Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi gwybodaeth i ddefnyddwyr am fwyd wedi’i brosesu’n helaeth

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi gwybodaeth i ddefnyddwyr mewn perthynas â’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth gyfredol ynghylch bwyd wedi’i brosesu’n helaeth a rôl yr Asiantaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 May 2024

Bu cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus a dadlau yn ddiweddar ynghylch bwydydd wedi’u prosesu’n helaeth (UPF) a’r gydberthynas bosib rhwng bwyta llawer o UPF ac iechyd gwaeth.

Mae’r llywodraeth yn cynghori defnyddwyr i ddilyn y Canllaw Bwyta’n Dda, sy’n dangos faint o’r hyn rydyn ni’n ei fwyta ddylai ddod o bob grŵp bwyd er mwyn cael deiet iach a chytbwys.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar Fwyd, Deiet a Gordewdra ar 9 Mai, siaradodd yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, am bwysigrwydd gwybodaeth glir i ddefnyddwyr.

Trwy ein hymchwil, rydym yn ymwybodol bod pryder a dryswch y cyhoedd ynghylch UPF, a phrosesu bwyd yn fwy cyffredinol, wedi cynyddu’n sylweddol.

Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, mae gennym gyfrifoldeb i roi ffeithiau clir i alluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus, yn seiliedig ar wyddoniaeth gyfredol.

Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol