Mae'r broses awdurdodi wedi'i gosod yn Rheoliad 1831/2003 ac mae angen:
- gwerthusiad gwyddonol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA)
- awdurdodiad y Comisiwn Ewropeaidd, mewn cytundeb ag Aelod-wladwriaethau
Mae Rheoliad 1831/2003 yn gosod amodau ar ddefnyddio ychwanegion a darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rhag-gymysgeddau y mae'n rhaid cadw atynt.
Dylech nodi nad yw ychwanegion sydd wedi'u hawdurdodi mewn gwledydd y tu allan i'r UE wedi'u hawdurdodi'n awtomatig i'w defnyddio yn y Deyrnas Unedig (DU) nac unrhyw le arall yn yr UE.
Pwysig
Categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid
Gellir gosod ychwanegion ar y farchnad a'u defnyddio at y diben a nodir yn yr awdurdodiad yn unig.
Mae'r Rheoliad yn cynnwys y categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid canlynol:
- ychwanegion technolegol e.e. cyffeithyddion
- ychwanegion synhwyraidd e.e. cyflasynnau a lliwiau
- ychwanegion maeth e.e. fitaminau a mwynau
- ychwanegion swo-technegol (ychwanegion a ddefnyddir i effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad anifeiliaid iach), e.e. ensymau a micro-organebau
- cocsidiostatau a histomonostatau
Yn flaenorol, roedd defnyddio gwrthfiotigau fel ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael ei ganiatáu. Bellach, mae'r defnydd ohonynt wedi'i wahardd (ac eithrio cocsidiostatau a histomonostatau)..
Ychwanegion sydd wedi'u hawdurdodi
Caiff yr holl ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi'u hawdurdodi ar hyn o bryd eu rhestru yn Atodiad I Cofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid yr Undeb Ewropeaidd gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'r Gofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol o ran statws ychwanegion bwyd. Mae'n darparu gwybodaeth am anifeiliaid y mae'r ychwanegyn wedi'i awdurdodi ar eu cyfer, a'r amodau perthnasol ar gyfer eu defnyddio. Gall rhai cyfyngiadau defnyddio penodol gynnwys gosod lefelau uchaf a ganiateir, neu i'w defnyddio mewn dŵr yfed.
Os ydych yn dymuno awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid, bydd angen i chi gyflwyno:
- cais awdurdodi i'r Comisiwn Ewropeaidd
- dogfen (dossier) dechnegol i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop
- tri sampl ychwanegion bwyd anifeiliaid i Labordy Cyfeirio Ewrop (EURLs)
Mae canllawiau ar wefan y Comisiwn am y broses y dylid ei dilyn. Mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn gyfrifol am werthuso pob dogfen dechnegol, ac mae rhagor o fanylion ar gael ar eu gwefan.
O dan Reoliad 1831/2003,caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu hawdurdodi'n gyffredinol am gyfnod o ddeng mlynedd. Yn flaenorol; o dan ddeddfwriaeth hŷn, roedd rhai ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cael eu hawdurdodi heb ddyddiad terfyn. Roedd yn rhaid i weithredwyr busnesau bwyd gyflwyno cais i ail-awdurdodi’r ychwanegion hynny erbyn 2010.
Dylech gyfeirio at Reoliadau 2017/1145 am wybodaeth am dynnu rhai ychwanegion bwyd anifeiliaid awdurdodedig penodol yn ôl o'r farchnad.
Canthaxanthin mewn bwyd anifeiliaid
Gellir defnyddio canthaxanthin mewn bwyd anifeiliaid i roi lliw i gynhyrchion bwyd i'w bwyta gan bobl, megis mewn dofednod a wyau ac i wella lliw adar a physgod addurnol..
Mae canthaxanthin yn perthyn i grŵp o sylweddau naturiol o'r enw cartenoidau, er y caiff ffurfiau ychwanegion bwyd anifeiliaid presennol yr UE eu cynhyrchu'n synthetig. Caniateir presenoldeb canthaxanthin mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer dofednod, a all arwain at liw dyfnach i felynwy a chroen/braster dofednod.
Caniateir canthaxanthin hefyd mewn bwyd anifeiliaid hefyd i wella lliw plu adar addurnol, a lliw chroen pysgod addurnol. Mae'r rheolaethau sydd ar waith ar gyfer anifeiliaid fferm yn seiliedig ar asesiadau diogelwch sy'n ystyried goblygiadau i'r anifeiliaid a'r defnyddwyr.
Lefelau uchaf o canthaxanthin mewn bwyd anifeiliaid
Cynhaliwyd asesiad canthaxanthin gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn 2014. Roedd yn cynnwys pennu lefelau diogel a'r lefelau uchaf a ganiateir mewn bwyd anifeiliaid.
- ar gyfer adar sy'n dodwy wyau; megis ieir, gellir ychwanegu canthaxathin at fwyd anifeiliaid hyd at uchafbwynt o 8mg fesul cilogram (mg/kg)
- ar gyfer dofednod eraill a gaiff eu magu i gynhyrchu cig, y lefel uchaf a ganiateir yw 25mg/kg, a 100mg/kg mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pysgod ac adar addurnol
Diddymwyd yr hawl i ddefnyddio canthaxanthin fel lliw bwyd anifeiliaid ar gyfer eog a brithyll, pysgod eraill, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd eraill yn 2015.
Mae canthaxanthin hefyd wedi'i awdurdodi fel lliw bwyd. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad i labelu canthaxanthin mewn bwyd sy'n dod o anifeiliaid lle'r oedd y sylwedd hwn wedi'i gynnwys yn eu deiet.