Deddfwriaeth bwyd anifeiliaid
Mae deddfwriaeth ar fwyd anifeiliaid yn berthnasol i ystod eang o fusnesau a gweithgareddau bwyd anifeiliaid. Mae'r dudalen hon yn cynnwys canllawiau pellach ar y brif ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar fusnesau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.
Mae deddfwriaeth yn berthnasol o’r cam cynhyrchu cynradd i’r cam lle caiff bwyd anifeiliaid ei roi ar y farchnad a bwydo anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd. Mae'r wybodaeth ganlynol yn cynnwys y brif ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer diwydiant y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Prif reoliadau
- 178/2002 ar egwyddorion cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
- 183/2005 yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid
- 767/2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio
- 1831/2003 ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
- 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM)
- 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
- 2020/354 yn sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol
Rheoliad 178/2002 ar egwyddorion cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
Mae Rheoliad 178/2002 yn diffinio bod 'cyfraith bwyd' yn cynnwys cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd. Mae'n diffinio 'busnes bwyd anifeiliaid' fel unrhyw fusnes sy'n cyflawni unrhyw fath o gynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu, storio, cludo, neu ddosbarthu bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu, prosesu neu storio bwyd anifeiliaid.
Mae Erthyglau 15-18 a 20-21 yn nodi gofynion diogelwch bwyd, y gallu i olrhain, a chyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid.
Rheoliad 183/2005 sy'n nodi'r gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid
Mae Rheoliad 183/2005 yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o fusnesau sy'n ymwneud â defnyddio, gweithgynhyrchu neu farchnata bwyd anifeiliaid gael eu cymeradwyo neu eu cofrestru gyda'u hawdurdod cymwys.
Mae'n gosod safonau mewn perthynas â chludo a storio bwyd anifeiliaid, cynnal a chadw offer, hyfforddi staff, a chadw cofnodion.
Mae busnesau bwyd anifeiliaid yn cynnwys:
- mewnforwyr a masnachwyr deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid wedi'i weithgynhyrchu (gan gynnwys masnachwyr sy'n prynu'n uniongyrchol gan ffermwyr)
- gweithgynhyrchwyr bwyd sy'n gwerthu deunydd i mewn i'r gadwyn fwyd anifeiliaid
- cludwyr ffordd a chwmnïau cludo sy'n cludo bwyd anifeiliaid
- da byw a rhai ffermwyr âr
- masnachwyr nad ydynt yn cadw stoc ar eu safle neu froceriaid.
Mae rhai eithriadau, gan gynnwys
- pobl sy'n cynhyrchu neu’n storio bwyd anifeiliaid
- pobl sy'n bwydo anifeiliaid i'w bwyta eu hunain
- pobl sy’n cadw anifeiliaid nad ydynt at ddibenion cynhyrchu bwyd
- cynhyrchydd yn cyflenwi ‘symiau bach’ o gynhyrchion cynradd ar lefel leol yn uniongyrchol i ffermydd lleol
- manwerthu bwyd anifeiliaid anwes.
Rydym ni hefyd yn darparu canllawiau penodol ar gyfer busnesau bwyd a diod – cyflenwi i'r gadwyn bwyd anifeiliaid.
Rheoliad 767/2009 ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid
Mae Rheoliad 767/2009 yn nodi'r gofynion ar gyfer marchnata, labelu a chyfansoddiad bwyd anifeiliaid, ac yn cynnwys darpariaethau sydd â'r bwriad o ddiogelu iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae'n darparu y gellir rhoi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio dim ond os yw'n ddiogel ac os nad yw'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd neu ar les anifeiliaid.
Mae'r rheoliad hefyd yn darparu Catalog o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid a Chodau Ymarfer ar gyfer labelu. Mae'r Catalog o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid wedi'i gyhoeddi fel Rheoliad 68/2013.
Rheoliad 1831/2003 ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
Mae Rheoliad 1831/2003 yn amlinellu:
- rheolau ar awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid
- amodau defnyddio ar gyfer ychwanegion
- darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid a'u rhag-gymysgeddau y mae'n rhaid cadw atynt
Mae'r rheoliad yn cwmpasu'r categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid canlynol (gydag enghreifftiau o'u grwpiau swyddogaethol):
- ychwanegion technolegol (fel cyffeithyddion neu preservatives)
- ychwanegion synhwyraidd (fel cyflasynnau (flavourings) a lliwiau
- ychwanegion maeth (fel fitaminau a mwynau)
- ychwanegion sootechnegol (fel ensymau a micro-organebau a ddefnyddir i effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad anifeiliaid iach)
- cocsidiostatau a histomonostatau (i reoli parasitiaid perfedd)
Rheoliad Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig
Mae Rheoliad 1829/2003 yn sefydlu gweithdrefn ganolog ar gyfer asesu'n wyddonol ac awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM). Mae'r gweithdrefnau asesu yn cwmpasu'r GMO ei hun a'r bwyd a'r bwyd anifeiliaid sy'n deillio ohono.
Mae'r Rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i labelu bob bwyd a bwyd anifeiliaid GM sy'n cynnwys GMOs neu a gynhyrchir o gynhwysion a gynhyrchwyd o GMOs, waeth p'un a oes deunydd GM yn y cynnyrch terfynol ai peidio. Ceir trothwy o 0.9% ar gyfer presenoldeb GMOs ac nid oes angen eu labelu os yw’r lefelau’n is na’r trothwy hwn, cyhyd â nad oes modd osgoi ei bresenoldeb yn dechnegol.
Rheoliad 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
Mae Rheoliad 2017/625 yn amlinellu’r rheolaethau swyddogol a gyflawnir er mwyn sicrhau y caiff cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei dilysu.
Mae'r Rheoliad hwn yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a’r pwerau galluogi ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol, ac mae'n manylu ar y dull y dylai awdurdod gorfodi ei ddefnyddio wrth wirio cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a rheolau iechyd a lles anifeiliaid.
Rheoliad 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol
Dim ond os yw'r defnydd a fwriedir wedi'i gynnwys yn y rhestr o ddefnyddiau a fwriedir ac os yw'n bodloni'r nodweddion maethol hanfodol at y diben maethol penodol a nodir ar y rhestr honno, y gellir marchnata bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUTs). Gellir gweld y rhestr o PARNUTs awdurdodedig yn Rheoliad 2020/354.
Deddfwriaeth genedlaethol
Mae deddfwriaeth genedlaethol yn berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu pwerau ar gyfer deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir (retained EU law). Mae deddfwriaeth baralel ond ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru)
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ac ati, a Gorfodi) (Cymru)
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliadau.
Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gyfrifol am fesurau ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid a rheoli enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs).
Mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn gyfrifol am ddeddfwriaeth meddyginiaethau milfeddygol.
Dyma ragor o wybodaeth am ddechrau busnes bwyd anifeiliaid.