Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar fewnforio cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog yn ddiogel i Brydain Fawr, mesurau rheoli ar y pwynt mynediad a gwybodaeth am farcio adnabod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Rhagfyr 2020
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae rheolau llym ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd, molysgiaid dwygragennog a chynhyrchion sy’n eu cynnwys o du allan i Brydain Fawr.

Mae’r organebau canlynol yn cael eu diffinio fel cynhyrchion pysgodfeydd:

  • cramenogion (crustaceans) – corgimychiaid, cimychiaid, cimychiaid yr afon (crayfish) a berdys (shrimps)
  • seffalopodau – octopws, môr lawes (squid) ac ystifflog (cuttlefish)
  • cynhyrchion dyframaeth – eog, brithyll, corgimychiaid, berdys wedi’u ffermio
  • olewau pysgod – i’w bwyta gan bobl
  • tiwnigogion (tunicates) – chwistrell fôr (sea squirt)
  • echinodermau – crwtyn y môr (sea urchin) a chiwcymbr y môr
  • gastropodau – cregyn moch, gwichiaid a chlustiau môr (whelks, winkles and abalone)

Mae wystrys (oysters), cregyn gleision, cregyn Berffro (clams), cocos a chregyn bylchog (scallops) yn folysgiaid dwygragennog.

Mae molysgiaid dwygragennog yn bwydo drwy hidlo, sy’n golygu bod risg iddynt amlyncu bacteria peryglus. Oherwydd y risg hwn, dim ond o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol. Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf biotocsinau a microbiolegol a amlinellir yn Rheoliad 852/2004.

Os ydych chi’n mewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (gan gynnwys cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog) dylech wirio bod y wlad a’r sefydliad sy’n allforio wedi’u cymeradwyo.

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ganllawiau ar fewnforio ac allforio anifeiliaid dyfrol byw nad ydynt i'w bwyta'n uniongyrchol gan bobl.

Mewnforion o wledydd cymeradwy

Rhaid i fewnforion fodloni'r amodau canlynol:

  • rhaid iddynt ddod o wlad gymeradwy.
  • rhaid iddynt gynnwys ardystiad iechyd allforio wedi'i lofnodi'n briodol.
  • rhaid iddynt ddod o sefydliad neu safle cynhyrchion pysgodfeydd cymeradwy neu ardaloedd cynhyrchu molysgiaid dwygragennog cymeradwy.
  • rhaid iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr drwy Fan Rheoli ar y Ffin dynodedig swyddogol lle cynhelir gwiriadau milfeddygol/hylendid gan Arolygydd Pysgod Swyddogol.
  • rhaid rhoi gwybod am bob llwyth i’r Man Rheoli ar y Ffin ymlaen llaw cyn iddo gyrraedd.
  • bodloni'r amodau iechyd y cyhoedd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog, a’u rhoi ar y farchnad

Mae rhai gwledydd cymeradwy sydd dim ond wedi’u caniatáu i allforio un ai cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog. Felly mae'n bwysig gwybod i ba gategori y mae eich cynnyrch yn perthyn. Gweler Rheoliad 2019/626.

Mesurau rheoli ar y pwynt mynediad i Brydain Fawr o wledydd cymeradwy

Wrth ddod â nwyddau i mewn i Brydain Fawr o'r tu allan, rhaid i fewnforwyr roi gwybod i’r Man Rheoli ar y Ffin ymlaen llaw. Mae mewnforion sy'n cyrraedd yn destun gwiriadau milfeddygol, mae hyn yn cynnwys gwiriadau dogfennol, adnabod a ffisegol yn y Man Rheoli ar y Ffin.

Bydd tâl yn cael ei godi am yr holl wiriadau ar hap gorfodol sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth, ac mae’n rhaid i’r mewnforiwr dalu hwn.

Gall methu â chydymffurfio â rheoliadau arwain at ddychwelyd nwyddau i’r wlad sy’n allforio neu eu dinistrio – gyda’r mewnforiwr yn talu am hyn.

Molysgiaid dwygragennog

Yn Rheoliad 853/2004, mae molysgiaid dwygragennog yn cael eu diffinio fel molysgiaid dwygragennog (lamellibranch) sy'n bwydo drwy hidlo. Mae’r cynhyrchion hyn yn bwydo drwy hidlo sy’n golygu bod perygl iddynt amlyncu bacteria peryglus. Os yw pobl yn bwyta’r cynhyrchion pysgod hyn sy’n cario bacteria peryglus, gallai fod yn niweidiol i’w hiechyd.

Oherwydd y risg hwn, dim ond o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol, a chaiff yr ardaloedd hyn eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf tocsinau a microbiolegol.

Os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, dylech wirio bod y wlad sy’n allforio wedi’i chymeradwyo.

Marciau adnabod

O dan Reoliad 853/2004, mae’n ofynnol bod llwythi (consignments) o gynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog yn arddangos marc adnabod yn unol ag Atodiad II, sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid.

Cyfrifoldeb gweithredwyr busnesau bwyd yw sicrhau nad yw eu cynhyrchion yn peri risg iechyd i'r cyhoedd. Bydd gweithredwr y busnes bwyd yn y man cyrraedd (y safle bwyd yn y DU), yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, yn cynnal system o wiriadau ei hun o dan gynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) wedi’i ddiffinio ymlaen llaw er mwyn bodloni safonau hylendid gofynnol.

Pysgota anghyfreithlon

Mae mewnforion pysgod yn destun rheolau newydd o dan Bysgota Anghyfreithlon, Heb ei Adrodd a Heb ei Reoleiddio.

Mae’n ofynnol bod gan fewnforion dystysgrif sy’n nodi lle y daliwyd y pysgod a bod y llong yn gweithredu’n gyfreithlon. I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar wefan Defra.

Mewnforio cregyn bylchog (scallops) o’r Unol Daleithiau

Dim ond o Dalaith Washington a Massachusetts y caniateir mewnforio molysgiaid dwygragennog, echinodermau, tiwnigogion a gastropodau morol byw, rhai wedi’u rhewi neu rai wedi’u prosesu i’w bwyta gan bobl o’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, gall gweithredwyr busnesau bwyd fewnforio’r cyhyr atynnwr (adductor muscle) o gregyn bylchog (pectinidae/scallops) nad ydynt yn dod o ddyframaeth, ond mae’n rhaid ei wahanu’n gyfan gwbl o’r ymysgaroedd (viscera) a’r gonadau (gonads).

Deddfwriaeth ar fewnforion pysgod

Rheoliad 2019/626 – Sefydlu’r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau lle caniateir mewnforio molysgiaid dwygragennog, echinodermau, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd ohonynt.