Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion cyfansawdd

Penodol i Gymru a Lloegr

Diffinnir cynnyrch cyfansawdd mewn deddfwriaeth fel (yn yr iaith wreiddiol) ‘foodstuff intended for human consumption that contains both processed products of animal origin and products of plant origin’.

Yn ôl y diffiniad, mae cynhyrchion cyfansawdd yn cynnwys y cynhyrchion hynny y mae prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan hanfodol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad Rhif 28/2012 yn nodi amodau mewnforio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd o wledydd cymeradwy.

Mae gofynion mewnforio yn berthnasol i gynhyrchion cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch cig wedi'i brosesu, neu gynhyrchion y mae hanner neu fwy o'r hyn sydd ynddynt yn cynnwys cynhyrchion eraill wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid fel:

  • cynhyrchion llaeth
  • cynhyrchion wyau
  • cynhyrchion pysgodfeydd

Yn rhan o’r gofynion, mae’n rhaid i’r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad a restrir yn y ddeddfwriaeth fel un sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer y cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid a gynhwysir yn y cynnyrch cyfansawdd, a rhaid iddo fod â chynllun gweddillion milfeddygol cymeradwy, yn unol â’r gofyn ym Mhenderfyniad 2011/163/EU a restrir yma.

Mae'n rhaid hefyd i'r cynnyrch cig, y cynnyrch llaeth, y cynnyrch wyau a'r cynnyrch pysgodfeydd sy'n rhan o'r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad gymeradwy a lle bo hynny'n briodol, o sefydliad cymeradwy.

Mae'n rhaid cyflwyno'r dystysgrif swyddogol berthnasol yn Rheoliad 2019/628 gyda'r cynnyrch cyfansawdd os yw'n cynnwys cig wedi'i brosesu, cynnyrch llaeth, cynnyrch wyau neu gynnyrch pysgodfeydd.

Mae'n rhaid i gynhyrchion cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch anifeiliaid arall gael eu cyflwyno gyda'r dystysgrif berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer y cynnwys anifail penodol neu mewn achosion eraill gyda dogfen fasnachol.

Mae cynhyrchion cyfansawdd y mae llai na hanner eu cynnwys yn gynnyrch llaeth wedi'i brosesu hefyd yn ddarostyngedig i'r gofynion hyn ac eithrio lle y bodlonir yr amodau yn Erthygl 6 o Benderfyniad 2007/275/EC.

Mae cynhyrchion cyfansawdd y cyfeirir atynt uchod yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin.

Mae cynnyrch cyfansawdd nad yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch cig wedi'i brosesu ac y mae llai na hanner ohono'n cynnwys cynnyrch arall wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid hefyd yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin ac eithrio lle maent yn bodloni gofynion Erthygl 6 o Benderfyniad 2007/275/EC. Mae'n rhaid i'r cynnwys llaeth ddod o wlad a gymeradwyir ar gyfer cynhyrchion llaeth.

Cynhyrchion nad ydynt yn destun gwiriadau

Mae Atodiad II o Benderfyniad 2007/275/EC yn rhestru rhai bwydydd a chynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol, sef:

  • danteithion (gan gynnwys melysion) a siocled, sy'n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • pasta a nwdls heb eu cymysgu na'u llenwi â chynnyrch cig wedi'i brosesu; sy'n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • bara, cacennau, bisgedi, wafflau (waffles) ac waffers, bisgedi caled, bara tost a chynhyrchion tost tebyg sy'n cynnwys llai nag 20% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • olewydd wedi'u stwffio â physgod
  • stociau a chyflasynnau cawl wedi'u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy'n cynnwys llai na 50% o olew pysgod, powdr pysgod neu ddarnau pysgod
  • atchwanegiadau bwyd wedi'u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy'n cynnwys symiau bach (cyfanswm llai na 20%) o gynhyrchion anifeiliaid wedi'u prosesu heblaw am gynhyrchion cig

Atgoffir gweithredwyr busnesau bwyd mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod unrhyw fwydydd y dymunant eu mewnforio yn cydymffurfio â rheolau cenedlaethol sydd ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Dylai mewnforwyr fodloni eu hunain fod unrhyw gynhyrchion cyfansawdd sy'n dod i Brydain Fawr yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio fel y'u nodir ym Mhenderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad 28/2012. Mae'n werth cofio, lle mae rheolaeth ddiogelu yn berthnasol, er enghraifft dyframaeth Indiaidd, ar gyfer cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid, y byddai hefyd yn berthnasol i'r cynnyrch cyfansawdd gorffenedig.

Pwysig

Ystyrir bod bwyd cyfansawdd a fewnforir o’r UE yn isel ei risg, ac mae’r math hwn o fwyd yn destun gwahanol lefelau o wiriadau wrth y ffin, fel y disgrifir yn y ddolen hon.

Ar gyfer bwydydd cyfansawdd a fewnforir o wledydd nad ydynt yn yr UE, caiff y rhain eu trin fel cynhyrchion canolig eu risg, ac mae’r ddolen hon yn disgrifio’r rheolaethau a ddefnyddir wrth y ffin.

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).