Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Mewnforio cynhyrchion cyfansawdd

Penodol i Gymru a Lloegr

Diffinnir cynnyrch cyfansawdd mewn deddfwriaeth fel (yn yr iaith wreiddiol) ‘foodstuff intended for human consumption that contains both processed products of animal origin and products of plant origin’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yn ôl y diffiniad, mae cynhyrchion cyfansawdd yn cynnwys y cynhyrchion hynny y mae prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan hanfodol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol.

Sylwch mai at ddibenion gwybodaeth yn unig y darperir unrhyw ddolenni i ddeddfwriaeth a ddarperir yn y ddogfen hon, ac mae’n bosib nad y fersiynau diweddaraf ydynt.

Byddwch yn ymwybodol y gall amodau mewnforio gael eu diweddaru oherwydd newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth. Cyfrifoldeb y mewnforiwr yw sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad Rhif 28/2012 yn nodi amodau mewnforio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd o wledydd cymeradwy.

Yn rhan o’r gofynion, mae’n rhaid i’r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad a restrir yn y ddeddfwriaeth fel un sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer y cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid a gynhwysir yn y cynnyrch cyfansawdd, a rhaid iddo fod â chynllun gweddillion milfeddygol cymeradwy, yn unol â’r gofyn ym Mhenderfyniad 2011/163/EU a restrir yma.

Mae'n rhaid hefyd i'r cynnyrch cig, y cynnyrch llaeth, y cynnyrch wyau a'r cynnyrch pysgodfeydd sy'n rhan o'r cynnyrch cyfansawdd ddod o wlad gymeradwy a lle bo hynny'n briodol, o sefydliad cymeradwy.

Mae'n rhaid cyflwyno'r dystysgrif swyddogol berthnasol yn Rheoliad 2019/628 gyda'r cynnyrch cyfansawdd os yw'n cynnwys cig wedi'i brosesu, cynnyrch llaeth, cynnyrch wyau neu gynnyrch pysgodfeydd.

Mae'n rhaid i gynhyrchion cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch anifeiliaid arall gael eu cyflwyno gyda'r dystysgrif berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer y cynnwys anifail, neu mewn achosion eraill gyda dogfen fasnachol.

Mae cynhyrchion cyfansawdd y cyfeirir atynt uchod yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin.

Cynhyrchion nad ydynt yn destun gwiriadau

Nid yw cynnyrch cyfansawdd nad yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch cig wedi'i brosesu ac y mae llai na hanner ohono'n cynnwys cynnyrch arall wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid yn destun gwiriadau milfeddygol mewn Mannau Rheoli ar y Ffin pan fydd yn bodloni gofynion Erthygl 6 o Benderfyniad a gymathwyd 2007/275/CE.

Mae Atodiad II o Benderfyniad 2007/275/EC yn rhestru rhai bwydydd a chynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol, sef:

  • danteithion (gan gynnwys melysion) a siocled, sy'n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • pasta a nwdls heb eu cymysgu na'u llenwi â chynnyrch cig wedi'i brosesu; sy'n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • bara, cacennau, bisgedi, wafflau ac waffers, bisgedi caled, bara tost a chynhyrchion tost tebyg sy'n cynnwys llai nag 20% o gynhyrchion llaeth ac wyau wedi'u prosesu
  • olewydd wedi'u stwffio â physgod
  • stociau a chyflasynnau cawl wedi'u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy'n cynnwys llai na 50% o olew pysgod, powdr pysgod neu ddarnau pysgod
  • atchwanegiadau bwyd wedi'u pecynnu ar gyfer y defnyddiwr ei hun, sy'n cynnwys symiau bach (cyfanswm llai na 20%) o gynhyrchion anifeiliaid wedi'u prosesu heblaw am gynhyrchion cig

Atgoffir gweithredwyr busnesau bwyd mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod unrhyw fwydydd y dymunant eu mewnforio yn cydymffurfio â rheolau cenedlaethol sydd ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid. Dylai mewnforwyr fodloni eu hunain fod unrhyw gynhyrchion cyfansawdd sy'n dod i Brydain Fawr yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio fel y'u nodir ym Mhenderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad 28/2012. Mae'n werth cofio, lle mae rheolaeth ddiogelu yn berthnasol, er enghraifft dyframaeth Indiaidd, ar gyfer cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid, y byddai hefyd yn berthnasol i’r cynnyrch cyfansawdd gorffenedig.

Mewnforio cynhyrchion cyfansawdd o wledydd yn yr UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE

Ystyrir bod bwyd cyfansawdd a fewnforir o’r UE yn isel ei risg ac mae’n destun gwahanol lefelau o wiriadau ar y ffin, fel y disgrifir ar GOV.UK.

Ar gyfer bwydydd cyfansawdd a fewnforir o wledydd nad ydynt yn yr UE, ystyrir bod y rhain yn ganolig eu risg, ac mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r rheolaethau a fydd yn cael eu rhoi ar waith wrth y ffin.

Mae’r dolenni uchod yn dangos categorïau risg y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd.

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30%
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Ystyrir bod cynhyrchion o wledydd nad ydynt yn yr UE yn isel eu risg os ydynt yn silff-sefydlog ar dymheredd ystafell ac wedi’u sterileiddio. Mae’r ddolen uchod yn rhoi arweiniad pellach ar ba gynhyrchion sy'n silff-sefydlog.