Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Salmonela

Yr hyn y gallwch ei wneud i leihau’r perygl o fynd yn sâl oherwydd Salmonela

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw Salmonela?

Salwch bacteriol cyffredin yw haint Salmonela (salmonelosis) sy’n effeithio’n bennaf ar y coluddion. Mae bacteria Salmonela fel arfer yn byw yng ngholuddion anifeiliaid a phobl heintiedig ac yn cael eu gollwng trwy’r ysgarthion. Mae pobl yn cael eu heintio amlaf trwy ddŵr neu fwyd sydd wedi’i halogi.

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, menywod beichiog, pobl â chyflwr iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, clefyd yr afu/iau a’r arennau) a phobl hŷn.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am symptomau Salmonela a sut mae’n eich gwneud yn sâl ar dudalen we’r GIG ynghylch gwenwyn bwyd neu dudalen we UKHSA ynghylch Salmonela.

Fideo: Yr ASB yn esbonio Salmonela

Sut mae bacteria Salmonela yn cael eu lledaenu

Mae bacteria Salmonela yn byw ym mherfeddion llawer o anifeiliaid fferm. Wrth fagu, lladd a phrosesu’r anifeiliaid, gall y bacteria gael eu trosglwyddo i gynhyrchion bwyd, fel cig amrwd, dofednod, wyau neu laeth heb ei basteureiddio.

Gall bwydydd eraill, fel llysiau gwyrdd, ffrwythau a physgod cregyn, gael eu halogi trwy ddod i gysylltiad â thail neu ddŵr halogedig.

Gall bacteria Salmonela hefyd ledaenu o anifeiliaid anwes, fel cathod, cŵn neu ymlusgiaid, i bobl. Gallant hefyd gael eu lledaenu o berson i berson drwy hylendid gwael (er enghraifft, peidio â golchi dwylo’n iawn ar ôl mynd i’r toiled).

Mae risg o ledaenu’r bacteria trwy groeshalogi yn y gegin oherwydd hylendid bwyd gwael ac wrth drin cig amrwd (gan gynnwys bwyd anifeiliaid anwes amrwd) neu fwyd halogedig arall.

Sut gallwch chi leihau’r risg o Salmonela gartref

Er mwyn lleihau’r risg o Salmonela, mae’n bwysig:

  • coginio bwyd yn gywir gan ddilyn y cyfarwyddiadau o ran amser a thymheredd – bydd hyn yn lladd salmonela
  • atal croeshalogi, a allai arwain at facteria yn pasio o fwydydd amrwd i fwydydd parod i’w bwyta trwy bethau fel bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio, cyllyll, arwynebau budr a byrddau torri
  • oeri eich bwyd o dan 5°C – bydd hyn yn atal neu’n arafu twf bacteria yn sylweddol, gan gynnwys salmonela
  • defnyddio bwyd a diod erbyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar y label, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn – gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn beryglu eich iechyd gan na allwch weld, arogli na blasu bacteria sy’n eich gwneud yn sâl
  • gwneud yn siŵr bod mannau paratoi bwyd yn lân i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr cyn, yn ystod, ac ar ôl paratoi bwyd

Mae hefyd yn bwysig cofio i beidio byth ag yfed dŵr heb ei drin o lynnoedd, afonydd neu nentydd.