Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Diweddaru fframwaith cydymffurfio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar ddiweddariad i fframwaith cydymffurfio ar arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.

Crynodeb o'r ymatebion

Diweddaru fframwaith cydymffurfio’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr - crynodeb o'r ymatebion (cyhoeddwyd 25 Mai 2023 - Saesneg yn unig)

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr
  • Proseswyr llaeth amrwd
  • Sefydliadau masnach llaeth/cynnyrch llaeth
  • Defnyddwyr cynhyrchion llaeth
  • Awdurdodau gorfodi

Diben yr ymgynghoriad

Rhoi cyfle i grwpiau sydd â buddiant wneud sylwadau am y materion a ganlyn: 
1)    Newidiadau arfaethedig i’r ffordd y caiff sgoriau cydymffurfio terfynol eu cymhwyso ar ôl i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gynnal arolygiadau ar sail rheolaethau swyddogol o ran cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr  
2)    Y modd y caiff y fframwaith sgorio risg newydd, a fydd yn cynnwys arolygiadau ychwanegol ar gyfer sefydliadau lle ceir risg uwch, ei ddefnyddio yn sgil y newidiadau uchod.

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i dairyops@food.gov.uk 

Manylion yr ymgynghoriad

Rhestr o fyrfoddau ac acronymau a ddefnyddir yn yr ymgynghoriad hwn:
ASB – Asiantaeth Safonau Bwyd
FSS – Safonau Bwyd yr Alban

Cyflwyniad

Yn ddiweddar, bu i’r ASB gomisiynu a chwblhau adolygiad i asesu pa mor aml y bydd sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr yn cael arolygiadau wedi’u rhaglennu ar sail rheolaethau swyddogol. Cynhelir arolygiadau o’r fath i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth y bwriedir iddi ddiogelu defnyddwyr a sicrhau bod bwyd yn ddiogel. 

Mae’r fframwaith sgorio risg presennol wedi bod ar waith ers 2012, ac roedd yr adolygiad yn ceisio sicrwydd bod y drefn hon yn dal i fod yn berthnasol ac yn addas i’r diben. 

Bu’r adolygiad yn ystyried pa mor aml y bydd yr ASB yn cynnal arolygiadau wedi'u rhaglennu ar sail rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cynhyrchu llaeth cynradd cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Nid oedd yr adolygiad yn cynnwys unrhyw weithgareddau eraill a gyflawnir gan yr ASB nac asiantaethau eraill i gynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â bwyd, bwyd anifeiliaid na lles anifeiliaid.  

Mae’r holl argymhellion a wnaed yn sgil yr adolygiad ac a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn yn cynnig newid polisi’r ASB, heb fod angen newid deddfwriaeth o gwbl.

Cefndir

Sefydlwyd gweithgor o randdeiliaid allweddol i ddarparu dull cytbwys a chyson o weithredu ac i adolygu’r bylchau rhwng arolygiadau ar hyn o bryd. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r ASB ac o Safonau Bwyd yr Alban (FSS). Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y system bresennol o ddefnyddio cynlluniau sicrwydd (Cynllun Sicrwydd Fferm y Tractor Coch ar gyfer llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) i reoli cydymffurfiaeth â’u safonau ac i roi adroddiadau achlysurol i’r ASB am ganfyddiadau eu harchwiliadau yn rhoi sicrwydd digonol. Mae hyn, yn ei dro, yn caniatáu i aelodau Cynllun Llaeth y Tractor Coch gael “cydnabyddiaeth ar sail perfformiad” sy’n peri nad yw arolygiadau’r ASB ar sail rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal mor aml ar y safleoedd hyn os ydynt yn parhau i gydymffurfio â safonau’r cynllun sicrwydd.  
At hynny, roedd y dystiolaeth a’r data’n dangos, ar y cyfan, fod y bylchau rhwng arolygiadau a gynhelir fel mater o drefn ar bob fferm gofrestredig yn foddhaol ac yn gymesur ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, nodwyd y byddai modd gwneud rhai gwelliannau i’r ffordd y mae’r ASB yn sicrhau bod safleoedd y canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio yn dychwelyd i sefyllfa lle maent yn cydymffurfio ac yn cynnal y safonau disgwyliedig.

