Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Gwybodaeth am godau ymarfer a chanllawiau ymarfer cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a’r Fframwaith Cymyseddau ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r Asiantaeth

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd bob amser yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig. 

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch chi weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

Pwysig

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd. Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn a gweithredu'r adrannau perthnasol o'r Cod sy'n berthnasol.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Cymru (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid yn rhoi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid. Mae angen i awdurdodau bwyd anifeiliaid ddilyn a gweithredu adrannau perthnasol y Cod sy'n berthnasol iddynt.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Northern Ireland

Lloegr

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Canllawiau Ymarfer

Rydym ni’n cyhoeddi Canllawiau Ymarfer sy'n anstatudol sy’n cyd-fynd â'r Cod Ymarfer statudol. Mae'r rhain yn darparu cyngor cyffredinol ar y dull o orfodi'r gyfraith.

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Fframwaith Cymwyseddau

Gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cyflenwi rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau’n nodi'r cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn Cymru, Lloegr, a swyddogion cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, gan ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â'r rhain. Mae'r Fframwaith Cymwyseddau ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu (Smarter Communications) yr ASB (angen mewngofnodi).

Er mwyn cynorthwyo gyda gweithredu'r Fframwaith Cymwyseddau, rydym wedi creu nifer o ddeunyddiau cymorth, sydd hefyd ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB.