Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO)

Penodol i Gymru a Lloegr

Gall mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion pysgodfeydd olygu peryglon posib, a dylai pob busnes sy’n ymwneud â’r broses hon fod yn ymwybodol ohonynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Sylwch fod unrhyw ddolenni i ddeddfwriaeth a ddarperir yn y ddogfen hon er gwybodaeth yn unig, ac efallai nad y fersiwn ddiweddaraf ydynt.

Dylid nodi y gall cyfyngiadau mewnforio gael eu diweddaru oherwydd newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth. Y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am sicrhau bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae hyn yn cynnwys y grwpiau bwyd canlynol:

  • cig, gan gynnwys cig ffres, cynhyrchion cig, cig wedi’i friwio (minced meat), paratoadau cig, cig dofednod (poultry), cwningen, cig anifeiliaid hela a gaiff eu ffermio a chig anifeiliaid hela gwyllt
  • wyau a chynhyrchion wyau
  • llaeth a chynhyrchion llaeth
    mêl
  • gelatin a chynhyrchion gelatin

Mae’n rhaid dilyn rheolau tebyg wrth fewnforio cynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.

Dyma ddiffiniad o gynnyrch cyfansawdd (yn ôl diffiniad Penderfyniad a gymathwyd 2007/275):

  • bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl sy’n cynnwys cynhyrchion wedi’u prosesu sy'n dod o anifeiliaid a chynhyrchion wedi'u prosesu sy’n dod o blanhigion
  • lle mae prosesu’r cynnyrch cynradd yn rhan annatod o gynhyrchu’r cynnyrch terfynol

Mewnforio i Brydain Fawr o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a fewnforir o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las i Brydain Fawr, a’r rheolau mewnforio a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA), Yn gryno:

  • mae’r tablau’n dangos y categorïau risg BTOM a’r cyfraddau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las
  • bydd Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las yn dilyn rheolau SPS yr UE ar gyfer rhai nwyddau, fel cynhyrchion pysgodfeydd. Bydd mewnforion eraill o Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las yn parhau i ddilyn y rheolau mewnforio ar gyfer gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30% – darllenwch ragor o wybodaeth am gyfraddau amlder nwyddau risg ganolig
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth.

Mae’n rhaid i bob cynnyrch risg ganolig a fewnforir sy’n dod o anifeiliaid ddod ynghyd â Thystysgrif Iechyd Allforio.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fewnforio POAO ar y dudalen Mewnforio bwyd a diod o’r UE i Brydain Fawr ar GOV.UK.

Mewnforio i Brydain Fawr o wledydd nad ydynt yn yr UE

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforir o wlad nad yw’n rhan o’r UE i Brydain Fawr, a'r rheolau mewnforio, a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) o wledydd nad ydynt yn yr UE.

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30%
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Rhaid i fasnachwyr:

  • hysbysu’r safle rheoli ar y ffin (BCP), sydd wedi’i ddynodi i wirio’ch nwydd, trwy’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), cyn i unrhyw lwythi POAO gyrraedd
  • cyflwyno’r dogfennau perthnasol i’r BCP, gan gynnwys tystysgrif iechyd wreiddiol. Mae’r math o dystysgrif sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o gynnyrch a’r wlad tarddiad
  • cyflwyno’r nwyddau i’r BCP er mwyn gallu cynnal gwiriadau milfeddygol
  • talu’r holl gostau ar gyfer arolygu’r nwyddau, a chadw’r CHED, a roddir wrth glirio nwyddau, am flwyddyn o’r adeg y mae’r nwyddau’n cyrraedd eu cyrchfan gyntaf ym Mhrydain Fawr

Ceir mwy o wybodaeth am ofynion mewnforio ar GOV.UK.

Nid oes angen i unrhyw ychwanegion bwyd sy’n cael eu pecynnu ar gyfer y defnyddiwr terfynol ac sy’n cynnwys glwcosamin, chondroitin, neu chitosan, gael eu mewnforio drwy arolygfa ffin, ac nid ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol.

Safleoedd Rheoli ar y Ffin

Mae Safleoedd Rheoli ar y Ffin (BCPs) yn trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n destun rheolaethau mewnforio wrth gyrraedd Prydain Fawr. Ni fydd nwyddau sy’n methu’r gwiriadau hyn yn cael dod i mewn i Brydain Fawr, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu dinistrio.

Mewnforio samplau prawf o fwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid 

Os ydych chi am fewnforio samplau o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, mae’n rhaid i chi wirio beth a ganiateir a faint ohono a llenwi ffurflen awdurdodi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Dewch o hyd i’r ffurflen gais ar gyfer awdurdodi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a’i lawrlwytho.

Os yw APHA yn rhoi awdurdodiad i chi sy’n eithrio’ch cynnyrch neu’ch cynhyrchion rhag gwiriadau mewn arolygfeydd ffin, gellir dod â’r samplau hyn i Brydain Fawr heb fod angen unrhyw ardystiad. Mae’n rhaid iddynt gynnwys y ffurflen awdurdodi wreiddiol.

Fodd bynnag, os ydynt i’w defnyddio wrth brofi blas, rhaid iddynt fod yn ddiogel i’w bwyta gan bobl. Rhaid hefyd sicrhau:

  • nad ydynt wedi’u halogi
  • eu bod o wlad gymeradwy
  • eu bod wedi’u trin â gwres
  • mai dim ond gweithwyr a chwsmeriaid masnach sy’n eu bwyta (hynny yw cynrychiolwyr cwmnïau a all brynu cynhyrchion yn y dyfodol). Rhaid eu cynghori nad yw’r cynhyrchion wedi bod yn destun gwiriadau bwyd wedi’u mewnforio mewn unrhyw safle rheoli ar y ffin wrth gyrraedd y DU. Ni chyhoeddir awdurdodiadau ar gyfer samplau a fwriedir ar gyfer profi blas gan y cyhoedd

Rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau’n ddiogel ac yn gyfreithlon cyn iddynt gael eu prynu gan gynhyrchwyr a’u mewnforio i Brydain Fawr, felly efallai yr hoffent brofi eu cynhyrchion cyn eu mewnforio.

Mae dadansoddwyr cyhoeddus, sy’n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddi cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.

Cymerwch gip ar ein rhestr o Labordai Rheoli Bwyd Swyddogol yn y DU.

Yn ogystal, mae labordai eraill ym Mhrydain Fawr a thramor a fyddai’n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai’r mewnforiwr drefnu i’r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.