Y prif gynigion

Mae’r ASB yn cynnig addasu’r fframwaith sgorio risg a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth ac i bennu pa mor aml y bydd yr ASB yn cynnal arolygiadau ar sail rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau llaeth cofrestredig. Mae’r ASB yn bwriadu cynnal arolygiadau o’r fath yn amlach mewn sefydliadau yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio llai â’r gofynion.

Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud yr hyn a ganlyn:

  • Cyflwyno system sgorio rifiadol sy’n pwysoli meysydd pwysicach neu feysydd sy’n cael mwy o effaith (meysydd â chysylltiadau cryfach ag iechyd y cyhoedd/lles anifeiliaid) a defnyddio cyfanswm y sgôr ar ddiwedd yr arolygiad i bennu’r categorïau sgorio risg 
  • Cyflwyno tri chategori sgorio sy’n canolbwyntio ar risg yn lle’r pedwar categori cydymffurfio presennol
  • Defnyddio categori risg safle ar ôl ei arolygu i bennu pa bryd y cynhelir yr arolygiad nesaf wedi’i raglennu ar sail rheolaethau swyddogol ar y safle hwnnw. O wneud hyn, bydd modd blaenoriaethu adnoddau’r ASB i roi sylw i’r busnesau hynny sy’n cydymffurfio leiaf, a lle mae’r risg, o’r herwydd, yn uwch

Y drefn bresennol 

Ar hyn o bryd, ar ôl i’r ASB gwblhau arolygiad drwy gynnal rheolaethau swyddogol, bydd yn rhoi sgôr gydymffurfio i ffermydd, a byddant yn bodloni un o bedair lefel gydymffurfio gyffredinol: Da, Boddhaol ar y cyfan, Angen gwella, neu Angen gwella ar frys. Ceir fframwaith sy’n rhoi canllawiau i arolygwyr am y materion y dylent eu hystyried cyn penderfynu pa lefel gydymffurfio i’w phennu, gan ddibynnu ar yr hyn y maent wedi’i weld yn ystod yr arolygiad, ond mae’r canllawiau a geir yn y fframwaith hwn yn bur agored i gael eu dehongli. Er ei bod yn bwysig bod modd i’r arolygwyr ddehongli’r canllawiau i ryw raddau, cydnabuwyd y bydd fframwaith mwy strwythuredig yn darparu trefn fwy cyson. Nid yw’r lefelau cydymffurfio presennol ychwaith yn cael unrhyw ddylanwad ar ba bryd y cynhelir yr arolygiad nesaf ar sail rheolaethau swyddogol, a phan fydd safle wedi unioni unrhyw/pob achos o ddiffyg cydymffurfio, bydd yn dychwelyd i gael ei arolygu yn unol â’r amserlen wreiddiol (bob deg mlynedd, bob dwy flynedd neu bob chwe mis).

Y cynigion manwl 

Felly, argymhellwyd y dylid mabwysiadu fframwaith sgorio cydymffurfiaeth newydd a diwygiedig, gan ddefnyddio system sgorio rifiadol â sgoriau wedi’u pwysoli mewn meysydd y tybir eu bod yn bwysicach/yn cael mwy o effaith, gyda’r sgôr derfynol yn rhoi sgôr risg pob fferm ar sail canfyddiadau arolygiad diweddaraf yr ASB ar sail rheolaethau swyddogol.

Mae’r system sgorio arfaethedig sy’n tanlinellu’r meysydd y tybir eu bod yn cael mwy o effaith ac y mae sgoriau uwch ynghlwm wrthynt o’r herwydd, ynghyd â’r amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal arolygiadau ychwanegol, i’w gweld yn Atodiad A.

Bydd yr Arolygwyr Hylendid Llaeth yn cynnal eu harolygiadau, gan adolygu pob adran yn unol â’r is-benawdau a geir ar ochr chwith y tabl sgorio sydd i’w weld yn Atodiad A.  Byddant yn cael canllawiau ynghylch y ffactorau i’w hystyried pan fyddant yn pennu sgôr pob un o’r adrannau hyn, a byddant yn rhoi sgôr briodol iddynt.

Ar ôl cwblhau’r arolygiad, bydd sgôr gyffredinol yn cael ei chyfrifo drwy ddefnyddio cyfanswm sgoriau’r is-benawdau ac, ar sail y sgôr hon, bydd sefydliad yn cael ei roi mewn un o dri chategori sgôr risg cyffredinol (isel, canolig neu uchel). Y sgôr risg derfynol fydd yn pennu pa bryd y cynhelir arolygiad arferol nesaf yr ASB ar sail rheolaethau swyddogol. Yna, bydd y bwlch rhwng pob arolygiad arferol yn y dyfodol yn cael ei bennu yn ôl y canlyniad neu’r sgôr a gafwyd yn ystod yr arolygiad arferol blaenorol a'r categori risg y mae'r safle’n perthyn iddo. 

O fabwysiadu’r drefn hon, bydd modd targedu adnoddau’r ASB yn well i roi sylw i fusnesau sy’n cydymffurfio llai.

Ni chynigir unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth, felly mae newidiadau i’r camau gorfodi a gymerir ar gyfer nodi unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio tu hwnt i gwmpas y cynnig hwn. Bydd yr ASB yn parhau i fynd i’r afael ag unrhyw gamau gorfodi gofynnol o dan y drefn bresennol.

Mae safleoedd sy’n cynhyrchu llaeth amrwd y bwriedir iddo gael ei yfed a’i gyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol yn destun gwaith samplu at ddibenion dilysu gan yr ASB ar yr un adeg â’u harolygiad chwe mis arferol (o leiaf ddwywaith y flwyddyn). Os cynhelir arolygiadau ychwanegol oherwydd nad yw sefydliad yn cydymffurfio, nid yw’n golygu y bydd gwaith samplu ychwanegol yn cael ei wneud yn awtomatig fel rhan o’r arolygiadau hyn ar draul gweithredwr y busnes bwyd. Os tybir bod angen gwneud gwaith samplu ychwanegol, trafodir y mater yn glir â gweithredwr y busnes bwyd ar y pryd.

Dim ond i fframwaith cydymffurfio’r ASB ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar safleoedd cynhyrchu cynradd y mae’r newidiadau arfaethedig yn berthnasol. Mae gweithgareddau asiantaethau eraill o ran y rheolaethau swyddogol tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn.

Yr effeithiau

Ni fydd y newidiadau arfaethedig i’r fframwaith cydymffurfio yn cynnwys unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth, felly nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Yn unol ag arferion gorau, mae’r ASB wedi ystyried y costau ar buddion posib a allai ddod i ran rhanddeiliaid, gan gynnwys yr ASB, awdurdodau lleol a’r diwydiant, o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig. Ceir crynodeb o fanylion y costau a’r buddion a ystyriwyd isod. 

Nifer y safleoedd cynhyrchu llaeth cynradd cofrestredig yng Nghymru a Lloegr

Yn ôl y sefyllfa ym mis Tachwedd 2022, ceir 6,379 o safleoedd llaeth cyfanwerthol yn unig a 127 o safleoedd cofrestredig llaeth yfed amrwd yn Lloegr. O blith y 127 o safleoedd llaeth yfed amrwd, mae 106 hefyd yn cynhyrchu llaeth i’w gyfanwerthu. Yng Nghymru, ceir 1,512 o safleoedd llaeth cyfanwerthol yn unig a naw safle llaeth yfed amrwd cofrestredig. Mae pob un o’r naw cynhyrchydd llaeth yfed amrwd hefyd yn cynhyrchu llaeth i’w gyfanwerthu. 

Yn y model presennol, os ceir hyd i achosion difrifol o ddiffyg cydymffurfio, cynhelir arolygiad dilynol o’r safle. Os caiff yr achosion hyn eu hunioni, bydd y safle’n dychwelyd i’w amserlen arolygu flaenorol, sef naill ai bob chwe mis (os yw’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd), bob dwy flynedd, neu bob deg mlynedd (os yw’n aelod o Gynllun Sicrwydd Llaeth y Tractor Coch). 

