Cofrestr o geisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig
Rhestr o’r ceisiadau a ddaeth i law drwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig
Rhestr o’r ceisiadau a ddaeth i law drwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig
Mae’r gofrestr gyhoeddus hon yn rhestru’r ceisiadau a ddaeth i law trwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig ac yr ydym yn eu hasesu ar hyn o bryd. Dim ond y ceisiadau hynny sydd wedi bodloni’r gwiriadau cychwynnol sy’n cael eu rhestru, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol (hynny yw, sydd wedi eu dilysu), yn hytrach na rhestru pob un cais a gyflwynwyd. Mae’r gofrestr yn cynnwys peth manylion am yr ymgeisydd a’r cynnyrch ei hun, ac mae hefyd yn dangos cam cyfredol y cais.
Bydd y gofrestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i geisiadau gael eu dilysu a’u symud i’r camau asesu pellach.
Diweddarwyd y rhestr ddiwethaf ar 4 Rhagfyr 2023.
Dyma rif adnabod y cynnyrch rheoleiddiedig a ddefnyddir ar gyfer pob cais a gofnodir yn ein gwasanaeth ymgeisio am gynnyrch wedi’i reoleiddio.
Mae 12 math o gynnyrch wedi’i reoleiddio y gellir ymgeisio amdanynt:
Dyma enw’r cwmni sydd wedi gwneud cais i’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio.
Dyma enw penodol y cynnyrch y mae’r ymgeisydd yn ceisio awdurdodiad ar ei gyfer.
Dyma drosolwg o’r math o gais a phwrpas y cais.
Mae hyn yn cyfeirio at y cam gwerthuso y mae’r cais arno ar hyn o bryd: