Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Symud cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog o Brydain Fawr a gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i Ogledd Iwerddon

Penodol i Ogledd Iwerddon

Sut i symud neu fewnforio cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog i'w bwyta gan bobl o Brydain Fawr neu wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) i Ogledd Iwerddon.

Os ydych yn symud nwyddau o dan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon, gweler y dudalen we ar sut i gofrestru a selio llwythi ar GOV.UK. Mae'r canllawiau canlynol ond yn ymwneud â symudiadau i Gogledd Iwerddon sydd y tu allan i gwmpas Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon.

Mae ‘cynhyrchion pysgodfeydd’ yn golygu pob anifail dŵr y môr neu ddŵr croyw (ac eithrio molysgiaid dwygragennog byw, echinodermau byw, tiwnigau byw a boldroediaid (gastropods) morol byw, a mamaliaid, ymlusgiaid a brogaod) p'un a ydyn nhw'n wyllt neu'n rhai sy'n cael eu ffermio ac yn cynnwys pob ffurf fwytadwy, pysgod cyfan neu rannau a chynhyrchion anifeiliaid o'r fath.

Mae ‘molysgiaid dwygragennog’ yn golygu molysgiaid dwygragennog (lamellibranch) sy'n bwydo drwy hidlo. Mae creaduriaid sy’n bwydo drwy hidlo mewn perygl o amlyncu bacteria a biotocsinau peryglus. Oherwydd y risg hwn, dim ond o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol. Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni safonau deddfwriaethol.

Symud cynhyrchion o Brydain Fawr a gwledydd cymeradwy y tu allan i'r UE i Ogledd Iwerddon 

Rhaid i gynhyrchion a gaiff eu symud i Ogledd Iwerddon fodloni'r amodau canlynol:

  • rhaid iddynt ddeillio o wlad gymeradwy tu allan i’r UE 
  • rhaid iddynt gynnwys ardystiad iechyd allforio wedi'i lofnodi'n briodol
  • rhaid iddynt ddeillio o sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi’u cymeradwyo gan yr UE neu ardaloedd cynhyrchu molysgiaid dwygragennog cymeradwy 
  • rhaid iddynt ddod i mewn i’r UE drwy Bwynt Mynediad lle y cynhelir gwiriadau milfeddygol/hylendid gan Arolygydd Pysgod Swyddogol
  • rhaid rhoi gwybod am bob llwyth (consignment) ymlaen llaw i’r Pwynt Mynediad cyn iddo gyrraedd
  • rhaid iddynt fodloni’r amodau iechyd y cyhoedd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog a’u rhoi ar y farchnad sydd wedi’u nodi yn Rheoliad (CE) Rhif 852/2004 a Rheoliad (CE) 853/2004

Caniateir i rai gwledydd cymeradwy sydd y tu allan i’r UE allforio un ai cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog yn unig. Gallwch chi wirio o dan ba gategori y mae eich cynnyrch yn dod yn Rheoliad 2021/405.

Mae Prydain Fawr wedi'i rhestru gan yr UE fel trydydd gwlad gymeradwy.

Gofynion i symud llwyth

Cofrestru ar TRACES NT

I symud pysgod i Ogledd Iwerddon, mae angen i chi gofrestru ar TRACES NT, sef platfform ar-lein yr UE a ddefnyddir wrth fewnforio rhai cynhyrchion gan gynnwys bwyd sy’n dod o anifeiliaid a bwyd penodol nad yw’n dod o anifeiliaid. Mae gan DAERA ganllawiau ar sut i gofrestru ar TRACES NT

Rhoi gwybod ymlaen llaw am gynhyrchion yn cyrraedd

Mae angen i chi roi gwybod ymlaen llaw bod cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog yn cyrraedd Gogledd Iwerddon gan ddefnyddio Dogfen Mynediad Iechyd Cyffredin (CHED-P) ar Traces NT. Rhaid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn iddynt gyrraedd. Bydd rhai Pwyntiau Mynediad yn caniatáu pedair awr o rybudd oherwydd oes silff byr cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog byw. Ewch ati i ymgynghori â'r cynghorau lleol sy'n cynnal y gwiriadau i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan DAERA ganllawiau ar gwblhau CHED-P.

Tystysgrif iechyd

Mae angen i chi ddarparu tystysgrif iechyd allforio, ac eithrio ar gyfer glanio pysgod ffres yn uniongyrchol ym mhorthladdoedd Gogledd Iwerddon o gychod pysgota â baner y DU. Mae gan gynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog wahanol Dystygrifau Iechyd Allforio.

