB, Rhwydwaith Rhannu’r ASB, neu dogfennau holi ac ateb cyfredol, dylai awdurdodau lleol ddilyn y broses uwchgyfeirio i ddatrys y mater. Mae mwy o ganllawiau ar y broses hon ar gael ar Rwydwaith Rhannu’r ASB. Gweler ein tudalen ar sut mae’r ASB yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer Rhwydwaith Rhannu’r ASB.
Statws bwyd newydd (Erthygl 4)
Mae proses ymgynghori (a elwir hefyd yn gais Erthygl 4) ar gael:
- os ydych chi’n ansicr ynghylch statws eich cynnyrch
- os oes gennych chi dystiolaeth bod ganddo hanes o gael ei fwyta yn y DU neu’r UE cyn mis Mai 1997
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2018/456 yn manylu ar yr wybodaeth y bydd ei hangen arnom i benderfynu a yw’r cynnyrch yn newydd.
Os daw’r broses hon i’r casgliad bod eich cynnyrch yn newydd, yna bydd angen i chi wneud cais am awdurdodiad er mwyn marchnata'r cynnyrch yn gyfreithiol ym Mhrydain Fawr.
I gyflwyno'ch cais Erthygl 4 a'ch tystiolaeth gefnogol, defnyddiwch ein gwefan cynhyrchion rheoleiddiedig. Yn yr adran ‘Math o gynnyrch’, dewiswch ‘Arall’.
Byddwn yn rhestru canlyniadau ymgynghoriadau Erthygl 4 ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.
Awdurdodiadau newydd
I wneud cais i awdurdodi bwyd newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein porth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.
Canllawiau ceisiadau yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i fwydydd newydd gael asesiad diogelwch ac awdurdodiad cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad. Dylai busnesau sy’n ceisio rhoi eu cynhyrchioch ar farchnad Gogledd Iwerddon ddilyn rheolau’r UE a phroses awdurdodi’r Comisiwn Ewropeaidd. I gael canllawiau ar ddechrau’r broses hon, ewch i dudalen we Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar geisiadau am fwydydd newydd: rheoliadau a chanllawiau.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am fwydydd newydd sydd wedi’u hawdurdodi i’w gwerthu yn yr UE a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn Rhestr Bwydydd Newydd Undeb yr UE. Gellir defnyddio Catalog Statws Bwyd Newydd yr UE hefyd i chwilio am statws cynhyrchion penodol.
Bydd nwyddau bwyd-amaeth i’w manwerthu sy’n symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) yn gallu bodloni gofynion iechyd cyhoeddus Prydain Fawr fel y nodir mewn deddfwriaeth, gan gynnwys mewn perthynas â bwydydd newydd. Mae NIRMS yn berthnasol i nwyddau bwyd-amaeth i’w manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a fwriedir i’w gwerthu i ddefnyddwyr terfynol. Felly, bydd bwyd newydd sydd wedi’i awdurdodi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn gallu symud i Ogledd Iwerddon drwy NIRMS. Gellir dod o hyd i restr o’r rhain yn y gofrestr o fwydydd newydd.
Cais llawn (‘Erthygl 10’)
Ar gyfer bwydydd newydd heblaw’r rhai sy’n dod o dan lwybr hysbysu bwyd traddodiadol, mae angen i chi gyflwyno sét lawn o wybodaeth fel y nodir.
Rhan 1
Dylai hyn gynnwys y data gweinyddol, fel gwybodaeth yr ymgeisydd.
Rhan 2
Dylai’r rhan hon gynnwys gwybodaeth sy’n benodol i’r bwyd newydd fel:
- hunaniaeth y bwyd newydd
- proses gynhyrchu
- data cyfansoddol
- manylebau
- hanes defnyddio’r bwyd newydd a/neu ei ffynhonnell
- lefelau defnydd a defnydd arfaethedig a’r cymeriant a ragwelir
- amsugno, dosbarthu, metaboledd ac ysgarthiad
- gwybodaeth am faeth
- gwybodaeth am wenwyndra ac alergenau
Dylai ymgeiswyr esbonio sut mae’r wybodaeth hon yn cefnogi’r honiad bod y bwyd newydd yn ddiogel. Dylai hefyd gyflwyno’r data ategol a ddarparwyd yn ogystal â rhestr o’r holl gyfeiriadau.
