Deunyddiau a addaswyd yn enetig (GM) mewn bwyd anifeiliaid
Meini prawf cyfreithiol y mae'n rhaid i gynhyrchion bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM) eu bodloni er mwyn cael eu marchnata yn y Deyrnas Unedig (DU).
Awdurdodi bwyd anifeiliaid GMO
Wrth ymdrin â chynhyrchion a addaswyd yn enetig (GM) neu gynnyrch sy'n dod o ffynonellau GM i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r broses asesu ac awdurdodi.
Cyn y gellir marchnata bwyd neu gynnyrch bwyd anifeiliaid organeb GM (GMO) ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid iddo fod wedi’i awdurdodi o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (retained UE law) ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses awdurdodi a rhestr o GMOs wedi'u hawdurdodi, ar gyfer GMOs yn ein canllawiau ar gynhyrchion wedi’u rheoleiddio.
Mae bwyd anifeiliaid GM sy'n annhebygol iawn o gynnwys GMOs byw, yn cael ei dreulio gan anifeiliaid yn yr un ffordd â bwyd anifeiliaid arferol. Caiff bwyd o anifeiliaid sy'n cael eu bwydo â chnydau GM awdurdodedig ei ystyried i fod yr un mor ddiogel â bwyd o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo â chnydau nad ydynt yn rhai GM.
Labelu GM mewn bwyd anifeiliaid
Mae'n rhaid i ddeunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau GM neu sy'n deillio o ddeunyddiau GM nodi hynny ar y label.
Nid yw labelu'n ofynnol ar gyfer llwythi (consignments) bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys olion annisgwyl neu olion nad oes modd eu hosgoi yn dechnegol o ddeunydd GM – sy'n cynnwys llai na 0.9% o amrywiaethau GM cymeradwy.
Nwyddau GM
Mae nifer fawr o blanhigion GM nad ydynt wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio ym Mhrydain Fawr, sydd wedi'u cymeradwyo i'w tyfu mewn rhannau eraill o'r byd. Mae hyn yn cynnwys amrywiaethau o:
- gotwm
- indrawn (maize)
- olew hadau rêp
- reis
- ffa soia
Mae diwydiant bwyd anifeiliaid y DU yn mewnforio mwy na 70% o'r indrawn, y soia a'r hadau rêp sydd ei angen arno bob blwyddyn. Caiff lefelau sylweddol o indrawn, ar ffurf grawn distyllu sych a bwyd anifeiliaid corn glwten, eu mewnforio o Unol Daleithiau America, a bydd llawer o hwn yn GM. Mae'r Unol Daleithiau hefyd yn cyflenwi'r DU â betys siwgr.
Ni chaiff cnydau GM a chnydau nad ydynt yn GM eu cadw ar wahân yn rheolaidd ar ôl eu cynaeafu ac wrth eu cludo, eu storio a'u defnyddio gan wledydd sy'n allforio nwyddau, ond gellir gwneud hyn am gost ychwanegol. Bydd y pris ychwanegol a delir yn amrywio gan ddibynnu ar gyflwr marchnadoedd y nwyddau a natur y galw am y cynhyrchion terfynol. Mae hyn yn cynnwys llaeth, cig a wyau i'w bwyta gan bobl.
Er mwyn ymdrin â phresenoldeb posibl amrywiaethau anawdurdodedig mewn mewnforion o gnydau i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae mesur yng nghyfraith yr UE a ddargedwir Rheoliad 619/2011 sy’n gosod lefel goddefiant o 0.1% ar gyfer amrywiaethau penodol lle mae cais awdurdodi dilys wedi'i wneud.
Trosglwyddo deunydd GM o fwyd anifeiliaid
Mae nifer o astudiaethau wedi ystyried y posibilrwydd bod genynnau gweithredol sydd wedi'u trosglwyddo'n naturiol o ddeunyddiau a ddaw o fwyd anifeiliaid GM yn cyrraedd cynhyrchion da byw i'w bwyta gan bobl, er enghraifft llaeth, cig a wyau.
Mae genynnau a phroteinau sy'n weithredol yn fiolegol yn gyfansoddion bwyd a bwyd anifeiliaid cyffredin, ond rydym ni'n gwybod bod proses dreulio anifeiliaid a phobl yn dinistrio eu DNA yn gyflym. Mae'r darnau o DNA sydd yna'n cael eu hamsugno o'r coluddion i'r corff yn broses ffisiolegol arferol.
Yn 2007, cynghorodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) bod nifer fawr o astudiaethau arbrofol gyda da byw wedi dangos na chanfuwyd darnau o DNA wedi'u hail-gyfuno'n enetig, na phroteinau sy'n dod o blanhigion GM, mewn meinweoedd, hylifau na chynhyrchion bwytadwy o anifeiliaid fferm – gan gynnwys brwyliaid, gwartheg, moch a soflieir (quails). Ieir yw brwyliaid a gaiff eu magu i gynhyrchu cig. Nid ydynt yn dodwy wyau.
Mae felly'n bosibl y caiff darnau o DNA sy'n dod o ddeunyddiau planhigion GM eu canfod weithiau mewn meinweoedd anifeiliaid. Yn yr un modd, gellir canfod darnau DNA sy'n dod o ddeunyddiau planhigion nad ydynt yn GM yn yr un meinweoedd.
Nododd EFSA nad oes unrhyw dechneg ar gael ar hyn o bryd a fyddai'n golygu bod modd olrhain cynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys cig, llaeth a wyau, mewn ffordd ddilys a dibynadwy pan fo'r anifail cynhyrchu wedi'i fwydo â deiet sy'n cynnwys planhigion GM.
Canllawiau rheoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid GM
Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r Asiantaeth
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE), er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.
Hanes diwygio
Published: 5 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Ionawr 2023