Tystysgrif ddal

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystysgrif ddal (rhagor o fanylion isod o dan pysgota anghyfreithlon), ond nid ar gyfer molysgiaid dwygragennog byw.

Rheolaethau ar y pwynt mynediad yng Ngogledd Iwerddon o Brydain Fawr a gwledydd y tu allan i'r UE 

Er mwyn symud pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog byw i Ogledd Iwerddon, dylai'r llwyth fynd i mewn trwy Bwynt Mynediad yng Ngogledd Iwerddon, lle bydd Arolygydd Pysgod Swyddogol yn cynnal unrhyw wiriadau angenrheidiol.

Mae gan DAERA fanylion llawn Pwyntiau Mynediad Gogledd Iwerddon gan gynnwys lleoliad, arwyddion cyfeiriad a'r hyn a ddisgwylir wrth gyrraedd.

Gwiriadau dogfennol

Bydd gwiriadau dogfennol yn cael eu cynnal ar y pwynt mynediad i Ogledd Iwerddon. Er mwyn osgoi oedi, mae'n hanfodol bod yr holl ddogfennau angenrheidiol yn gyflawn, yn gywir ac yn cael eu cyflwyno o fewn yr amserlenni hysbysu. Bydd y cyfnod cyn-hysbysu 24 awr yn caniatáu amser i staff Pwyntiau Mynediad godi unrhyw wallau gyda masnachwyr a sicrhau taith mor gyflym â phosibl trwy'r Pwynt Mynediad.

Cynnal gwiriadau hunaniaeth (ID) a gwiriadau ffisegol

Gwiriad hunaniaeth

Archwiliad gweledol yw hwn i sicrhau bod y dogfennau sy'n cyd-fynd â'r llwyth bwyd yn cyd-fynd â'r labelu a chynnwys y llwyth. Mae’r holl gynhyrchion pysgodfeydd a’r molysgiaid dwygragennog yn destun gwiriad hunaniaeth, mewn rhai achosion gall hyn fod yn wiriad sêl swyddogol yn unig. Bydd staff mewn Pwyntiau Mynediad yn gwirio i sicrhau bod y sefydliad a'r wlad wreiddiol a restrir ar y labelu ill dau wedi'u cymeradwyo i'w mewnforio i'r UE. Os ydych chi'n defnyddio sêl swyddogol, cofiwch gynnwys manylion yn eich CHED-P.

Gwiriad ffisegol

Gall gwiriad ffisegol ar fwyd gynnwys gwiriadau ar:

  • y dull cludo
  • deunydd pecynnu
  • labelu
  • tymheredd
  • addasrwydd y cynnyrch

Gellir samplu ar gyfer dadansoddi a phrofi labordy yn unol â'r Cynllun Monitro Cenedlaethol ac unrhyw wiriad arall sy'n angenrheidiol i wirio cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd. Dewisir cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog i'w harchwilio'n ffisegol ar gyfraddau a sefydlwyd yn Rheoliad 2019/2129.

Mae darpariaethau ychwanegol ar gyfer gweithredu Rheolaethau Swyddogol mwy Cadarn. Mae hyn yn caniatáu gwiriadau ychwanegol (fel samplu) ar gyfer cynhyrchion sydd wedi methu’n ddifrifol yn flaenorol (er enghraifft – presenoldeb gweddillion milfeddygol mewn berdys (shrimp) a ffermir) neu'n agored i arferion twyllodrus. Yn ogystal, mae mesurau diogelu penodol ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol o rai gwledydd. Er enghraifft, mae angen tystysgrifau prawf a gofynion cyfradd samplu 50% ar gynhyrchion pysgodfeydd a ffermir o India.

Marciau adnabod

Rhaid i lwythi o gynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog arddangos marc adnabod yn unol â gofynion rheoliadol, sy'n berthnasol i'r mwyafrif o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Cyfrifoldeb busnesau bwyd yng Ngogledd Iwerddon yw sicrhau nad yw eu cynhyrchion yn peri risg iechyd i'r cyhoedd. Bydd gweithredwr y busnes bwyd yn y man cyrraedd (y safle bwyd yng Ngogledd Iwerddon), yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, yn cynnal system o’i wiriadau ei hun o dan gynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) wedi’i ddiffinio ymlaen llaw er mwyn bodloni safonau hylendid gofynnol.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Canllawiau ar farciau iechyd ac adnabod

Pysgota anghyfreithlon

Mae symud pysgod i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr a gwledydd y tu allan i'r UE yn ddarostyngedig i ofynion sy'n ymwneud â Physgota anghyfreithlon, pysgota heb ei adrodd a physgota heb ei reoleiddio (IUU).