Rhan 3
Dylai’r weithdrefn hon gynnwys:
- geirfa neu fyrfoddau’r termau a ddyfynnir trwy’r goflen
- y tystysgrifau (ar achrediadau labordai, tystysgrifau dadansoddiadau)
- Copïau llawn / ailargraffiadau o’r holl ddata gwyddonol perthnasol (wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi)
- Adroddiadau astudio llawn
- Barn wyddonol cyrff rheoleiddio cenedlaethol/rhyngwladol
Canllawiau manwl ar gyfer ceisiadau llawn
Nodir canllawiau manwl a gofynion gwneud cais yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 2017/4269 a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA. Mae canllawiau EFSA yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:
Hysbysiad bwyd traddodiadol (‘Erthyl 14’)
Dyma lwybr symlach i awdurdodi cynhyrchion sydd wedi cael eu bwyta y tu allan i’r DU neu’r UE am o leiaf 25 mlynedd cyn i’r cais gael ei wneud.
Mae’r llwybr hwn wedi lleihau gofynion data sy’n adlewyrchu eu defnydd eang mewn rhannau eraill o’r byd. Anogir ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ddysgu am y risgiau diogelwch o’r defnydd presennol hwn. Bydd yr ASB yn cynnal adolygiad o fewn pedwar mis. Os nad oes gan yr ASB unrhyw wrthwynebiadau diogelwch, caiff y cynnyrch ei awdurdodi a’i roi ar y rhestr awdurdodedig.
Awdurdodi bwyd traddodiadol (‘Erthygl 16’)
Os oes gan yr ASB wrthwynebiadau diogelwch yn dilyn cais Erthygl 14, nid yw’r cynnyrch wedi’i awdurdodi i’w roi ar farchnad Prydain Fawr. Yn dilyn hyn, gall yr ymgeisydd gyflwyno cais drwy lwybr Erthygl 16, lle mae angen gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwrthwynebiadau diogelwch a godwyd gan yr ASB yn ystod proses Erthygl 14.
Canllawiau manwl ar gyfer hysbysiadau bwyd traddodiadol
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2468, a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA, yn nodi’r hyn sydd angen ei gynnwys yn y cais. Mae canllawiau EFSA yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:
Gwneud cais i awdurdodi bwydydd newydd
Defnyddiwch ein porth i wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.
Treialon blasu bwydydd newydd
Gellir caniatáu treialon blasu bwydydd newydd anawdurdodedig os mai’r bwriad yw cynnal ymchwil i ddatblygu’r bwyd newydd. Mae’r ASB yn argymell bod treialon blasu’n cael eu llywio gan gyngor a gyhoeddir gan y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP). Gall cwmnïau roi gwybod eu bod wedi cynnal treial blasu trwy weithgarwch yn y cyfryngau lle mae cyhoeddusrwydd o’r fath yn cefnogi prif ddiben y treial fel ymchwil a datblygu.
Os mai bwriad treial blasu yw hyrwyddo cynnyrch neu frand cwmni, yna gall hyn fod yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd heb ei awdurdodi ar y farchnad yn anghyfreithlon.
Os ydych chi’n cynnal treial blasu yn y DU, dylech chi gyfeirio at y canllawiau ar gynnal treialon blasu bwydydd newydd a ddiweddarwyd yn ddiweddar i sicrhau nad yw’r treial yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd heb awdurdod ar y farchnad yn anghyfreithlon.
Ceisio cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni yn regulatedproducts@food.gov.uk
Hanes diwygio
Published: 11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Tachwedd 2025