Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Coginio eich bwyd

Sut i goginio eich bwyd er mwyn atal gwnewyn bwyd

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Wrth goginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir bydd yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael ei ladd. Cymerwch gip ar y cyngor ar ddeunydd pecynnu'r bwyd bob amser gan ddilyn y cyfarwyddiadau coginio.

Cig

Cyn i chi weini porc, dofednod a briwgig (minced meat), dylech chi sicrhau ei fod yn stemio'n boeth a'i fod wedi'i goginio drwyddo draw. Wrth dorri i ran fwyaf trwchus y cig, dylech chi wirio nad oes unrhyw ran o'r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir. Mewn aderyn cyfan dyma'r darn rhwng y goes a'r fron.

Dilynwch y cyngor hwn wrth goginio:

  • twrci
  • cyw iâr
  • hwyaden
  • gŵydd
  • porc
  • cynhyrchion briwgig fel cebabs, selsig a byrgyrs

Wrth rostio aderyn cyfan fel cyw iâr neu dwrci, rydym yn cynghori y dylech goginio'r aderyn heb ei stwffio, gan goginio'r stwffin mewn dysgl ar wahân. Mae hyn oherwydd bydd adar wedi'u stwffio yn cymryd mwy o amser i goginio ac efallai na fyddant yn coginio'n drylwyr.

Llysiau wedi'u rhewi 

Mae angen coginio'r rhan fwyaf o lysiau wedi'u rhewi, gan gynnwys india-corn. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio india-corn neu lysiau eraill fel rhan o salad oer, edrychwch ar y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Os yw'r cyngor yn nodi bod angen i chi goginio'r india-corn neu llysiau wedi'u rhewi, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n gwneud hyn cyn i chi eu bwyta yn oer.

Ar ôl coginio, dylech chi:

  • oeri'r bwyd cyn gynted â phosib
  • storio'r bwyd yn yr oergell
  • bwyta'r bwyd o fewn dau ddiwrnod 
  • rewi'r bwyd i'w fwyta'n ddiweddarach, os na fyddwch yn gallu ei fwyta o fewn dau ddiwrnod

Dulliau coginio

Mae tri dull o drosglwyddo gwres yn cael eu defnyddio wrth goginio bwyd mewn popty.

Gwres rheiddiol neu uniongyrchol

Dyma lle mae’r fflamau yng nghefn popty nwy neu’r elfen mewn popty trydan yn coginio’r bwyd.

Dargludo

Dyma lle mae'r gwres yn teithio drwy'r silff, i mewn i'r tun/dysgl ac yna i mewn i'r bwyd. 

Darfudo

Dyma lle mae'r aer o fewn y popty yn cael ei gynhesu, ac yna mae’n teithio dros y bwyd a thrwyddo. Mae'n arbennig o bwysig mewn popty â ffan gan mai dyma sut mae’n coginio bwyd yn gyflymach. Efallai na fydd y dull hwn yn gweithio'n iawn os yw'r aderyn wedi'i stwffio.

Rydym yn cynghori eich bod yn coginio adar heb eu stwffio, a choginio unrhyw stwffin mewn tun neu ddysgl ar wahân. Peidiwch â gadael bwyd poeth allan ar dymheredd ystafell am gyfnodau hir. Dylech ei oeri a rhoi'r bwyd dros ben yn yr oergell neu'r rhewgell o fewn awr neu ddwy.

Dulliau coginio amgen 

Gellir paratoi prydau gan ddefnyddio gwahanol offer fel micro-don, popty pwyll neu ffrïwr aer. Bydd angen coginio bwydydd am amserau gwahanol ac ar dymereddau gwahanol, gan ddibynnu ar y dull coginio a pha mor effeithlon yw'r offer. Hefyd, er bod modd coginio gwahanol fwydydd gyda'i gilydd, efallai y bydd angen eu coginio am wahanol amserau ac ar wahanol dymereddau.
Cyfeiriwch at gyfarwyddiadau'r offer i gael cyngor ar gognio bwydydd penodol. Gyda rhai offer, dylech adael lle o gwmpas y bwyd er mwyn iddo goginio'n iawn, e.e. coesau cyw  iâr mewn ffrïwr aer.
Wrth goginio porc, dofednod neu friwgig (gan gynnwys byrgyrs a selsig), sicrhewch eu bod yn stemio'n boeth ac wedi'u cogonio drwyddynt cyn eu gweini. Torrwch drwy ddarn mwyaf trwcus y cig i sicrhau nad yw'r cig yn binc a bod y suddion y rhedeg yn glir. 

Pam na ddylech chi weini byrgyrs yn waedlyd neu'n binc?

Dim ond ar arwyneb allanol darnau cyfan o gig, fel stêcs neu olwythion y mae bacteria yn byw.

Pan fydd cig yn cael ei friwio i wneud byrgyr, gall unrhyw facteria niweidiol oddi ar arwyneb y cig ledaenu drwy'r byrgyr. O ganlyniad, gall fod bacteria niweidiol ar y tu mewn i fyrgyrs gwaedlyd a byrgyrs heb eu coginio'n drylwyr, a gallant achosi gwenwyn bwyd os nad ydyn nhw wedi'u coginio'n llwyr.

Rhagor o wybodaeth am fyrgyrs

ASB yn Esbonio

Ffliw Adar 

Mae Ffliw Adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr. Mae cig dofednod wedi'i goginio'n iawn a chynhyrchion cig dofednod yn ddiogel i'w bwyta. Mae hyn yn golygu nad yw ein cyngor ar fwyta cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod, gan gynnwys wyau, yn newid yn ystod brigiadau o Ffliw Adar.

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) gyngor pellach ar Ffliw Adar.