Mae anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd fel arfer yn cynnwys:
- anifeiliaid sydd â ffwr (mae magu'r anifeiliaid hyn wedi'i wahardd yn y Deyrnas Unedig)
- anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn sw neu syrcas
- anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn labordai
- creaduriaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt
- anifeiliaid anwes
Dylech nodi at ddibenion y ddeddfwriaeth y caiff ceffylau a chwningod eu hystyried i fod yn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.
Pwysig
Labelu bwyd anifeiliaid anwes
Wrth ddatgan cynhwysion, mae gan weithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes y dewis i ddatgan yn ôl categori, er enghraifft, olewau a brasterau neu gig a chynhwysion sy'n dod o anifeiliaid.
Mae dau fudd i ddatgan cynhwysion bwyd anifeiliaid anwes yn ôl categori:
- mae'n caniatáu gweithgynhyrchwyr i reoli amrywiadau o ran cyflenwad y deunyddiau crai a ddefnyddir yn well
- mae'n rhoi hyblygrwydd o ran labelu cynhwysion
Mae'r ddau ffactor hyn yn helpu i osgoi costau ychwanegol afresymol.
Mae deddfwriaeth labelu bwyd anifeiliaid yn caniatáu gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes i amlygu presenoldeb neu absenoldeb cynhwysyn penodol, ac i roi gwybodaeth ychwanegol (tu hwnt i'r isafswm statudol gofynnol) i gwsmeriaid.
Mae enghreifftiau o wybodaeth ychwanegol yn cynnwys datganiadau dadansoddol o brotein neu ffeibr, neu enw a chyfeiriad y gweithgynhyrchwr.
Mae'r wybodaeth ychwanegol yn destun mesurau diogelu penodol. Mae'n rhaid iddi gynnwys ffactorau gwrthrychol a mesuradwy y gellir eu profi, ond ni ddylai gamarwain cwsmeriaid na gwneud honiadau meddyginiaethol. Mae'r mesurau diogelu hyn yn sicrhau bod labeli cynhyrchion bwyd anifeiliaid anwes yn cynnwys y cynhwysion fel y maen nhw'n cael eu nodi ar y label.
Cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes domestig
Mae modd cymeradwyo cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn safle domestig, ond bydd angen i chi gadw at yr holl amodau sy'n berthnasol i ffatrïoedd bwyd anifeiliaid anwes eraill. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gynnal gwaith samplu bacteriolegol, a rhoi system rheoli diogelwch bwyd anifeiliaid ar waith yn seiliedig ar egwyddorion HACCP.
Dylech gysylltu â'ch swyddfa Safonau Masnach leol i gofrestru a cael rhagor o gyngor.
Bwyd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Os ydych chi'n bwriadu defnyddio cynhwysion sy'n dod o anifeiliaid yn eich cynhyrchion (dylech nodi fod 'dod o anifeiliaid' hefyd yn cynnwys, er enghraifft: llaeth, wyau a deunyddiau sy'n dod o'r môr megis pysgod a physgod cregyn), yna bydd hefyd angen i chi gofrestru â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion dan y rheolau sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae'r adran honno'n gyfrifol amdanynt.
Mae hyn o achos y goblygiadau i iechyd anifeiliaid drwy gludo, storio neu ddefnyddio deunydd sy'n dod o anifeiliaid mewn modd anghywir.
Os ydych chi'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau hyn ar gael ar y dudalen cyflenwi a defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel bwydydd anifeiliaid fferm.
Cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid anwes yn yr un lle
Ni chaniateir i chi gynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes amrwd (raw) masnachol o'ch cegin ddomestig.
Ar 21 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ganllawiau i gefnogi busnesau bwyd a'u hasiantaethau gorfodi i reoli'r risgau o gynhyrchu bwyd anifeiliaid penodol mewn sefydliadau sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Datblygwyd y canllawiau hyn yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ganiatáu cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn sefydliadau bwyd.
Bwyd anifeiliaid anwes sy'n dod o anifeiliaid
Mae deunyddiau sy'n dod o anifeiliaid a ddefnyddir gan y diwydiant bwyd anifeiliaid anwes yn gyfuniad o rannau o anifeiliaid sy'n weddillion o fwyd a gaiff ei fwyta gan bobl, neu na chânt eu bwyta fel arfer gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU).
Mae'r deunyddiau hyn yn dod o anifeiliaid sy'n cael eu harchwilio a'u cymeradwyo i'w bwyta gan bobl cyn eu lladd. Mae'n rhaid nad oes afiechydon trosglwyddadwy yn y deunyddiau, sydd felly'n eithrio deunyddiau o anifeiliaid sy'n marw, rhai sydd ag afiechydon neu anifeiliaid anabl.
DEFRA sy'n gyfrifol am unrhyw ddeunydd anifeiliaid o'r fath nad yw ar gyfer pobl. Caiff y deunydd hwn ei ddosbarthu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid dan Reoliad y Comisiwn Ewropeaidd 1069/2009 ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Rhagor o wybodaeth am y diwydiant sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Ychwanegion mewn bwyd anifeiliaid anwes
Mae bwyd anifeiliaid anwes yn destun mesurau rheoli tebyg i'r rheiny ar gyfer bwyd anifeiliaid ar gyfer da byw sy'n cael ei ffermio o ran yr ychwanegion a lefel y sylweddau annymunol a ganiateir. Yn gyffredinol, prif ran yr asesiad risg wrth osod y lefelau uchaf a ganiateir o ran sylweddau annymunol ar gyfer anifeiliaid anwes yw i ba raddau gall yr anifail eu dioddef.
Marchnata bwyd anifeiliaid anwes
Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio rhai honiadau ar fwyd anifeiliaid, ac mae nifer o'r rhain yn berthnasol i fwyd anifeiliaid anwes.
Mae enghreifftiau o'r honiadau hyn yn cynnwys:
- cefnogi gweithrediad arennol mewn achosion o ddiffyg ar yr arennau
- lleihau anhwylderau amsugnol acíwt y coluddion
- rheoli cyflenwad glwcos a chefnogi'r croen gyda dermatosis
- colli llawer o wallt.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Reoliad 2020/354 yr UE a ddargedwir (EU retained law), sy'n cynnwys rhestr o ddefnyddiau bwriedig bwyd anifeiliaid ar gyfer buddiannau maethol penodol. Mae hefyd yn gosod amodau o ran eu defnydd.
Ar gyfer rheolaethau ar reoli ychwanegion bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid anwes, cymerwch gip ar y ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid.
Os ydych chi'n gwneud cynnyrch bwyd anifeiliaid anwes, yna bydd hefyd gofyn i chi gael eich cymeradwyo gan APHA.