Bydd y model arfaethedig yn ystyried difrifoldeb yr achosion o ddiffyg cydymffurfio y cafwyd hyd iddynt gan ddefnyddio’r system sgorio risg a geir yn Atodiad B. Ar sail y sgôr hon, pennir pa mor aml y bydd safle’n cael ei arolygu yn y dyfodol. 

Cynhelir yr arolygiadau llaeth a geir yng nghwmpas yr ymgynghoriad hwn a’r Asesiad Effaith gan yr ASB, felly ni fydd yn effeithio ar yr awdurdodau lleol o gwbl. 

Y gost i’r diwydiant

I gychwyn, bydd y newid arfaethedig i’r polisi yn peri iddi fod yn ofynnol i gynhyrchwyr llaeth yfed amrwd a chynhyrchwyr llaeth cyfanwerthol ddeall y drefn newydd o ran pa mor aml y bydd arolygiadau’n cael eu cynnal. Rydym yn rhagdybio y bydd un rheolwr fesul safle yn treulio awr yn ymgyfarwyddo â’r newidiadau. At y diben hwn, rydym yn defnyddio tâl canolrif fesul awr ar gyfer rheolwyr o £26.56  (ar ôl ystyried gorbenion) i roi cyfanswm cost ymgyfarwyddo untro ar gyfer pob safle llaeth o £172,795.46 yn Lloegr a £40,396.85 yng Nghymru.

Bydd y fframwaith cydymffurfio arfaethedig yn newid pa mor aml y cynhelir arolygiadau ar sail rheolaethau swyddogol ar safleoedd cynhyrchu cynradd er mwyn blaenoriaethu adnoddau’r ASB i roi sylw i’r safleoedd sy’n cydymffurfio leiaf.  

Bydd cynnydd yn nifer yr arolygiadau’n arwain at gost amser sy’n gysylltiedig â chynnal arolygiadau ychwanegol o safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio. Bydd safleoedd sy’n cydymffurfio yn parhau i gael eu harolygu yn ôl yr amserlen arferol bresennol, sef naill ai bob deg mlynedd, bob dwy flynedd, neu bob chwe mis, yn unol â’u lefel risg. 

Nid yw’r ASB yn codi tâl ar safleoedd am arolygiadau llaeth. Ar safleoedd sy’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd, mae’r ASB yn ymgymryd â gwaith samplu at ddibenion dilysu yn ystod eu harolygiad chwe mis arferol. Ni ragdybir y bydd yr ASB yn ymgymryd ag unrhyw waith samplu ychwanegol oherwydd y polisi hwn ac felly ni fydd costau gorfodi’r diwydiant yn cynyddu. 

Y costau i'r ASB 

Bydd y newidiadau arfaethedig i’r fframwaith cydymffurfio yn effeithio ar rôl Arolygwyr Hylendid Llaeth yr ASB o ddydd i ddydd, gan beri iddi fod yn ofynnol iddynt ddarllen a deall y newidiadau. Bydd y newidiadau’n cael eu rhannu drwy ddigwyddiad hyfforddi untro yr amcangyfrifir y bydd yn cymryd hyd at un diwrnod gwaith fesul arolygydd. Rydym yn rhagdybio bod diwrnod gwaith yn para 7.5 awr ac yn lluosi’r ffigur hwn â chyflog fesul awr o £20.81 (ar ôl cynyddu’r swm i ystyried gorbenion). Ar hyn o bryd, mae’r ASB yn cyflogi 24 Arolygydd Hylendid Llaeth sy’n rhoi cost amser hyfforddi o £3,745.80. Ar ôl hynny, bydd yr hyfforddiant hwn yn dod yn rhan o ddeunyddiau hyfforddiant cynefino arferol yr Arolygwyr Hylendid Llaeth, felly gellir diystyru unrhyw gostau hyfforddi parhaus ychwanegol. Rydym yn disgwyl y bydd un aelod o staff yr ASB ar radd Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) yn paratoi’r deunydd ac yn cyflwyno’r hyfforddiant dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Rydym wedi cymryd cyflog misol cyfartalog staff ar radd HEO ac wedi’i rannu ag 20 i gyfrifo’r gost fesul diwrnod gwaith. O gymryd y gwerth hwn a’i luosi â dau ar gyfer nifer y diwrnodau y bydd y dasg yn ei gymryd, rydym yn amcangyfrif mai £366.00 fydd cost darparu’r hyfforddiant i’r ASB. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar-lein neu yn un o adeiladau’r ASB, felly rydym yn disgwyl mai sero fydd cost lleoliad yr hyfforddiant. Gyda’i gilydd, bydd yr hyfforddiant yn costio cyfanswm o £4,112. 

Mae’r newid i’r fframwaith cydymffurfio yn debygol o arwain at gynnydd cychwynnol yn nifer yr arolygiadau a gynhelir ar safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio, er bod disgwyl i’r cynnydd hwn fod yn fach yn y diwydiant llaeth gan mai dim ond 0.2% o’r safleoedd yn Lloegr a 0.1% o’r safleoedd yng Nghymru sy’n perthyn i’r categori ‘Angen gwella ar frys’. Ni chodir tâl ar fusnesau llaeth am arolygiadau, felly mae cost gychwynnol y gwaith gorfodi yn ymwneud â’r amser y bydd yn ei gymryd i’r ASB gynnal arolygiadau ychwanegol. Mae traean o’r Arolygwyr Hylendid Llaeth yn ymgymryd â gwaith llaeth ar sail amser llawn, tra mae’r ddau draean o arolygwyr sy’n weddill yn cael eu cyflogi gan yr ASB fel Arolygwyr Hylendid Cig, a bydd angen ôl-lenwi eu swyddi pan fyddant yn cael eu rhyddhau o bryd i’w gilydd i gynorthwyo â’r gwaith o gynnal arolygiadau llaeth. Gallai hyn gynyddu cyfanswm y gost i’r ASB. Mae’n anodd amcangyfrif yn fanwl gywir y cynnydd cychwynnol yn y costau gorfodi a’r duedd hirdymor, oherwydd bydd amlder yr arolygiadau’n dibynnu ar ymddygiad busnesau ac ar ganlyniadau eu harolygiadau diweddaraf. Felly, rydym yn amcangyfrif effaith yr arolygiad cyntaf i ddarlunio uchafswm y gost fesul blwyddyn dros y ddwy flynedd gyntaf. 

Rydym yn rhagdybio y bydd yn cymryd awr ar gyfartaledd fesul Arolygydd Hylendid Llaeth (neu Arolygydd Hylendid Cig) i gynnal arolygiad ychwanegol. Eu cyflog fesul awr yw £20.81 (ar ôl cynyddu’r swm i ystyried gorbenion). Nid yw’n bosib cyfrifo’r costau’n fanwl gywir ond gallwn amcangyfrif ar sail rhai rhagdybiaethau. Bydd y newid yn arwain at gynnydd yn nifer yr arolygiadau, yn sicr i ddechrau, ac rydym yn disgwyl y gallai hyn gostio hyd at £50,000 dros ddwy flynedd pe bai’r holl safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd yn cael arolygiad ychwanegol cyn iddynt gydymffurfio. Mae hyn yn rhagdybio y gallai pob safle sy’n perthyn i'r categorïau ‘Boddhaol ar y cyfan’, ‘Angen gwella’ ac ‘Angen gwella ar frys’ ar hyn o bryd (tua 2,500 o safleoedd) gael o leiaf un arolygiad ychwanegol dros y ddwy flynedd gyntaf.  

Mae’n llawer anoddach rhagfynegi’r costau yn y tymor hwy gan eu bod yn dibynnu ar wybod pa lefelau cydymffurfio a allai ddod i’r amlwg ar ffermydd a allai gael eu harolygu ar ôl y cyfnod hwn o ddwy flynedd. Fodd bynnag, dylai’r fframwaith newydd beri iddi fod yn haws i fusnesau llaeth barhau i gydymffurfio, felly nid yw'n afresymol tybio y bydd nifer yr arolygiadau ychwanegol y bydd yn ofynnol eu cynnal oherwydd diffyg cydymffurfio yn lleihau, ac y gallent ostwng, yn y pen draw, i nifer cyson fach. Gallai’r nifer fod yn is na’r nifer ar hyn o bryd. 

