Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Dechrau busnes bwyd

Dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion y gofynion y mae’n rhaid i chi eu hystyried wrth ddechrau busnes bwyd. Darllenwch yr holl dudalennau yn y canllaw hwn i sicrhau bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg eich busnes bwyd.

Mae sawl gofyniad y mae angen i chi eu hystyried wrth ddechrau busnes bwyd. Maent fel a ganlyn: 

Asesiad risg

Wrth sefydlu busnes bwyd, dylech gynnal asesiad risg. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i gynnal asesiad risg a beth i’w gynnwys.

Rhaid i fusnesau bwyd ddefnyddio gweithdrefnau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) neu System Rheoli Diogelwch Bwyd sy’n seiliedig ar HACCP fel y Canllaw Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell

Mae’r pecynnau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: 

  • hylendid personol
  • rheoli plâu
  • atal croeshalogi
  • glanhau  

Hylendid bwyd

Mae hylendid bwyd da yn hanfodol i sicrhau bod y bwyd rydych yn ei weini’n ddiogel i’w fwyta.  Pan fyddwch yn sefydlu busnes bwyd, mae angen i chi gyflwyno ffyrdd o weithio a fydd yn eich helpu i sicrhau bod safonau hylendid yn briodol o’r cychwyn cyntaf. 

Dyma’r pedwar hanfod ar gyfer hylendid bwyd da: 

Hyfforddiant hylendid bwyd

Lle bynnag y mae bwyd yn cael ei weini, mae’n bwysig dangos y safonau uchaf o ran paratoi, trin, storio a gweini bwyd. Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ymgymryd  â hyfforddiant digonol mewn hylendid bwyd.

Nid yw’n orfodol i chi gael tystysgrif hylendid bwyd, ond os ydych am ddechrau busnes bwyd, rydym yn argymell eich bod yn mynd ati i ennill cymhwyster ar hylendid bwyd i wella eich dealltwriaeth.

Mae gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ganllawiau ar y gwahanol lefelau o dystysgrif hylendid bwyd sydd ar gael. Mae darparwyr hyfforddiant achrededig eraill ar gael. Bydd eich awdurdod lleol yn gallu rhoi cyngor ar ba gwrs sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.

Rheoli alergenau

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i chi wneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid
  • trin a rheoli alergenau bwyd yn effeithiol wrth baratoi bwyd

Mae angen i chi roi gwybod i’ch cwsmeriaid os yw unrhyw fwyd a ddarperir gennych yn cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n ofynnol iddynt gael eu datgan yn alergenau yn ôl cyfraith bwyd.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ychwanegion, neu unrhyw eitemau eraill sy’n bresennol yn y cynnyrch terfynol, fel garnisiau neu addurniadau cacen.

Mae nifer o ffyrdd y gellir darparu gwybodaeth am alergenau i’ch cwsmeriaid.

Bydd ein canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd yn eich helpu i benderfynu beth fyddai’r dull gorau ar gyfer eich busnes. 

Gallwch gymryd camau i ddarparu prydau sy’n ddiogel i alergenau drwy wneud y canlynol:

  • glanhau offer cyn pob defnydd
  • golchi dwylo’n drylwyr yn rheolaidd
  • storio cynhwysion a bwydydd wedi’u paratoi ar wahân
  • labelu prydau tecawê yn glir

Mae’n bwysig bod busnesau bwyd yn cymryd camau i osgoi croeshalogi wrth baratoi bwyd. 

Mae hyn yn diogelu cwsmeriaid sydd ag alergedd bwyd. Mae gennym ganllawiau pellach ar sut i ddarparu gwybodaeth am alergenau wrth ddosbarthu bwyd.

Rydym yn darparu hyfforddiant alergedd bwyd ar-lein sy’n rhad ac am ddim y gellir ei ddefnyddio i ddysgu mwy am reoli alergenau mewn cegin, yn ogystal â sut i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid ag alergeddau bwyd.

Olrhain bwyd

Mae rheolau olrhain yn helpu i gadw golwg ar fwyd yn y gadwyn gyflenwi. Maent yn sicrhau bod unrhyw fwyd anniogel yn cael ei dynnu neu ei alw’n ôl o’r farchnad yn effeithlon ac yn gywir os oes unrhyw broblemau diogelwch bwyd.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

  • yr holl gyflenwyr sy’n darparu bwyd neu unrhyw gynhwysion bwyd i chi 
  • busnesau rydych yn eu cyflenwi â bwyd neu gynhwysion bwyd

Mae angen cadw eich holl gofnodion yn gyfoes a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer arolygiadau bob amser. 

Gellir dod o hyd i fanylion penodol am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich cofnodion olrhain yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.

Osgoi troseddau bwyd

Wrth ddod o hyd i gynhwysion, prynwch fwyd gan gyflenwyr ag enw da yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o ble mae’r bwyd wedi dod.

Byddwch yn wyliadwrus pan fydd busnesau nad ydych wedi delio â nhw o’r blaen yn cysylltu â chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod o ble mae’r bwyd yn dod cyn prynu unrhyw beth.

Gwiriwch a yw’r pris yn unol â phris cyfredol y farchnad. Mae prisiau cynhyrchion yn amrywio, ond byddwch yn wyliadwrus os yw cyflenwyr yn cynnig cynhyrchion am bris is na’r arfer.

Dysgwch fwy am droseddau bwyd yn ein canllawiau ar droseddau bwyd ar gyfer busnesau bwyd.

Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd a amheuir i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd. 

Iechyd a Diogelwch

Os oes gennych chi bump neu ragor o weithwyr, mae rhaid i chi gael polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig sy’n disgrifio’r trefniadau sydd ar waith. 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllawiau iechyd a diogelwch hawdd i helpu busnesau bach a chanolig i ddeall iechyd a diogelwch.

ASB yn Esbonio

Rhestr wirio ar gyfer dechrau eich busnes bwyd yn ddiogel  

Cynnal asesiad risg

Dylech gynnal asesiad risg a chael gweithdrefn ddiogelwch ar waith ar gyfer eich busnes bwyd. 

Darparu hyfforddiant hylendid bwyd i staff

Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ymgymryd â hyfforddiant digonol mewn hylendid bwyd

Sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfraith alergeddau

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddarparu gwybodaeth am alergenau a dilyn rheolau labelu.

Sicrhau bod gennych gofnodion olrhain digonol

Gellir dod o hyd i fanylion penodol am yr hyn y dylech ei gynnwys yn eich cofnodion olrhain yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.
​​​​​​
Osgoi troseddau bwyd

Darllenwch ein canllawiau ar droseddau bwyd ar gyfer busnesau bwyd. Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd a amheuir i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd. 

Sicrhau bod gennych y gweithdrefnau iechyd a diogelwch cywir ar waith

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu canllawiau iechyd a diogelwch hawdd.

A oedd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn ddefnyddiol? Rhannwch eich adborth.