Mae angen ardystiad (tystysgrif ddal wedi'i dilysu) ar y symudiadau hyn sy'n nodi pryd y cafodd y pysgod eu dal a bod y llong yn gweithredu'n gyfreithlon. 

Efallai y bydd angen tystysgrif ddal a dogfennaeth IUU arall i gyd-fynd â physgod y bwriedir eu bwyta gan bobl, lle:

  • rydych chi'n symud pysgod o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn uniongyrchol
  • mae pysgod a laniwyd ym mhorthladdoedd Prydain Fawr (gan gynnwys Ynys Manaw) gan longau â baner Gogledd Iwerddon yn cael eu symud i Ogledd Iwerddon wedi hynny
  • mae pysgod sy'n dod o longau â baner Prydain Fawr a laniwyd ym mhorthladdoedd Prydain Fawr yn cael eu symud gennych chi fel y masnachwr i Ogledd Iwerddon
  • rydych chi'n symud cynhyrchion pysgod i Brydain Fawr ac mae rhyw fath o brosesu/storio wedi'i gwblhau ym Mhrydain Fawr cyn eu symud ymlaen i Ogledd Iwerddon (efallai y bydd yn rhaid i chi ddarparu manylion i gwblhau'r wybodaeth dystysgrif ddal berthnasol ar gyfer masnachwr Prydain Fawr) 

Nid oes angen tystysgrif dal allforio arnoch os ydych chi'n symud unrhyw un o'r canlynol:

  • pysgod a physgod cregyn a ffermir
  • pysgod dŵr croyw neu bysgod cregyn dŵr croyw
  • pysgod mân (fish fry) neu larfa
  • rhai molysgiaid (gan gynnwys cregyn gleision, cocos, wystrys a chregyn bylchog)

Gweler y rhestr lawn o gynhyrchion sydd wedi'u heithrio o'r diffiniad o ‘gynhyrchion pysgodfeydd’.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau Create a UK catch certificate.

Dogfen storio ar gyfer pysgod sy'n cael eu storio ond nid eu prosesu mewn safle ym Mhrydain Fawr

Os ydych chi'n symud pysgod o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ar gyfer unrhyw bysgod sy'n dod o wlad arall sydd wedi'u storio ym Mhrydain Fawr am 24 awr neu fwy, ond heb eu prosesu mewn unrhyw ffordd, bydd angen i chi greu dogfen storio. Rhaid i chi gadw copi o'r dystysgrif ddal o'r llwyth gwreiddiol gyda'r ddogfen storio.

Datganiad prosesu – ar gyfer pysgod a brosesir ym Mhrydain Fawr

Os ydych chi'n symud pysgod o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ar gyfer unrhyw bysgod sy'n dod o wlad arall sydd wedi'u prosesu ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi greu datganiad prosesu. Rhaid i chi gadw copi o'r dystysgrif ddal o'r llwyth gwreiddiol gyda'r datganiad prosesu.

Mewnforio cregyn bylchog (scallops) o’r Unol Daleithiau

Dim ond o Dalaith Washington a Massachusetts y caniateir mewnforio molysgiaid dwygragennog, echinodermau, tiwnigogion a boldroediaid morol byw, rhai wedi’u rhewi neu rai wedi’u prosesu i’w bwyta gan bobl o’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, gall gweithredwyr busnesau bwyd fewnforio’r cyhyr atynnwr (adductor muscle) o gregyn bylchog (pectinidae/scallops) nad ydynt yn dod o ddyframaeth, ond mae’n rhaid ei wahanu’n gyfan gwbl o’r ymasgaroedd (viscera) a’r gonadau (gonads).

Cyfnod addasu i fasnachwyr awdurdodedig sy'n symud bwyd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Mae’r trefniadau diweddaraf ar y Cynllun ar gyfer Symudiadau Awdurdodedig i Ogledd Iwerddon (STAMNI), ar gyfer masnachwyr awdurdodedig fel archfarchnadoedd a’u cyflenwyr dibynadwy, i’w gweld ar wefan DAERA fel Canllawiau Manwl i Fasnachwyr Awdurdodedig.