Disgwylir y bydd cost ynghlwm wrth dechnoleg er mwyn datblygu ap llaeth i gofnodi canfyddiadau arolygiadau a lefelau risg. Mae hyn yn rhan o raglen ddigidoleiddio ehangach yr ASB, a bydd yr ap llaeth yn rhan fach o’r broses gyfan; rydym yn disgwyl y bydd y gost sy’n ymwneud â pha mor aml y cynhelir arolygiadau llaeth yn unig yn fach iawn.

Mae’r newidiadau o ran pa mor aml y cynhelir arolygiadau’n ymwneud yn benodol ag arolygiadau llaeth a orfodir gan yr ASB. Mae rheolaethau swyddogol eraill tu hwnt i gwmpas y cynnig hwn, felly ni fydd yn cael unrhyw effaith ychwanegol ar awdurdodau lleol.

Y buddion

Disgwylir y bydd tri phrif fudd yn deillio o fabwysiadu’r drefn newydd o ran pa mor aml y bydd angen cynnal arolygiadau: 

  • mwy o eglurder i safleoedd llaeth o ran sut maent wedi’u hasesu a sut i ddychwelyd i sefyllfa lle maent yn cydymffurfio, gan leihau’r costau cydymffurfio yn y pen draw
  • mwy o ymddiriedaeth a hyder yn y diwydiant llaeth, oherwydd bydd busnesau llaeth nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu harolygu’n amlach nawr 
  • llai o debygolrwydd y bydd achosion o glefyd a gludir gan fwyd yn deillio o laeth yfed amrwd.

Mwy o eglurder i fusnesau llaeth

O fewn y fframwaith cydymffurfio, mae’r sgôr risg yn rhoi system sgorio rifiadol ar waith y bydd yr Arolygwyr Hylendid Llaeth yn ei defnyddio fel rhan o'u harolygiadau arferol. Mae’r sgoriau wedi'u pwysoli, gan roi mwy o bwyslais ar feysydd lle mae’r risg yn uwch o ran hylendid a lles anifeiliaid. Mae hyn yn well na’r system bresennol, lle mae safleoedd llaeth yn cael sgôr risg sy’n seiliedig yn bennaf ar y gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle. Pan fydd arolygiad wedi’i gwblhau, caiff sgôr gyffredinol ei chyfrifo, a bydd y safle’n perthyn i un o dri chategori risg gwahanol, Gwyrdd, Oren neu Goch. Os caiff safle sgôr Oren (risg ganolig) neu Goch (risg uchel), bydd arolygiadau’n cael eu cynnal yn amlach tu allan i’r cylch arolygu arferol.

Er bod rhai canllawiau ar gael i’r arolygwyr eu dilyn o dan y drefn bresennol, mae’r rhain yn dal i fod yn bur agored i gael eu dehongli, a gall hyn arwain at anghysondeb. Gall diffyg cysondeb o ran cyngor, argymhellion neu farn yr ASB beri anhawster i fusnesau, yn enwedig os oes angen buddsoddi rhywfaint i ddatrys unrhyw broblemau. Er enghraifft, o dan y model presennol, gallai busnes gael adborth gwahanol mewn dau arolygiad gwahanol, er nad oes dim wedi newid rhwng y naill a’r llall.    

Er nad yw’n bosib nac yn ddymunol dileu’n llwyr yr angen i’r arolygwyr ddehongli’r canllawiau, mae’r system sgorio rifiadol yn rhoi mwy o strwythur i’r Arolygwyr Hylendid Llaeth ei ddilyn. O ganlyniad, bydd busnesau llaeth yn gallu deall yn well sut caiff eu sgôr ei phennu, sut mae hyn wedi arwain at eu sgôr gyffredinol, a sut bydd gwella eu sgôr mewn rhai meysydd yn helpu i wella eu sgôr gyffredinol. 

