Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Busnesau bwyd a diod – cyflenwi i'r gadwyn fwyd anifeiliaid

Gofynion y mae’n rhaid i fusnesau bwyd a diod sy'n cyflenwi cynhyrchion bwyd i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid gydymffurfio â nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd a diod sy'n cyflenwi cynhyrchion bwyd i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid, gydymffurfio â gofynion y Rheoliad Hylendid Bwyd (183/2005). Mae hyn yn gymwys p'un a yw cynhyrchion yn cael eu cyflwyno drwy brosesydd bwyd neu eu hanfon yn uniongyrchol at ffermydd.

Mae busnesau sy'n darparu cynhyrchion bwyd ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes hefyd wedi'u cynnwys yn y gofynion hyn. Mae hefyd rhaid i fusnesau weithredu system Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) sy'n briodol i'r gweithgarwch a gyflawnir.

Mae’r gofynion hyn wedi'u dylunio i ddiogelu'r cadwyni bwyd a bwyd anifeiliaid ac i sicrhau'r gallu i olrhain cynhyrchion. Maent yn cynnwys rhwymedigaeth i fusnesau gofrestru â'r awdurdod gorfodi perthnasol. Maent fel a ganlyn:

  • Safonau Masnach Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac yn Lloegr
  • yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon 

Canllawiau Rheoliad Hylendid Bwyd Anifeiliaid

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, ac i safleoedd sy'n cyflenwi deunyddiau i'w defnyddio ar gyfer bwyd anifeiliaid gan gynnwys:
  • mewnforwyr
  • gweithgynhyrchwyr a phroseswyr
  • manwerthwyr
  • arlwywyr 
Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r ASB

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE), er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig. 

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.