Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Gall mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion pysgodfeydd olygu peryglon posib, a dylai pob busnes sy’n ymwneud â’r broses hon fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae hyn yn cynnwys y grwpiau bwyd canlynol:

  • cig, gan gynnwys cig ffres, cynhyrchion cig, cig wedi’i friwio (minced meat), paratoadau cig, cig dofednod (poultry), cwningen, cig anifeiliaid hela a gaiff eu ffermio a chig anifeiliaid hela gwyllt
  • wyau a chynhyrchion wyau
  • llaeth a chynhyrchion llaeth
  • gelatin mêl a chynhyrchion gelatin

Mae’n rhaid dilyn rheolau tebyg wrth fewnforio cynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.

Dyma ddiffiniad o gynnyrch cyfansawdd:

  • bwyd sy’n cynnwys cynhyrchion anifeiliaid wedi’u prosesu a chynhyrchion sy’n dod o blanhigion, er enghraifft, salami
  • lle mae prosesu’r cynnyrch cynradd yn hanfodol er mwyn cynhyrchu’r bwyd terfynol

Mewnforio i Brydain Fawr o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a fewnforir o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las i Brydain Fawr, a’r rheolau mewnforio a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA) ac, yn gryno:

  • mae’r tablau’n dangos y categorïau risg BTOM a’r cyfraddau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las
  • bydd Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las yn dilyn rheolau SPS yr UE ar gyfer rhai nwyddau, fel cynhyrchion pysgodfeydd. Bydd mewnforion eraill o Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las yn parhau i ddilyn y rheolau mewnforio ar gyfer gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30% – darllenwch ragor o wybodaeth am gyfraddau amlder nwyddau risg ganolig

Ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth.

Mae’n rhaid i bob cynnyrch risg ganolig a fewnforir sy’n dod o anifeiliaid ddod ynghyd â Thystysgrif Iechyd Allforio.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fewnforio POAO ar y dudalen Mewnforio bwyd a diod o’r UE i Brydain Fawr ar GOV.UK.

Mewnforio i Brydain Fawr o wledydd nad ydynt yn yr UE

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforir o wlad nad yw’n rhan o’r UE i Brydain Fawr, y rheolau mewnforio, a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o wledydd nad ydynt yn yr UE.

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30%
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Rhaid i fasnachwyr:

  • hysbysu’r safle rheoli ar y ffin (BCP), sydd wedi’i ddynodi i wirio’ch nwydd, trwy’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), cyn i unrhyw lwythi POAO gyrraedd
  • cyflwyno’r dogfennau perthnasol i’r BCP, gan gynnwys tystysgrif iechyd wreiddiol. Mae’r math o dystysgrif sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o gynnyrch a’r wlad tarddiad
  • cyflwyno’r nwyddau i’r BCP er mwyn gallu cynnal gwiriadau milfeddygol
  • talu’r holl gostau ar gyfer arolygu’r nwyddau, a chadw’r CHED, a roddir wrth glirio nwyddau, am flwyddyn o’r adeg y mae’r nwyddau’n cyrraedd eu cyrchfan gyntaf ym Mhrydain Fawr

Ceir mwy o wybodaeth am ofynion mewnforio ar GOV.UK.

Nid oes angen i unrhyw ychwanegion bwyd sy’n cael eu pecynnu ar gyfer y defnyddiwr terfynol ac sy’n cynnwys glwcosamin, chondroitin, neu chitosan, gael eu mewnforio drwy BCP ac nid ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol.

Safleoedd Rheoli ar y Ffin

Mae Safleoedd Rheoli ar y Ffin (BCPs) yn trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n destun rheolaethau mewnforio wrth gyrraedd Prydain Fawr. Ni fydd nwyddau sy’n methu’r gwiriadau hyn yn cael dod i mewn i’r DU, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu dinistrio.

Mewnforio samplau prawf o fwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid 

Mae hyn yn cynnwys cig, mêl neu gynhyrchion llaeth. 

Os ydych chi am fewnforio samplau o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, mae’n rhaid i chi wirio beth a ganiateir a faint ohono a llenwi ffurflen awdurdodi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Dewch o hyd i’r ffurflen gais ar gyfer awdurdodi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a’i lawrlwytho.

Os yw APHA yn rhoi awdurdodiad i chi sy’n eithrio’ch cynnyrch neu’ch cynhyrchion rhag gwiriadau mewn BCPs, gellir dod â’r samplau hyn i Brydain Fawr heb fod angen unrhyw ardystiad. Ond mae’n rhaid iddynt gynnwys y ffurflen awdurdodi wreiddiol.

Fodd bynnag, os ydynt i’w defnyddio wrth brofi blas, rhaid iddynt fod yn ddiogel i’w bwyta gan bobl. Rhaid hefyd sicrhau:

  • nad ydynt wedi’u halogi
  • eu bod o wlad gymeradwy
  • eu bod wedi’u trin â gwres
  • mai dim ond gweithwyr a chwsmeriaid masnach sy’n eu bwyta (hynny yw cynrychiolwyr cwmnïau a all brynu cynhyrchion yn y dyfodol). Rhaid eu cynghori nad yw’r cynhyrchion wedi bod yn destun gwiriadau bwyd wedi’u mewnforio mewn unrhyw BCP wrth gyrraedd y DU. Ni chyhoeddir awdurdodiadau ar gyfer samplau a fwriedir ar gyfer profi blas gan y cyhoedd

Rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau’n ddiogel ac yn gyfreithlon cyn iddynt gael eu prynu gan gynhyrchwyr a’u mewnforio i’r DU, felly efallai yr hoffent brofi eu cynhyrchion cyn eu mewnforio.

Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy’n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddi cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.

Cymerwch gip ar ein rhestr o Labordai Rheoli Bwyd Swyddogol yn y DU.

Yn ogystal, mae nifer o labordai eraill ym Mhrydain Fawr a thramor a fyddai’n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai’r mewnforiwr drefnu i’r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.