Bydd yr eglurder ychwanegol hwn yn helpu safleoedd llaeth i gydymffurfio ac i barhau i gydymffurfio yn fwy effeithlon. Bydd yn caniatáu iddynt dargedu eu hadnoddau a’u buddsoddiadau yn fwy effeithiol, gan wybod y bydd arolygiadau’n cael eu cynnal mewn ffordd gyson a bod rheswm da dros fuddsoddi. Yn y pen draw, bydd hyn yn lleihau costau cydymffurfio. 

Mwy o ymddiriedaeth a hyder yn y diwydiant llaeth

O ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig, bydd unrhyw safleoedd llaeth â sgôr Oren neu Goch yn cael eu harolygu’n amlach, tu allan i'w cylch arolygu arferol. At hynny, bydd ailarolygiad llawn yn cael ei gynnal a bydd sgôr newydd yn cael ei phennu. O dan y trefniadau presennol, dim ond ar y meysydd hynny y canfuwyd nad oeddent yn cydymffurfio yn yr arolygiad blaenorol y mae ailarolygiad yn canolbwyntio. Rhagwelir y bydd y drefn hon yn arwain at well cysondeb o ran cydymffurfio.

O dargedu adnoddau i roi sylw i safleoedd â sgôr risg uwch, ynghyd â mwy o eglurder i fusnesau llaeth o ran eu lefelau cydymffurfio, disgwylir y bydd yn arwain at fwy o ymddiriedaeth a hyder yn y diwydiant llaeth ymhlith defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.
 
O ennyn mwy o ymddiriedaeth, bydd yn cefnogi twf economaidd hirdymor y sector drwy leihau’r tebygolrwydd o achosion o glefydau a gludir gan fwyd a thrwy ddangos i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid eraill bod hylendid llaeth yn cael ei gymryd o ddifrif.

Potensial i leihau’r tebygolrwydd y bydd achosion o glefydau a gludir gan fwyd yn deillio o laeth yfed amrwd

Ar hyn o bryd, mae safleoedd sy’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd yn cael eu hystyried yn rhai risg uchel ac felly maent yn cael eu harolygu bob chwe mis. O dan y trefniadau arfaethedig, bydd ffermydd sy’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd ac yn perthyn i’r dosbarth:

‘Coch’ yn cael eu hailarolygu cyn pen dau fis. Bydd y safleoedd sy’n perthyn i’r dosbarth ‘Oren’ yn cael eu hailarolygu bedwar mis ar ôl eu harolygiad diweddaraf. Bydd y rhai sy’n perthyn i’r dosbarth ‘Gwyrdd’ yn parhau i gael eu harolygu bob chwe mis yn unol â’r cylch arolygu presennol. 

Gallai’r cynnig i gynnal ailarolygiadau llawn amlach ar sail risg gyfrannu at leihau’r tebygolrwydd y bydd achosion o glefydau a gludir gan fwyd yn deillio o laeth yfed amrwd.

Gall llaeth amrwd gario bacteria peryglus fel Salmonela, E.coli, Listeria, Campylobacter, ac eraill sy’n achosi salwch a gludir gan fwyd. Mae Model Cost Salwch yn amcangyfrif baich clefydau a gludir gan fwyd yn y Deyrnas Unedig, a gellir defnyddio’r amcangyfrifon hyn i amcangyfrif buddion unrhyw gamau gweithredu sy’n lleihau achosion o glefydau a gludir gan fwyd (neu’r costau y bydd modd eu hosgoi).

Isod, ceir darlun o’r costau salwch posib y byddai modd eu hosgoi drwy gynnal arolygiadau’n amlach.

Yn ôl astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, cofnodwyd pedwar brigiad o achosion o glefydau a gludir gan fwyd yn 2017 a oedd yn gysylltiedig â llaeth yfed amrwd, gyda 35 achos i gyd (27 achos o Campylobacter, un achos o Salmonela a saith achos o Shigela). Yn ôl Model Cost Salwch yr ASB, pe bai’r 35 achos hyn wedi digwydd yn 2022, byddai wedi costio tua £140,000 i’r gymdeithas.  

