Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Dechrau busnes bwyd

Paratoi ar gyfer eich arolygiad hylendid bwyd cyntaf

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am yr hyn a all ddigwydd yn ystod arolygiad hylendid bwyd. Darllenwch yr holl dudalennau yn y canllaw hwn i sicrhau bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg eich busnes bwyd.

Fel busnes bwyd newydd sy’n gweini neu'n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd, bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol i chi.

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr o 0 i 5 i fusnesau, fel y gall defnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd.

Dyma ystyr y sgoriau hylendid:

  • 5 – mae’r safonau hylendid yn dda iawn
  • 4 – mae’r safonau hylendid yn dda
  • 3 – mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan
  • 2 – mae angen gwella’r safonau hylendid rhywfaint
  • 1 – mae angen gwella’n sylweddol
  • 0️ – mae angen gwella ar frys

Bydd eich sgôr yn seiliedig ar yr hyn a welir ar ddiwrnod yr arolygiad. Bydd swyddogion awdurdodedig o dîm Diogelwch Bwyd eich awdurdod lleol yn cynnal yr arolygiad. Bydd y swyddog awdurdodedig fel arfer yn Swyddog Diogelwch Bwyd neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o’ch awdurdod lleol, nid yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd y swyddog yn arolygu eich safle i wirio a yw eich busnes yn cydymffurfio â chyfraith bwyd a’i fod yn cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta.

Edrychwch ar ein canllawiau i fusnesau ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) i gael mwy o wybodaeth.

Mae ein tudalen Dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel yn cynnwys gwybodaeth am arferion hylendid bwyd da y gallwch eu defnyddio yn eich busnes. Mae gennym hefyd amrywiaeth o becynnau gwybodaeth bwyd mwy diogel, busnes gwell i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru a Lloegr i reoli diogelwch bwyd. Dylai busnesau yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at ein canllawiau Arlwyo Diogel.

Trefnu arolygiad hylendid bwyd

Pan fyddwch yn cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol, bydd eich tîm diogelwch bwyd lleol yn cael gwybod yn awtomatig. Nid oes angen i chi gysylltu â nhw gan y bydd arolygiad yn cael ei drefnu os oes angen. Sylwer - bydd busnesau sy'n peri risg uwch yn cael eu blaenoriaethu dros fusnesau risg isel, ac mewn rhai achosion, gall gymryd sawl mis nes bydd eich busnes yn destun arolygiad am y tro cyntaf.

Arolygiadau hylendid bwyd dirybudd

Fel arfer bydd swyddogion awdurdodedig o’ch awdurdod lleol yn cyrraedd heb drefnu apwyntiad.

Mae ganddynt yr hawl i fynd i mewn ac arolygu eich safle ar unrhyw adeg resymol. Mae’n rhaid iddynt ddangos cerdyn adnabod cyn dechrau cynnal yr arolygiad.

Ar gyfer busnesau bwyd sy’n gweithio o gyfeiriad cartref, bydd swyddog awdurdodedig yn gwneud trefniadau i ymweld â’ch cartref i gynnal arolygiad hylendid bwyd.

Beth sy’n digwydd yn ystod arolygiad hylendid bwyd

Fel rhan o’r arolygiad hylendid bwyd, bydd swyddogion awdurdodedig yn edrych ar:

  • eich safle
  • hylendid wrth drin bwyd
  • eich system rheoli diogelwch bwyd   

Yn ogystal ag edrych ar eich cofnodion a gweithdrefnau, efallai y bydd swyddogion yn cymryd samplau bwyd neu’n tynnu lluniau ohonynt.

Nid yw’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ymdrin â’r canlynol:

  • ansawdd eich bwyd 
  • gwasanaeth cwsmeriaid  
  • sut caiff y bwyd ei gyflwyno a’ch sgiliau coginio

Nid yw arolygwyr yn ymweld i ddod o hyd i ddiffygion nac i gau eich busnes. Maent yn arolygu er mwyn eich cefnogi i ddarparu bwyd diogel. Byddant yn rhoi arweiniad ac adborth ac yn awgrymu camau unioni i’ch helpu i wneud pethau’n iawn os nad ydych yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. Cofiwch, mae’r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes.

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ac eithriadau ar ein tudalennau'r cynllun sgorio hylendid bwyd ar gyfer busnesau.
 

Gallwch hefyd wylio’r fideo hwn am arolygiad arferol gan Gyngor Dinas San Steffan.

Beth sy’n digwydd ar ôl arolygiad

Byddwch yn cael llythyr cadarnhad yn amlinellu unrhyw welliannau angenrheidiol y gallai fod angen i chi eu gwneud. Os bydd angen i chi wneud rhai newidiadau i’ch ffordd o weithredu, byddwch yn cael cyfnod rhesymol o amser i wneud yr addasiadau perthnasol. Mae hyn oni bai bod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Gweler ein tudalennau Sgoriau Hylendid Bwyd i Fusnesau i gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys:

  • Pryd, ble a phwy sy’n cyhoeddi eich sgôr hylendid bwyd?
  • Gwneud cais am arolygiad ail-sgorio a mor aml y caiff safleoedd eu harolygu
  • Arddangos eich sgôr hylendid bwyd