Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Awdurdodau lleol

Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol yn y DU i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn onest. Mae gennym gytundebau a phrotocolau ar waith i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith a rhoi arweiniad i esbonio’r rheoliadau a sut y gellir eu cymhwyso i fusnesau bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2018
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2018
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dewch o hyd i Godau Ymarfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd lleol

Hwyluso Cyfathrebu yr ASB

Fel rhan o ddatblygu’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ag awdurdodau lleol yn barhaus, ac yn darparu adnoddau iddynt er mwyn cyflawni eu rolau’n effeithiol, rydym wedi creu llwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB; llwyfan i alluogi cyfathrebu, cydweithio ac adnoddau sydd wedi’u targedu at swyddogion awdurdodau lleol sy’n gweithio ym meysydd gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid.

Y llwyfan hon fydd y prif borth i awdurdodau lleol ddod o hyd i adnoddau fel ffurflenni, templedi, pecynnau cymorth a chanllawiau. Bydd swyddogion hefyd yn gallu dewis pa fath o gyfathrebiadau maen nhw’n ei dderbyn gennym ni a pha mor aml.

I ddefnyddio llwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB mae angen i chi greu cyfrif. Dylai swyddogion awdurdodau lleol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost gwaith swyddogol er mwyn cael mynediad ar unwaith; bydd rhanddeiliaid â diddordeb yn gorfod cael cymeradwyaeth gan weinyddwr y system. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB.

Gallwch weld yr archif o lythyrau gorfodi a anfonwyd gennym at awdurdodau lleol yn yr Archifau Cenedlaethol.

Cefnogi awdurdodau lleol

Rydym yn darparu canllawiau a fframweithiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson wrth orfodi’r cyfreithiau perthnasol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys Codau Ymarfer, Cytundebau Fframwaith a Chanllawiau Ymarfer.

Cytundeb Fframwaith

Mae’r Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol (Saesneg yn unig) yn rhoi ffordd i ni arfer ein pwerau o dan y Ddeddf Safonau Bwyd er mwyn dylanwadu ar weithgarwch gorfodi awdurdodau lleol a’i oruchwylio.

Mae’r Cytundeb yn nodi manylion am y canlynol:

  • cynlluniau gwasanaethau lleol sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cynyddu tryloywder gwasanaethau gorfodi lleol
  • safonau gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid y cytunwyd arnynt ar gyfer awdurdodau lleol
  • camau monitro data gwell gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau arolygiadau ac sy’n rhoi gwybodaeth fanylach ar berfformiad awdurdodau lleol
  • cynllun archwilio gyda’r nod o sicrhau gwelliannau a rhannu arferion da

Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol

Mae’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol ar gyfer bwyd anifeiliaid ac ar gyfer hylendid bwyd ar lefel cynhyrchu cynradd yn cael eu datblygu’n flynyddol mewn ymgynghoriad â’r canlynol:

  • cynrychiolwyr awdurdod lleol 
  • Safonau Masnach Cenedlaethol 
  • arweinwyr bwyd anifeiliaid rhanbarthol 
  • Panel Amaethyddiaeth Cenedlaethol 
  • Aelodau Panel Cenedlaethol Bwyd Anifeiliaid mewn Porthladdoedd 

Mae ymgorffori’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol i raglen o reolaethau swyddogol yn helpu i gynnal gwelliannau o ran lefelau cydymffurfio gan weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid drwy orfodi ar sail gwybodaeth. Nod hyn yw:

  • cynnal cydraddoldeb ar gyfer busnesau onest a diwyd, sydd er budd y diwydiant bwyd anifeiliaid yn ei gyfanrwydd
  • lleihau beichiau diangen ar fusnesau drwy ganolbwyntio gweithgarwch awdurdodau lleol ar feysydd cytunedig sy’n peri’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl a/neu iechyd anifeiliaid
  • creu dull ymyrryd hyblyg ac effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth, wrth gynnal lefelau priodol o fonitro cydymffurfiaeth ledled Cymru a Lloegr
  • gwireddu ein nod strategol o ‘Fwyd y Gallwn Ymddiried Ynddo’ 
  • gwella ansawdd a chysondeb rheolaethau swyddogol ledled Cymru a Lloegr
  • diogelu iechyd anifeiliaid a/neu iechyd y cyhoedd
 

Deunyddiau canllaw ategol ar gyfer swyddogion gorfodi

Yn ogystal â’r Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer, rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw annibynnol ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym, datblygiad mewn polisi neu mewn ymateb i ddigwyddiad.

Mae’r Canllaw ar Gyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (diweddarwyd Ionawr 2018) yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn amlinellu sut mae’r cyfrifoldeb am gyfraith bwyd yn y DU wedi’i rannu, diweddariadau ar ddeddfwriaeth sydd wedi’i diwygio, deddfwriaeth sydd ar y gweill a deddfwriaeth sydd wedi’i chanslo

Hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi

Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi ar nifer o wahanol bynciau gan gynnwys: 

  • samplu 
  • labelu
  • diogelwch bwyd
  • hylendid a safonau
  • diogelwch bwyd anifeiliaid
  • gallu i olrhain

Mae dolenni i ddeunyddiau hyfforddi a chyrsiau ar-lein ar gyfer swyddogion gorfodi ar gael drwy lwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB, ein porth adnoddau a chyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol.

Monitro gweithgarwch awdurdodau lleol

Fel rheoleiddiwr, mae angen i ni fonitro’r hyn mae awdurdodau lleol yn ei ddarganfod yn ystod eu gweithgareddau gorfodi. Bob blwyddyn, mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho data a gynhyrchir drwy eu systemau i’n platfform ar-lein o’r enw LAEMS (System Monitro Gorfodi Awdurdodau Lleol).

Yna mae’r data sy’n cael ei uwchlwytho i LAEMS yn cael ei gyfuno a’i rannu’n gategorïau fel ymyriadau, samplu a gorfodi. Unwaith y bydd y data wedi’i gadarnhau, gellir ei werthuso a’i gyhoeddi.

System Monitro Gorfodi Awdurdodau Lleol – data

Mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae adroddiadau o flynyddoedd cynharach ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Cymru

Y Llawlyfr Safonau Bwyd 
Mae’r Llawlyfr Safonau Bwyd yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol i ddeddfwriaeth a nodiadau canllawiau. Nod y llawlyfr hwn yw helpu swyddogion diogelwch bwyd i ddod yn fwy cyfarwydd â deddfwriaeth safonau bwyd a’r canllawiau cysylltiedig. Dylai’r llawlyfr roi trosolwg o gamau gweithredu ymarferol deddfwriaeth safonau bwyd, gorfodi’r ddeddfwriaeth a galluogi swyddogion i nodi ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.