Mae’n anodd gwybod yn union faint o achosion o glefydau a gludir gan fwyd sy’n gysylltiedig â llaeth yfed amrwd a fydd yn cael eu hatal ar gyfer newid pa mor aml y bydd arolygiadau’n cael eu cynnal ar ffermydd sy’n ei gynhyrchu. Fodd bynnag, mae’r ffigurau cost salwch yn awgrymu bod buddion atal yr achosion yn debygol o wrthbwyso costau gwneud hynny dros y tymor canolig i’r tymor hir.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Cafodd y newidiadau arfaethedig eu llunio drwy gynnull gweithgor a oedd yn cynnwys llawer o randdeiliaid gwahanol. 

Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgysylltu â’r sefydliadau a ganlyn: Dairy UK, y Tractor Coch, a Chymdeithas y Cynhyrchwyr Llaeth Amrwd. Cyflwynwyd y fframwaith cydymffurfio diwygiedig arfaethedig yn y cyfarfodydd hyn. Croesawyd y drefn newydd arfaethedig fel cam cadarnhaol ac fe’i cefnogwyd gan y sefydliadau hyn.

Ar ôl i’r ymgynghoriad 12 wythnos ddod i ben, byddwn yn casglu’r holl ymatebion ac yn ymateb iddynt. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion hyn.

Ymatebion

Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn diwedd dydd Gwener, 10 Mawrth 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae’ch sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch eich ymateb i dairyops@food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Os oes angen y ddogfen hon arnoch chi mewn fformat haws ei ddarllen, anfonwch fanylion at y swyddog cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Colin ThompsonArweinydd Gweithrediadau Llaeth
Gweithrediadau Llaeth

Atodiad A: Fersiwn ddrafft o system sgorio arfaethedig y fframwaith cydymffurfio a’r amserlenni arolygu diwygiedig

Adroddiad Asesu Arolygiad Llaeth

Ystafell olchi, storio llaeth a chasglu llaeth    
Y llwybr dynesu a’r ardaloedd cyfagos 0 2 4
Drysau/waliau, /Ystafelloedd storio ac adeiledd 0 2 4
Rheolaeth a hylendid cyffredinol 0 4 8
Cyfanswm (allan o 16)      

Offer godro ac oeri

Pa mor lân yw tanciau ac offer llaeth 0 5 10
Prosesau glanhau a chofnodi 0 4 8
Cyfanswm (allan o 18)      
Gweithrediadau godro
Paratoi tethi 0 4 8
Hylendid gweithredwyr a glanhau 0 4 8
Canfod llaeth anarferol a’i wrthod 0 5 10
Adeiledd a hylendid cyffredinol 0 4 8
Meddyginiaethau milfeddygol 0 3 6
Cyfanswm (allan o 40)          
Lles anifeiliaid    
Glendid ac iechyd anifeiliaid 0 5 10
Llwybrau mynediad, siediau, porthi, pori 0 2 4
Cyfabswn (allan o 14)      
Rhagofynion
Dŵr 0 3 6
Rheoli fermin 0 2 4
Cyfleusterau ynysu 0 1 2
Cyfanswm (allan o 12)      
Cyfanswm 100      

Categorïau risg a bylchau rhwng arolygiadau

Safle nad yw’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd ac sy’n aelod o gynllun sicrwydd llaeth
Sgôr Categori risg Bwlch rhwng arolygiadau
71-100 Coch < 6 mis
17-70 Oren < 2 flynedd
0-16 Gwydd < 10 mlynedd

 

Safle nad yw’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd ac nad yw’n aelod o gynllun sicrwydd llaeth

Sgôr Categori risg Bwlch rhwng arolygiadau
71-100 Coch < 3 mis
17-70 Oren < 1 flynedd
0-16 Gwyrdd < 2 flynedd

 

Safle sy’n cynhyrchu llaeth yfed amrwd
Sgôr Categori risg Bwlch rhwng arolygiadau
71-100 Coch < 2 fis
17-70 Oren < 4 mis
0-16 Gwyrdd < 6 mis