Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Dechrau busnes bwyd

Gwerthu bwyd i’w ddosbarthu

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i fusnesau sy’n gwerthu bwyd i’w ddosbarthu, naill ai heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, neu o safle tecawê. Darllenwch yr holl dudalennau yn y canllaw hwn i sicrhau bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg eich busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gwerthu bwyd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr  

Pan fyddwch yn gwerthu bwyd heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, mae’r bwyd rydych yn ei werthu yn ddarostyngedig i gyfraith y DU. Y brif ddeddf ar gyfer y math hwn o werthu yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Chostau Ychwanegol) 2013

Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i’r holl nwyddau a werthir heb gysylltiad wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr, nid bwyd yn unig.

Mae dulliau gwerthu yn cynnwys:

  • ar-lein trwy eich gwefan eich hun neu wefan allanol fel Deliveroo
  • negeseuon testun
  • galwadau ffôn
  • teledu rhyngweithiol
  • archebu drwy’r post
  • trwy’r cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook Marketplace 

Fel gydag unrhyw fusnes bwyd, mae angen i chi gofrestru eich busnes bwyd 28 diwrnod cyn ei agor. Gall adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor hefyd gynnig cyngor ar gydymffurfio â chyfreithiau diogelwch bwyd a hylendid bwyd.

Gwerthu bwyd ar-lein

Mae’r canllawiau isod yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n gwerthu bwyd ar-lein, ac yn amlinellu’r gofynion cyfreithiol a’r ystyriaethau diogelwch.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllaw i awdurdodau lleol wrth ddelio â busnesau sy’n gwerthu bwyd dros y rhyngrwyd. 

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Mae’r gyfraith yn nodi:

  • gwybodaeth y mae’n rhaid i’r gwerthwr ei rhoi i’r defnyddiwr cyn gwerthu
  • hawliau i ganslo’r contract
  • adfer arian sydd wedi’i dalu wrth ganslo
  • adfer nwyddau gan y defnyddiwr ar ôl canslo
  • dosbarthu bwyd a diod i gartref neu weithle defnyddiwr

Os ydych yn gwerthu dros y rhyngrwyd, bydd Rheoliadau Masnach Electronig y DU 2002 hefyd yn berthnasol i’ch busnes.

Mae mwy o wybodaeth am werthu ar-lein a gwerthu heb gysylltiad wyneb yn wyneb ar gael ar wefan GOV.UK.

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd yn nogfennau canllaw’r ASB

Mae’r ASB wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) er mwyn adlewyrchu’n gywir y gyfraith sydd bellach mewn grym ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddwyd ers i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. O dan rai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg y byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir. Gallwch gyrchu cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ar-lein Ymadael â’r UE Llywodraeth EF.

Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu’n gywir yng nghyd-destun y DU. Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn yr amgylchiadau hyn.

Gwybodaeth am alergenau ar gyfer dosbarthiadau bwyd

Mae angen i fusnesau bwyd ddweud wrth gwsmeriaid os yw’r bwyd y maent yn ei ddarparu yn cynnwys unrhyw un o’r alergenau penodedig fel cynhwysyn. Mae’r 14 alergen hyn wedi‘u dewis gan mai dyma’r rhai mwyaf cyffredin a pheryglus.

Gall defnyddwyr fod ag alergedd neu anoddefiad i gynhwysion eraill, ond dim ond ar gyfer yr 14 alergen hyn y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddarparu gwybodaeth.

Yr 14 alergen yw: bysedd y blaidd (lupin), cnau coed (fel almonau, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashew, cnau pecan, cnau pistachio a chnau macadamia), cramenogion (fel corgimychiaid, crancod a chimychiaid), ffa soia, grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (fel haidd a cheirch), llaeth, molysgiaid (fel cregyn gleision ac wystrys), mwstard, pysgnau, pysgod, seleri, ​​​​​​​sesame, sylffwr deuocsid a sylffitau (os ydynt mewn crynodiad o fwy na deg rhan y filiwn) ac wyau.

Os yw bwyd yn cael ei werthu ar-lein neu dros y ffôn trwy ddulliau gwerthu o bell, rhaid darparu gwybodaeth am alergenau yn ystod dau gam yn y broses archebu.

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau:

  • cyn i’r cwsmer orffen prynu’r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (ar wefan, mewn catalog neu ar fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
  • pan gaiff y bwyd ei ddosbarthu – gall hyn fod yn ysgrifenedig (sticeri alergenau ar fwyd neu gopi amgaeedig o fwydlen) neu ar lafar (gan yr unigolyn sy’n dosbarthu’r bwyd i chi)

Mae’n bwysig bod busnesau bwyd yn cymryd camau i atal croeshalogi wrth baratoi bwyd. Mae hyn yn diogelu cwsmeriaid sydd ag alergedd bwyd.

Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i atal croeshalogi ag alergenau yn eich busnes bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • glanhau offer cyn pob defnydd
  • golchi dwylo’n drylwyr yn rheolaidd
  • storio cynhwysion a bwydydd wedi’u paratoi ar wahân
  • cadw cynhwysion sy’n cynnwys alergenau ar wahân i gynhwysion eraill
  • labelu prydau tecawê yn glir fel bod cwsmeriaid yn gwybod pa brydau sy’n addas i’r rheiny sydd ag alergedd

Protocol dosbarthu bwyd

Os ydych yn dosbarthu archebion bwyd, mae’n rhaid i fwyd o bob math gael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy’n sicrhau na ddaw yn anniogel neu’n anaddas i’w fwyta. 

Os ydych yn defnyddio cerbyd domestig (neu gerbyd busnes nad yw’n gysylltiedig â’r diwydiant bwyd) i gludo eich archebion bwyd, mae angen bodloni gofynion hylendid a manylebau cerbydau penodol.

Deunydd pecynnu safon bwyd

Os ydych yn dosbarthu archebion bwyd, mae’n bwysig dewis deunydd pecynnu bwyd o safon briodol. 

Er enghraifft, efallai y bydd gofyn i ddeunyddiau pecynnu allu gwrthsefyll hylifau neu fraster er mwyn atal bwyd rhag gollwng, neu i atal papur rhag cael ei wlychu drwyddo.

Heb y math hwn o ddeunydd pecynnu, gallai halogion cemegol neu germau drosglwyddo i’r bwyd. Bydd caeadau sy’n ffitio’n dda hefyd yn lleihau unrhyw risgiau o ran hylendid neu fwyd yn gollwng.

Tymheredd

Rhaid i fwyd sydd angen bod mewn oergell gael ei gadw’n oer wrth ei gludo. Efallai y bydd angen ei bacio mewn blwch wedi’i inswleiddio gyda gel oeri neu mewn bag oer. 

Mae’n rhaid i fwyd a anfonir drwy’r post gael ei anfon at ddefnyddwyr mewn deunydd pecynnu sy’n ddigon cryf i aros mewn un darn. Ar ôl ei anfon, dylid dosbarthu’r bwyd cyn gynted â phosib, dros nos yn ddelfrydol.

Pan fo’r cwsmer yn archebu, mae’n rhaid dweud wrtho pryd y gall ddisgwyl y pecyn.

ASB yn Esbonio

Rhestr wirio ar gyfer dechrau busnes bwyd o’ch cartref 

Cofrestru eich busnes bwyd

Mae angen i chi gofrestru eich busnes bwyd o leiaf 28 diwrnod cyn i chi agor. 

Gwirio eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith 

Y brif ddeddf ar gyfer gwerthu o bell yw Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Chostau Ychwanegol) 2013. Os ydych yn gwerthu dros y rhyngrwyd, bydd Rheoliadau Masnach Electronig y DU 2002 hefyd yn berthnasol i’ch busnes. 

Rhoi gwybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid

Cofiwch ddweud wrth gwsmeriaid os yw bwyd a ddarperir gennych yn cynnwys unrhyw un o’r alergenau penodedig fel cynhwysyn. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau cyn i’r bwyd gael ei brynu a phan fydd y bwyd yn cael ei ddosbarthu.

Atal croeshalogi

Cofiwch gymryd camau i atal croeshalogi ag alergenau.

Gwirio’r gofynion o ran hylendid eich cerbyd 

Gwiriwch fod y cerbyd rydych yn ei ddefnyddio i gludo bwyd yn bodloni gofynion hylendid a manylebau cerbyd.

Defnyddio deunydd pecynnu priodol

Dewiswch ddeunydd pecynnu priodol o’r safon iawn ar gyfer bwyd sydd i’w ddanfon. Rhaid i fwyd sydd angen bod mewn oergell gael ei gadw’n oer wrth ei gludo, er enghraifft mewn bag oer. 

Mae’n rhaid i fwyd a anfonir drwy’r post gael ei anfon at ddefnyddwyr mewn deunydd pecynnu sy’n ddigon cryf i aros mewn un darn.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch cwsmeriaid

Rhaid rhoi gwybod i’r defnyddiwr pryd y gall ddisgwyl ei archeb. Dylid dosbarthu’r bwyd cyn gynted â phosib, dros nos yn ddelfrydol.

A oedd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol? Rhannwch eich adborth.