Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Allforio bwyd anifeiliaid na fyddai’n cael ei ganiatáu i’w roi ar y farchnad yn y DU

Gellir allforio bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio â deddfwriaeth Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon os caiff gofynion penodol eu bodloni.

Caniateir allforio bwyd anifeiliaid os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth y wlad gyrchfan

or

  • mae’r bwyd anifeiliaid yn ddiogel ac yn cael ei ganiatáu’n benodol gan awdurdod cymwys y wlad gyrchfan

Dylai gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid gadw gwybodaeth olrhain a thystiolaeth sy’n dangos y gall cynhyrchion sy’n cael eu hallforio gael eu rhoi ar y farchnad yn gyfreithlon yn y wlad gyrchfan.

Os bydd allforwyr am roi gwybod ymlaen llaw i awdurdodau lleol sy’n rheoleiddio'r allforion, gallant wneud hyn drwy gysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am borthladdoedd trwy nodi cod post y porthladd ymadael ym Mhrydain Fawr ar y dudalen Dod o Hyd i’ch Swyddfa Safonau Masnach Leol ar wefan y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI).